Rheilffordd Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Rheilffordd Nantlle''' yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli [[Dyffryn Nantlle]]. Hi oedd y rheilffordd gyntaf gyhoeddus i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1828.
[[Delwedd:Wagen_nantlle.jpg|bawd|200px|Wagen o Reilffordd Nantlle yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Ffoto:Dan Crow. Comins Creu CC BY-SA 3.0]]
[[Delwedd:The horse drawn railway at Dyffryn Nantlle before its closure in 1959 (12118311394).jpg|bawd|200px|Y 'run' yn ei ddyddiau olaf. Ffoto:Geoff Charles. Llun LLGC. Comins Creu CC BY-SA 3.0]]


Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6". Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, gan ddyn a gymerodd brydles ar y lein y pryd hynny, sef [[Edward Preston]]. Parhaodd hynny nes iddi gael ei phrynu gan hyrwyddwyr [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]] tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Mae yna amheuon gref mai dyna oedd nod ac uchelgais Preston ers iddo gymryd at yr awennau. Roedd y lein yn mynd o giât [[Chwarel lechi Pen-yr-orsedd]] ger Resdai Nantlle, trwy'r hyn sydd yn weddill o [[Chwarel lechi Dorothea]] heddiw, ymlaen wrth ochr brif stryd [[Tal-y-sarn]] ac o'r fan honno ar hyd lein yr hyn a fyddai lein fawr wedyn at y cei yng Nghaernarfon. Mae mopdd dilyn yr union lwybr yn hawdd wrth gerdded [[Lôn Eifion]]. Arhosai ychydig o'r lein o Orsaf Nantlle (yn Nhal-y-sarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein, a dyna'r unig lein o eiddo [[Rheilffyrdd Prydeinig]] i gael ei weithio yn y fath fodd erbyn hynny.
Yr oedd '''Rheilffordd Nantlle''' yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli [[Dyffryn Nantlle]]. Daeth symbyliad i godi'r lein o'r ffaith fod y ffyrdd o'r chwareli i'r cei yng Nghaernarfon yn wael, rhaid oedd talu tollau ar y [[Ffyrdd Tyrpeg]] newydd, a'r ffaith fod angen nifer helaeth o geffylau i wasanaethu'r fasnach gynyddol. Ar ôl i'r syniad godi'n gyntaf ym 1813, aeth ati i sicrhau deddf seneddol i ganiatáu'r gwaith, a chafwyd honno ym 1825. Ffurfiwyd cwmni gyda o leiaf hanner y [[Cyfranddalwyr Rheilffordd Nantlle|cyfranddaliadau]] yn dod o'r ardal neu âdiddordebau yn y fasnach lechi.<ref>Gweler erthygl ar wahân ar y cyfranddalwyr </ref>


Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr oan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad Nantlle; ac felly ymlaen.
Hi oedd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1828, a chafwyd help a chyngor sylweddol gan George a Robert Stevenson, yr arloeswyr rheilffyrdd, wedi i'r ymgynghorydd gwreiddiol ([[Roger Hopkins]], y peiriannydd camlesi) greu trafferthion trwy argymell adeiladu plâtffordd. Argymhelliad y brodyr Stevenson oedd defnyddio rheiliau (sef "rheiliau ochr" neu ''edge rails'') y rhedai cerbydau arnynt, yn hytrach na "phlatiau" haearn bwrw a ffurfiai gafn y byddai'r olwyn yn rhedeg y tu fewn iddi, dull llawer llai effeithiol. Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6".  


Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur garw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar waagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y'u gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Cul yn Nhywyn.  
Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen y sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, gan ddyn a gymerodd brydles ar y lein y pryd hynny, sef [[Edward Preston]]. Ym 1857, mae Tywyslyfr Bradshaw yn dangos bod gwasanaeth trên yn cychwyn o Ben-y-groes am 11.15 y bore, a choets fawr o Borthmadog, oedd yn cycghwyn am 8.45 y bore yn cysylltu gyda'r trên. Gadawodd drên Gaernarfon am 4.45 y pnawn a'r goets oedd yn aros amdani'n cyrraedd Porthmadog  erbyn 8 y nos. Y tâl am deithio o Borthmadog i Ben-y-groes eodd 3s.6c (17.5c) y tu allan (sef ar setiau heb do), a 4s. (20c.) am sêt y tu mewn i'r goets. Y tâl am fynd ymlaen hyd at Gaernarfon oedd 6c. yn ychwanegol i'r rhai oedd wedi teithio y tu fewn i'r goets a 3c. i'r rhai a oedd wedi teithio y tu allan - sydd yn tueddu awgrymu fod o leiaf ddau dosbarth o gerbyn i deithwyr ar Reilffordd Nantlle.<ref>George Bradshaw, ''Bradshaw's through route railway guide, Issue 10'' (Llundain, 1857), t.79</ref>
 
Parhaodd y gwasanaeth i deithwyr nes i'r lein gael ei phrynu gan hyrwyddwyr [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]] tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Mae yna amheuon cryf mai dyna oedd nod ac uchelgais Preston ers iddo gymryd at yr awennau. Roedd y lein yn mynd o giât [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ger Rhesdai Nantlle, trwy'r hyn sydd yn weddill o [[Chwarel Dorothea]] heddiw, ymlaen wrth ochr prif stryd [[Tal-y-sarn]] ac o'r fan honno ar hyd lein yr hyn a fyddai'n lein fawr wedyn at y cei yng Nghaernarfon. Mae modd dilyn yr union lwybr yn hawdd wrth gerdded [[Lôn Eifion]]. Arhosai ychydig o'r lein o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|Orsaf Nantlle]] (yn Nhal-y-sarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein, a dyna'r unig lein o eiddo [[Rheilffyrdd Prydeinig]] i gael ei gweithio yn y fath fodd erbyn hynny. Dim ond am ryw bedwar mis cyn cau'r lein yn derfynnol ym 1963 y tröwyd at dractor i dynnu'r wagenni - roedd hi wedi mynd yn rhy gostus i fwydo'r ddau ceffyl.
 
Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr pan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad [[Nantlle]]; ac felly ymlaen.
 
Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur arw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar wagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.  


Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd [[Tramffordd Chwarel Tan'rallt]]. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl [[Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle]].  
Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd [[Tramffordd Chwarel Tan'rallt]]. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl [[Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle]].  


Ymysg y gorsafoedd i deithwyr roedd [[gorsaf reilffordd Bontnewydd (Rheilffordd Nantlle)|Y Bontnewydd]], [[Gorsaf reilffordd Clynnog Road|Clynnog Road (Llanwnda)]], [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|Y Groeslon]] a [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle)|Phen-y-groes]].  
Y gorsafoedd i deithwyr oedd [[Gorsaf reilffordd Bontnewydd (Rheilffordd Nantlle)|y Bontnewydd]], [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road|Pwllheli Road (Llanwnda)]], [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|y Groeslon]] a [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle)|Phen-y-groes]].<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Wales'', (Oakwood, 1981), ''passim''.</ref><ref>G.H. Williams, ''Sŵn y Tren sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018), ''passim''.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]]
[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:57, 18 Mehefin 2024

Wagen o Reilffordd Nantlle yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Ffoto:Dan Crow. Comins Creu CC BY-SA 3.0
Y 'run' yn ei ddyddiau olaf. Ffoto:Geoff Charles. Llun LLGC. Comins Creu CC BY-SA 3.0


Yr oedd Rheilffordd Nantlle yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli Dyffryn Nantlle. Daeth symbyliad i godi'r lein o'r ffaith fod y ffyrdd o'r chwareli i'r cei yng Nghaernarfon yn wael, rhaid oedd talu tollau ar y Ffyrdd Tyrpeg newydd, a'r ffaith fod angen nifer helaeth o geffylau i wasanaethu'r fasnach gynyddol. Ar ôl i'r syniad godi'n gyntaf ym 1813, aeth ati i sicrhau deddf seneddol i ganiatáu'r gwaith, a chafwyd honno ym 1825. Ffurfiwyd cwmni gyda o leiaf hanner y cyfranddaliadau yn dod o'r ardal neu âdiddordebau yn y fasnach lechi.[1]

