Solomon Jones (Alaw Cadfan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Irion y dudalen Solomon Jones i Solomon Jones (Alaw Cadfan) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:27, 2 Hydref 2024
Cerddor medrus o ardal Rhosgadfan oedd Solomon Jones. Fe'i ganwyd tua'r flwyddyn 1889 a bu farw'n 47 mlwydd oed yn Hydref 1936.
Daeth i amlygrwydd yn ieuanc fel arweinydd llwyddiannus a meistrolgar Côr Meibion Chwarel Penyrorsedd, a mwy nag un côr arall ran hynny, yn enwedig corau plant ac ynglŷn â'r capel. Cyfansoddodd nifer o ganeuon e.e. Casglu a Rhannu (unawd i blant). Yn Chwarel Pen-yr-orsedd y gweithiai a hynny fel gyrrwr yr injan bach. [1]
Roedd hefyd, o'i lencyndod, yn aelod brwd a ffyddlon o Seindorf Moeltryfan yn Rhosgadfan. Ei offeryn oedd y Corn Mawr, y Bâs Dwbwl Bi. Pan fu'n rhaid i'r seindorf honno hepgor gwasanaeth ei harweinydd, Morgan J. Jones, am na ellid fforddio talu iddo, ym 1930, camodd Solomon Jones i'r adwy. Bu'n arwain y band am chwe blynedd hyd ei farwolaeth ym 1936.
Fel cerddor amlwg, cafodd ei urddo â'r enw Alaw Cadfan. I'w bobl ei hun, fodd bynnag, fe'i hanwylid trwy yr enw Dolo.
Mae ei fedd i fyny yn y mynydd ym mynwent Capel Hermon (A), Moeltryfan, ac ar ei garreg torrwyd y geiriau hyn : Llawen a gwasanaethgar oedd ym myd cerdd ar hyd ei oes. [2]
Bu merch iddo, Emily, yn briod ag Owen Griffith Jones o Drefor, a ganwyd iddynt un ferch, Gwyneth. Credir mai yn yr Alban y mae wyres Dolo'n byw. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma