Henry Williams, apothecari o Glynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw ym 1691). Roedd yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys [[Abraham Williams]], y porthmon o [[Llyn-y-gele|Lyn-y-gele]], yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.<ref>Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, ''Reeve 80''</ref>
Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw ym 1691). Credir mai yn Erw-wen yr oedd yn byw, gan fod ei weddw Ellin yn byw yno ym 1695 pan werthodd Ynys Hwfa i berchennog Llwyn Impia<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2122-3</ref> Cafodd y cwpl o leiaf un plentyn, Mary, a bridodd â Griffith David, Llwyn Impia, ym 1703.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2124-5</ref>


Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>"Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", T.G. Davies, yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690<ref>Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.</ref> a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.  </ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:
Roedd yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys [[Abraham Williams]], y porthmon o [[Llyn-y-gele|Lyn-y-gele]], yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.<ref>Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, ''Reeve 80''</ref>
 
Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>T.G. Davies, "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690<ref>Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.</ref> a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.  </ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:


   Thomas Willis, ''The London Practice of Physick ...''
   Thomas Willis, ''The London Practice of Physick ...''
Llinell 8: Llinell 10:
   ''An olde book to all young practitioners of chirurgery''
   ''An olde book to all young practitioners of chirurgery''
   John French, ''The Art of Distillation'' (1653)
   John French, ''The Art of Distillation'' (1653)
   Thomas Walkington, ''The Optick Glasse of Humours ...''<ref></ref>
   Thomas Walkington, ''The Optick Glasse of Humours ...''
   ''A Booke of Strange Apparitions''
   ''A Booke of Strange Apparitions''


Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd ''The Optick Glasse of Humours ...'' sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn [[Uwchgwyrfai]] wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.  
Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd ''The Optick Glasse of Humours ...'' sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn [[Uwchgwyrfai]] wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.  


Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B. </ref>
Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B. </ref> Mae ei llofnod i'w weld ar ddogfennau eraill hefyd ac mae'n amlwg o rwyddineb ei llawysgrifen ei bod yn ddynes a gafodd addysg sylweddol.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, PYAA/2124-5</ref>





Golygiad diweddaraf yn ôl 10:22, 10 Gorffennaf 2024

Apothecari oedd Henry Williams (bu farw ym 1691). Credir mai yn Erw-wen yr oedd yn byw, gan fod ei weddw Ellin yn byw yno ym 1695 pan werthodd Ynys Hwfa i berchennog Llwyn Impia[1] Cafodd y cwpl o leiaf un plentyn, Mary, a bridodd â Griffith David, Llwyn Impia, ym 1703.[2]

Roedd yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng Nghlynnog mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys Abraham Williams, y porthmon o Lyn-y-gele, yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.[3]

Yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".[4] Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng Nghlynnog yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690[5] a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw [6]. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:

  Thomas Willis, The London Practice of Physick ...
  A Discourse of the French Pox
  Peter Lowe, A discourse of the whole art of Chyrurgerie (London, 1612)
  An olde book to all young practitioners of chirurgery
  John French, The Art of Distillation (1653)
  Thomas Walkington, The Optick Glasse of Humours ...
  A Booke of Strange Apparitions

Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd The Optick Glasse of Humours ... sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn Uwchgwyrfai wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.

Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.[7] Mae ei llofnod i'w weld ar ddogfennau eraill hefyd ac mae'n amlwg o rwyddineb ei llawysgrifen ei bod yn ddynes a gafodd addysg sylweddol.[8]


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2122-3
  2. Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2124-5
  3. Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, Reeve 80
  4. T.G. Davies, "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.
  5. Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.
  7. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B.
  8. Archifdy Prifysgol Bangor, PYAA/2124-5