William Parry (Gwilym Droed-ddu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac y...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac yna'n athro cynorthwyol yn Llandwrog. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed. | Ganed '''William Parry''' (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol '''Gwilym Droed-ddu''' - yn Llwyn Angharad, [[Rhostryfan]]. Mab ydoedd i William Parry, gwehydd a Jane ei wraig. Bu'n ddisgybl-athro yn [[Y Bontnewydd]] ac yna'n athro cynorthwyol yn [[Llandwrog]]. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed. | ||
Yn ôl Cybi roedd yn ieithydd dawnus a gyfieithodd swm da o farddoniaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg (yn arbennig gwaith ei hoff fardd, Longfellow), a chyhoeddwyd rhai o'r darnau hyn yn ''Baner ac Amserau Cymru''. Fodd bynnag, heb ymchwilio ymhellach i'r mater, mae'n amhosibl dweud i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddilys. Cyfansoddodd waith gwreiddiol yn y mesurau rhydd, ar ffurf telynegion gan mwyaf. Roedd y rhain fel y gellid disgwyl ar bynciau crefyddol a rhamantaidd, megis Rhieingerdd "Angharad", a geiriau cantawd "Cuddiad a Darganfyddiad Moses". Cyhoeddodd lyfryn o'i waith dan y teitl ''Hirnos Gauaf'' ac ymddangosodd bywgraffiad byr iddo a detholiad o'i waith yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 1903 o'r cylchgrawn ''Cymru''.< | Yn ôl Cybi roedd yn ieithydd dawnus a gyfieithodd swm da o farddoniaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg (yn arbennig gwaith ei hoff fardd, Longfellow), a chyhoeddwyd rhai o'r darnau hyn yn ''Baner ac Amserau Cymru''. Fodd bynnag, heb ymchwilio ymhellach i'r mater, mae'n amhosibl dweud i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddilys. Cyfansoddodd waith gwreiddiol yn y mesurau rhydd, ar ffurf telynegion gan mwyaf. Roedd y rhain fel y gellid disgwyl ar bynciau crefyddol a rhamantaidd, megis Rhieingerdd "Angharad", a geiriau cantawd "Cuddiad a Darganfyddiad Moses". Cyhoeddodd lyfryn o'i waith dan y teitl ''Hirnos Gauaf'' ac ymddangosodd bywgraffiad byr iddo a detholiad o'i waith yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 1903 o'r cylchgrawn ''Cymru''.<ref>Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), t.15.</ref> Mae awdur anhysbys (O.M. Edwards yn bur debygol) yn awgrymu mai oherwydd cyfeillgarwch ei daid efo Dic Aberdaron y cafodd ei wybodaeth o ieithoedd tramor. Roedd ei daid, Hywel Parry, [[Bryn Crach]], yn gyfaill i Dic Aberdaron ac arferai Dic aros dros nos ym Mryn Crach, sydd yn agos i Lwyn Angharad yn Llanwnda. Wedi dweud hynny, bu farw Dic ym 1843 pan nad oedd William Parry yr ŵyr ond yn saith oed.<ref>Anhysbys, ''Gwilym Droed-ddu'', ''Cymru'', Cyf.24 (1903), tt.197-8. Mae nifer o gerddi gan Gwilym Droed-ddu wedi ei gyhoeddi yn y fan honno, ac ymhellach ymlaen yn yr un gyfrol, tt.198-9; 225-8</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:17, 23 Medi 2024
Ganed William Parry (1836-1864) - a fabwysiadodd yr enw barddol Gwilym Droed-ddu - yn Llwyn Angharad, Rhostryfan. Mab ydoedd i William Parry, gwehydd a Jane ei wraig. Bu'n ddisgybl-athro yn Y Bontnewydd ac yna'n athro cynorthwyol yn Llandwrog. Oddi yno aeth i'r coleg hyfforddi athrawon yng Nghaernarfon ym 1855, gan dreulio cyfnodau byr wedyn yn athro yn Y Gaerwen, Môn; Clarach, Sir Aberteifi; Llaniestyn yn Llŷn ac yna Ysgol Penlleiniau ym Mhwllheli. Fel amryw yn ei gyfnod, dioddefai o'r dicïau a bu farw'n 28 oed.
Yn ôl Cybi roedd yn ieithydd dawnus a gyfieithodd swm da o farddoniaeth o'r Almaeneg, y Ffrangeg a'r Saesneg (yn arbennig gwaith ei hoff fardd, Longfellow), a chyhoeddwyd rhai o'r darnau hyn yn Baner ac Amserau Cymru. Fodd bynnag, heb ymchwilio ymhellach i'r mater, mae'n amhosibl dweud i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddilys. Cyfansoddodd waith gwreiddiol yn y mesurau rhydd, ar ffurf telynegion gan mwyaf. Roedd y rhain fel y gellid disgwyl ar bynciau crefyddol a rhamantaidd, megis Rhieingerdd "Angharad", a geiriau cantawd "Cuddiad a Darganfyddiad Moses". Cyhoeddodd lyfryn o'i waith dan y teitl Hirnos Gauaf ac ymddangosodd bywgraffiad byr iddo a detholiad o'i waith yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 1903 o'r cylchgrawn Cymru.[1] Mae awdur anhysbys (O.M. Edwards yn bur debygol) yn awgrymu mai oherwydd cyfeillgarwch ei daid efo Dic Aberdaron y cafodd ei wybodaeth o ieithoedd tramor. Roedd ei daid, Hywel Parry, Bryn Crach, yn gyfaill i Dic Aberdaron ac arferai Dic aros dros nos ym Mryn Crach, sydd yn agos i Lwyn Angharad yn Llanwnda. Wedi dweud hynny, bu farw Dic ym 1843 pan nad oedd William Parry yr ŵyr ond yn saith oed.[2]