Hi oedd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1828, a chafwyd help a chyngor sylweddol gan George a Robert Stevenson, yr arloeswyr rheilffyrdd, wedi i'r ymgynghorydd gwreiddiol (Roger Hopkins, y peiriannydd camlesi) greu trafferthion trwy argymell adeiladu plâtffordd. Argymhelliad y brodyr Stevenson oedd defnyddio rheiliau (sef "rheiliau ochr" neu edge rails) y rhedai cerbydau arnynt, yn hytrach na "phlatiau" haearn bwrw a ffurfiai gafn y byddai'r olwyn yn rhedeg y tu fewn iddi, dull llawer llai effeithiol. Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6".

Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen y sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, gan ddyn a gymerodd brydles ar y lein y pryd hynny, sef Edward Preston. Ym 1857, mae Tywyslyfr Bradshaw yn dangos bod gwasanaeth trên yn cychwyn o Ben-y-groes am 11.15 y bore, a choets fawr o Borthmadog, oedd yn cycghwyn am 8.45 y bore yn cysylltu gyda'r trên. Gadawodd drên Gaernarfon am 4.45 y pnawn a'r goets oedd yn aros amdani'n cyrraedd Porthmadog erbyn 8 y nos. Y tâl am deithio o Borthmadog i Ben-y-groes eodd 3s.6c (17.5c) y tu allan (sef ar setiau heb do), a 4s. (20c.) am sêt y tu mewn i'r goets. Y tâl am fynd ymlaen hyd at Gaernarfon oedd 6c. yn ychwanegol i'r rhai oedd wedi teithio y tu fewn i'r goets a 3c. i'r rhai a oedd wedi teithio y tu allan - sydd yn tueddu awgrymu fod o leiaf ddau dosbarth o gerbyn i deithwyr ar Reilffordd Nantlle.[2]

Parhaodd y gwasanaeth i deithwyr nes i'r lein gael ei phrynu gan hyrwyddwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Mae yna amheuon cryf mai dyna oedd nod ac uchelgais Preston ers iddo gymryd at yr awennau. Roedd y lein yn mynd o giât Chwarel Pen-yr-orsedd ger Rhesdai Nantlle, trwy'r hyn sydd yn weddill o Chwarel Dorothea heddiw, ymlaen wrth ochr prif stryd Tal-y-sarn ac o'r fan honno ar hyd lein yr hyn a fyddai'n lein fawr wedyn at y cei yng Nghaernarfon. Mae modd dilyn yr union lwybr yn hawdd wrth gerdded Lôn Eifion. Arhosai ychydig o'r lein o Orsaf Nantlle (yn Nhal-y-sarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein, a dyna'r unig lein o eiddo Rheilffyrdd Prydeinig i gael ei gweithio yn y fath fodd erbyn hynny. Dim ond am ryw bedwar mis cyn cau'r lein yn derfynnol ym 1963 y tröwyd at dractor i dynnu'r wagenni - roedd hi wedi mynd yn rhy gostus i fwydo'r ddau ceffyl.

Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr pan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad Nantlle; ac felly ymlaen.

Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur arw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar wagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.

Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd Tramffordd Chwarel Tan'rallt. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle.

Y gorsafoedd i deithwyr oedd y Bontnewydd, Pwllheli Road (Llanwnda), y Groeslon a Phen-y-groes.[3][4]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl ar wahân ar y cyfranddalwyr
  2. George Bradshaw, Bradshaw's through route railway guide, Issue 10 (Llundain, 1857), t.79
  3. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Wales, (Oakwood, 1981), passim.
  4. G.H. Williams, Sŵn y Tren sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), passim.