Aberdesach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Aberdesach.jpg|bawd|500px|de]] | |||
Enw'r bont ar y briffordd dros | Saif '''Aberdesach''' ar lan y môr ryw filltir i'r gogledd o bentref [[Clynnog Fawr]], a milltir i'r de o bentref [[Pontlyfni]]. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae ''Desach'' yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.<ref>Wicipedia: tudalen ar Aberdesach, yn dyfynnu R.J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), t.13</ref>. Dyry Ifor Williams, Bwrdd Gwybodau Celtiadd, 17, t. 94-5, ffurfiau cynharach megis Aberdidesach (1778, 1781) ac Aberdaydesach (1626). "Rabar" yw'r enw lleol yn y pentref ei hun ond "Aberdesach" yng Nghlynnog a'r pentrefi cyfagos. Mae [[Maen Dylan]] ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i [[Afon Desach]] redeg i'r môr yn y fan hon. | ||
Enw'r bont ar y briffordd dros Afon Desach yw [[Pont Aberdesach]]. | |||
Ceir yno gasgliad bach o dai, rhai ohonynt yn dai a godwyd yn weddol rad fel cabanau aros ar lan môr yn y 1920au a 1930au. | Ceir yno gasgliad bach o dai, rhai ohonynt yn dai a godwyd yn weddol rad fel cabanau aros ar lan môr yn y 1920au a 1930au. | ||
Ni bu erioed gapel nag ysgol yma, ond roedd adeilad Yr Iard efo'i waliau uchel arfer gweithredu fel man | Ni bu erioed gapel nag ysgol yma, ond roedd adeilad Yr Iard efo'i waliau uchel yn arfer gweithredu fel man cadw a dosbarthu glo, gan fod llongau bach hwylio yn arfer dod â llwythi o lo i'r traeth, gan aros ar y traeth i ddadlwytho wedi i'r llanw fynd allan - arfer cyffredin yn y parthau hyn yn y 19g. Roedd odyn galch hefyd yn y cyffiniau, i drin carreg galch a gariwyd i'r ardal i'w ddefnyddio'n wrtaith. | ||
Drylliwyd y llong ''Witness of Sunderland'' yn Aberdesach mewn storm fawr ar 22/23 Tachwedd 1877 a hithau ar ei ffordd o Troon yn yr Alban i Demerara yn Ne America efo llwyth o lo. Yn y tir comin ar draeth Aberdesach ar 6 Rhagfyr, gwerthwyd y glo y llwyddwyd i’w achub. Gwerthwyd y coed ac ati mewn ocsiwn yn yr un lle ar 21 Ionawr 1878. Prynwyd rhan o’r llwyth gan Hugh Jones, [[Pen-y-groes]] ac ef a saerniodd y gadair dderw a ddyfarnwyd i fardd buddugol [[Eisteddfod Llanllyfni]] yn Ebrill 1878.<ref>Y Goleuad, 13 a 18 Ebrill 1878 a’r Genedl Gymreig 18 Ebrill 1878.</ref> | |||
Rhwng Aberdesach a Chlynnog Fawr ar lan y môr yr oedd rhes o fythynnod pysgotwyr a elwid "Y Borth"; maent wedi diflannu o ganlyniad i erydiad yr arfordir.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [www.nantlle.com/aberdesach-cymraeg.htm]</ref> | |||
Nid nepell o Aberdesach ceir fferm fawr [[ | Nid nepell o Aberdesach ceir fferm fawr [[Pennarth]], y'i chysylltir â hanesion y Mabinogi. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 21:33, 11 Medi 2024
Saif Aberdesach ar lan y môr ryw filltir i'r gogledd o bentref Clynnog Fawr, a milltir i'r de o bentref Pontlyfni. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae Desach yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.[1]. Dyry Ifor Williams, Bwrdd Gwybodau Celtiadd, 17, t. 94-5, ffurfiau cynharach megis Aberdidesach (1778, 1781) ac Aberdaydesach (1626). "Rabar" yw'r enw lleol yn y pentref ei hun ond "Aberdesach" yng Nghlynnog a'r pentrefi cyfagos. Mae Maen Dylan ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i Afon Desach redeg i'r môr yn y fan hon.
Enw'r bont ar y briffordd dros Afon Desach yw Pont Aberdesach.
Ceir yno gasgliad bach o dai, rhai ohonynt yn dai a godwyd yn weddol rad fel cabanau aros ar lan môr yn y 1920au a 1930au.
Ni bu erioed gapel nag ysgol yma, ond roedd adeilad Yr Iard efo'i waliau uchel yn arfer gweithredu fel man cadw a dosbarthu glo, gan fod llongau bach hwylio yn arfer dod â llwythi o lo i'r traeth, gan aros ar y traeth i ddadlwytho wedi i'r llanw fynd allan - arfer cyffredin yn y parthau hyn yn y 19g. Roedd odyn galch hefyd yn y cyffiniau, i drin carreg galch a gariwyd i'r ardal i'w ddefnyddio'n wrtaith.
Drylliwyd y llong Witness of Sunderland yn Aberdesach mewn storm fawr ar 22/23 Tachwedd 1877 a hithau ar ei ffordd o Troon yn yr Alban i Demerara yn Ne America efo llwyth o lo. Yn y tir comin ar draeth Aberdesach ar 6 Rhagfyr, gwerthwyd y glo y llwyddwyd i’w achub. Gwerthwyd y coed ac ati mewn ocsiwn yn yr un lle ar 21 Ionawr 1878. Prynwyd rhan o’r llwyth gan Hugh Jones, Pen-y-groes ac ef a saerniodd y gadair dderw a ddyfarnwyd i fardd buddugol Eisteddfod Llanllyfni yn Ebrill 1878.[2]
Rhwng Aberdesach a Chlynnog Fawr ar lan y môr yr oedd rhes o fythynnod pysgotwyr a elwid "Y Borth"; maent wedi diflannu o ganlyniad i erydiad yr arfordir.[3]
Nid nepell o Aberdesach ceir fferm fawr Pennarth, y'i chysylltir â hanesion y Mabinogi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma