Ysgoldy Graeanfryn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 9 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Plac Graeanfryn.jpg|bawd|400px|de|Y plac ger y fan lle safai Capel Graeanfryn]]
[[Delwedd:Plac Graeanfryn.jpg|bawd|400px|de|Y plac ger y fan lle safai Capel Graeanfryn]]


Codwyd '''Ysgoldy Graeanfryn''' ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]] ym 1872. Adeilad syml a nodweddiadol o ysgoldai a chapeli cefn gwlad ydoedd, wedi ei rendro gyda sment ac yn gwbl ddi-addurn.
Codwyd '''Ysgoldy Graeanfryn''' ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda]] ym 1872. Adeilad syml a nodweddiadol o ysgoldai a chapeli cefn gwlad ydoedd, wedi ei rendro gyda sment ac yn gwbl ddi-addurn. Safai ar ymyl y ffordd fawr i Bwllheli ychydig cyn iddi groesi'r rheilffordd ar bont uchel.  


Pwrpas yr adeilad oedd caniatáu i blant Rhesdai Tan-y-cefn a'r ardal gylchynol fedru mynychu ysgol Sul heb orfod cerdded cryn bellter i gyrraedd [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Capel Bryn'rodyn]] ar draws y caeau mewn tywydd anffafriol. Y prif symbylwyr oedd [[Simon Hobley]] a Meyrick Griffith. Roedd Hobley wedi symud yn ôl i'r ardal tua 1867 pan yn 76 oed i dŷ sylweddol Graeanfryn, ond bu'n weini flynyddoedd ynghynt yn y Dinas, ac felly'n ymwybodol o anghenion yr ardal.
Pwrpas yr adeilad oedd caniatáu i blant Rhesdai Tan-y-cefn a'r ardal gylchynol fedru mynychu ysgol Sul heb orfod cerdded cryn bellter i gyrraedd [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Capel Bryn'rodyn]] ar draws y caeau mewn tywydd anffafriol, ac mi roedd o dan aden y capel hwnnw a'i weinidog, y Parch. [[John Jones, Bryn'rodyn]]. Y prif symbylwyr oedd [[Simon Hobley]] a Meyrick Griffith. Roedd Hobley wedi symud yn ôl i'r ardal tua 1867 pan yn 76 oed i dŷ sylweddol [[Graeanfryn]], ond bu'n weini flynyddoedd ynghynt ym [[Plas Dinas|Mhlas Dinas]], ac felly'n ymwybodol o anghenion yr ardal.


Yn y lle cyntaf, cafwyd benthyg gweithdy crŷdd John William Thomas, aelod o'r Wesleiaid fel oedd digwydd bod, ond erbyn haf 1871 roedd y gweithdy'n rhy fach a darparodd Hobley safle ar gyfer yr ysgoldy, tra oedd Griffith yn fodlon gwneud y gwaith adeiladu am ddim, gyda dau gontractor lleol ([[Evan Jones, Dolydd]] a Robert Evans, Cae'r bengam, yn anfon dynion i'w helpu pan oedd eu gwaith yn dawel. Cariwyd deunyddiau gan ffermwyr lleol, gyda Hobley yn gwneud unrhyw beth oedd ar ol i'w wneud. Erbyn 9 Mawrth 1872 roedd yr adeilad yn barod a chynhaliwyd cyfarfod pregethu yno.<ref>William Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', (Caernarfon, 1910), Cyf. 1, t.164</ref>
Yn y lle cyntaf, cafwyd benthyg gweithdy crŷdd John William Thomas, aelod o'r Wesleiaid fel oedd digwydd bod, ond erbyn haf 1871 roedd y gweithdy'n rhy fach a darparodd Hobley safle ar gyfer yr ysgoldy, tra oedd Griffith yn fodlon gwneud y gwaith adeiladu am ddim, gyda dau gontractor lleol ([[Evan Jones, Plas Dolydd]] a Robert Evans, Cae'r bengam), yn anfon dynion i'w helpu pan oedd eu gwaith yn dawel. Cariwyd deunyddiau gan ffermwyr lleol, gyda Hobley yn gwneud unrhyw beth oedd ar ôl i'w wneud. Chwalwyd llawer o furddun hen blas [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]] a defnyddio'r cerrig i godi'r ysgoldy newydd. Erbyn 9 Mawrth 1872 roedd yr adeilad yn barod a chynhaliwyd cyfarfod pregethu yno.<ref>William Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', (Caernarfon, 1910), Cyf. 1, t.164</ref>


I gydnabod cyfraniad allweddol Hobley, lluniwyd englyn gan Y Parch [[John Jones, Bryn'rodyn]]<ref>Hobley, ''loc.cit,''</ref>:
I gydnabod cyfraniad allweddol Hobley, lluniwyd englyn gan Y Parch [[John Jones, Bryn'rodyn]]<ref>Hobley, ''loc.cit.''</ref>:
   
   
  Dyled nid oes yn dilyn - heb ail sôn,
  Dyled nid oes yn dilyn - heb ail sôn,
Llinell 14: Llinell 14:
     Unfryd, ym mro Graeanfryn.
     Unfryd, ym mro Graeanfryn.


Cymerwyd enw oddi ar dŷ Hobley, Graeanfryn, a oedd bron gyferbyn â'r ysgoldy. Dichon i'r ysgoldy golli peth o'i defnyddioldeb wedi i [[Capel Glan-rhyd (MC)|Gapel Glan-rhyd]] gael ei godi ym 1899, a hynny yn sgil llwyddiant Ysgoldy Glan-rhyd a oedd wedi datblygu i fod yn fan cynnal gwasanaeth gyda phregeth bob pnawn Sul.<ref>Hobley, ''op. cit.'', t.346.</ref>
Cymerwyd enw oddi ar dŷ Hobley, Graeanfryn, a oedd bron gyferbyn â'r ysgoldy - ac a ddefnyddid yn aml i ddisgrifio'r ardal o gwmpas yr orsaf yn gyffredinol. Ystyrid yr ysgol Sul fel "ysgol i'r carpiog" (neu ''ragged school'') ar gyfer plant y gymdogaeth na fyddant yn gallu cael eu gwisgo'n ddigon parchus i fynychu capel arall, megis Capel Bryn'rodyn. Yng ngeiriau y Parch. John Jones (Bryn'rodyn):
 
Mae yna yn Graianfryn rai ugeiniau o blant bach tlodion - ac fe ddaw yno ychwaneg eto - heb esgidiau am eu traed, ac heb ddillad am eu cefnau, ac felly yn ''anfit'' i fyned i gapel ''crand''.<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'', (Caernarfon, 1903), t.57</ref>
Caewyd yr ysgoldy wedi i [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda|Gapel Glan-rhyd]] gael ei godi ym 1899, a hynny i raddau yn sgil llwyddiant Ysgoldy Graeanfryn a oedd wedi datblygu i fod yn fan cynnal gwasanaeth gyda phregeth bob pnawn Sul.<ref>Hobley, ''op. cit.'', t.346.</ref> Roedd [[Thomas Williams, Gwylfa]], noddwr mawr y capel newydd, wedi awgrymu codi capel newydd ar yr amod na fyddid yn defnyddio Ysgoldy Graeanfryn at ddiben gwasanaethau bellach; ac na fyddai'r capel newydd yn troi'n "siambr sorri" i aeloadu Bryn'rodyn nag unlle arall.<ref>Nodiadau llsg. mewn meddiant preifat gan David Williams, un o swyddogion Graeanfryn</ref> Serch hyn, aeth yn fater o ffrae rhwng cefnogwyr capel newydd Glan-rhyd a rhai'r fam-gapel, sef Capel Bryn'rodyn, i'r fath raddau fel yr oedd rhaid i'r Cyfarfod Misol ffurfio cyd-bwyllgor o'r ddau gapel a swyddogion yr henaduriaeth i ddatrys y mater. Enillwyd y dydd gan blaid Bryn'rodyn, gyda'r gweinidog, John Jones, yn defnyddio dadleuon gormodieithol i bwysleisio defnyddioldeb y lle - ond edwinai'r defnydd o'r ysgoldy dros y blynyddoedd wedyn<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'', (Caernarfon, 1903), tt.57-8</ref>


Defnyddiwyd yr ysgoldy ar gyfer gweithgareddau eraill. Er enghraifft, ym 1881, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol cystadleuol yno fis Mehefin, pan ofynnwyd am farwnad i goffáu Simon Hobley; y bardd Thomas David Thomas (Glan Padarn) oedd yn fuddugol ac fe gyhoeddwyd ei waith gan O.R. Owen yr un flwyddyn.<ref>Google Books [https://books.google.co.uk/books/about/Marwnad_ar_ol_y_diweddar_Mr_Simon_Hobley.html?id=n7dMGwAACAAJ&redir_esc=y]</ref>
Defnyddiwyd yr ysgoldy ar gyfer gweithgareddau eraill. Er enghraifft, ym 1881, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol cystadleuol yno fis Mehefin, pan ofynnwyd am farwnad i goffáu Simon Hobley; y bardd Thomas David Thomas (Glan Padarn) oedd yn fuddugol ac fe gyhoeddwyd ei waith gan O.R. Owen yr un flwyddyn.<ref>Google Books [https://books.google.co.uk/books/about/Marwnad_ar_ol_y_diweddar_Mr_Simon_Hobley.html?id=n7dMGwAACAAJ&redir_esc=y]</ref>


Chwalwyd yr ysgoldy (oedd wedi cael ei ddefnyddio fel storfa a gweithdy ers blynyddoedd lawer) tua 2000 wrth i'r ffordd gael ei lledu ar gyfer cylchfan newydd ar yr A487. Dynodwyd ei hanes a'r safle trwy godi plac llechen gan y perchennog, Ms Ann Griffiths, a gadwai'r [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|Goat]] gerllaw. Mae'r plac i'w weld wrth y giat mochyn sydd yn arwain at dir yr Hendre.
Chwalwyd yr ysgoldy (oedd wedi cael ei ddefnyddio fel storfa a gweithdy ers blynyddoedd lawer) tua 2000 wrth i'r ffordd gael ei lledu ar gyfer cylchfan newydd ar yr A487. Dynodwyd ei hanes a'r safle trwy godi plac llechen gan y perchennog, Ms Ann Griffiths, a gadwai'r [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|Goat]] gerllaw. Mae'r plac i'w weld wrth y giat mochyn sydd yn arwain at dir yr [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:14, 2 Medi 2024

Y plac ger y fan lle safai Capel Graeanfryn

Codwyd Ysgoldy Graeanfryn ger Gorsaf reilffordd Llanwnda ym 1872. Adeilad syml a nodweddiadol o ysgoldai a chapeli cefn gwlad ydoedd, wedi ei rendro gyda sment ac yn gwbl ddi-addurn. Safai ar ymyl y ffordd fawr i Bwllheli ychydig cyn iddi groesi'r rheilffordd ar bont uchel.

Pwrpas yr adeilad oedd caniatáu i blant Rhesdai Tan-y-cefn a'r ardal gylchynol fedru mynychu ysgol Sul heb orfod cerdded cryn bellter i gyrraedd Capel Bryn'rodyn ar draws y caeau mewn tywydd anffafriol, ac mi roedd o dan aden y capel hwnnw a'i weinidog, y Parch. John Jones, Bryn'rodyn. Y prif symbylwyr oedd Simon Hobley a Meyrick Griffith. Roedd Hobley wedi symud yn ôl i'r ardal tua 1867 pan yn 76 oed i dŷ sylweddol Graeanfryn, ond bu'n weini flynyddoedd ynghynt ym Mhlas Dinas, ac felly'n ymwybodol o anghenion yr ardal.

Yn y lle cyntaf, cafwyd benthyg gweithdy crŷdd John William Thomas, aelod o'r Wesleiaid fel oedd digwydd bod, ond erbyn haf 1871 roedd y gweithdy'n rhy fach a darparodd Hobley safle ar gyfer yr ysgoldy, tra oedd Griffith yn fodlon gwneud y gwaith adeiladu am ddim, gyda dau gontractor lleol (Evan Jones, Plas Dolydd a Robert Evans, Cae'r bengam), yn anfon dynion i'w helpu pan oedd eu gwaith yn dawel. Cariwyd deunyddiau gan ffermwyr lleol, gyda Hobley yn gwneud unrhyw beth oedd ar ôl i'w wneud. Chwalwyd llawer o furddun hen blas Hendre a defnyddio'r cerrig i godi'r ysgoldy newydd. Erbyn 9 Mawrth 1872 roedd yr adeilad yn barod a chynhaliwyd cyfarfod pregethu yno.[1]

I gydnabod cyfraniad allweddol Hobley, lluniwyd englyn gan Y Parch John Jones, Bryn'rodyn[2]:

Dyled nid oes yn dilyn - heb ail sôn,
     Hobley saif bob gofyn;
   Môr o hwyl fydd mwy ar hyn,
   Unfryd, ym mro Graeanfryn.

Cymerwyd enw oddi ar dŷ Hobley, Graeanfryn, a oedd bron gyferbyn â'r ysgoldy - ac a ddefnyddid yn aml i ddisgrifio'r ardal o gwmpas yr orsaf yn gyffredinol. Ystyrid yr ysgol Sul fel "ysgol i'r carpiog" (neu ragged school) ar gyfer plant y gymdogaeth na fyddant yn gallu cael eu gwisgo'n ddigon parchus i fynychu capel arall, megis Capel Bryn'rodyn. Yng ngeiriau y Parch. John Jones (Bryn'rodyn):

Mae yna yn Graianfryn rai ugeiniau o blant bach tlodion - ac fe ddaw yno ychwaneg eto - heb esgidiau am eu traed, ac heb ddillad am eu cefnau, ac felly yn anfit i fyned i gapel crand.[3]

Caewyd yr ysgoldy wedi i Gapel Glan-rhyd gael ei godi ym 1899, a hynny i raddau yn sgil llwyddiant Ysgoldy Graeanfryn a oedd wedi datblygu i fod yn fan cynnal gwasanaeth gyda phregeth bob pnawn Sul.[4] Roedd Thomas Williams, Gwylfa, noddwr mawr y capel newydd, wedi awgrymu codi capel newydd ar yr amod na fyddid yn defnyddio Ysgoldy Graeanfryn at ddiben gwasanaethau bellach; ac na fyddai'r capel newydd yn troi'n "siambr sorri" i aeloadu Bryn'rodyn nag unlle arall.[5] Serch hyn, aeth yn fater o ffrae rhwng cefnogwyr capel newydd Glan-rhyd a rhai'r fam-gapel, sef Capel Bryn'rodyn, i'r fath raddau fel yr oedd rhaid i'r Cyfarfod Misol ffurfio cyd-bwyllgor o'r ddau gapel a swyddogion yr henaduriaeth i ddatrys y mater. Enillwyd y dydd gan blaid Bryn'rodyn, gyda'r gweinidog, John Jones, yn defnyddio dadleuon gormodieithol i bwysleisio defnyddioldeb y lle - ond edwinai'r defnydd o'r ysgoldy dros y blynyddoedd wedyn[6]

Defnyddiwyd yr ysgoldy ar gyfer gweithgareddau eraill. Er enghraifft, ym 1881, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol cystadleuol yno fis Mehefin, pan ofynnwyd am farwnad i goffáu Simon Hobley; y bardd Thomas David Thomas (Glan Padarn) oedd yn fuddugol ac fe gyhoeddwyd ei waith gan O.R. Owen yr un flwyddyn.[7]

Chwalwyd yr ysgoldy (oedd wedi cael ei ddefnyddio fel storfa a gweithdy ers blynyddoedd lawer) tua 2000 wrth i'r ffordd gael ei lledu ar gyfer cylchfan newydd ar yr A487. Dynodwyd ei hanes a'r safle trwy godi plac llechen gan y perchennog, Ms Ann Griffiths, a gadwai'r Goat gerllaw. Mae'r plac i'w weld wrth y giat mochyn sydd yn arwain at dir yr Hendre.

Cyfeiriadau

  1. William Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, (Caernarfon, 1910), Cyf. 1, t.164
  2. Hobley, loc.cit.
  3. John Jones (Pwllheli), Cofiant John Jones, Brynrodyn, (Caernarfon, 1903), t.57
  4. Hobley, op. cit., t.346.
  5. Nodiadau llsg. mewn meddiant preifat gan David Williams, un o swyddogion Graeanfryn
  6. John Jones (Pwllheli), Cofiant John Jones, Brynrodyn, (Caernarfon, 1903), tt.57-8
  7. Google Books [1]