Bryn Beddau, Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Arhosodd y ffurf ''Bryn Beddau'' yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd. Un esboniad posib ar yr enw yw fod y meini a geir yno yn olion clwstwr o gytiau hynafol a bod y trigolion lleol wedi eu camgymryd am gerrig beddau cyntefig. Fe ddarganfuwyd olion corfflosgiad ar y safle, sydd ar gopa bryncyn isel.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.46.</ref> | Arhosodd y ffurf ''Bryn Beddau'' yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd. Un esboniad posib ar yr enw yw fod y meini a geir yno yn olion clwstwr o gytiau hynafol a bod y trigolion lleol wedi eu camgymryd am gerrig beddau cyntefig. Fe ddarganfuwyd olion corfflosgiad ar y safle, sydd ar gopa bryncyn isel.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.46.</ref> | ||
Bryn Beddau oedd cartref [[William Hughes, Bryn Beddau|William Hughes]], ffigwr pwysig yn nyddiau cynnar achosion Annibynwyr y fro. | |||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] | [[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 20:20, 5 Mehefin 2024
Mae annedd Bryn Beddau mewn man diarffordd ym mhlwyf Llanwnda rhwng Y Bontnewydd a'r Waunfawr. Yn nhrafodion Y Trysorlys am 1607-08 cyfeirir ato fel bryn beythe. Ym 1629 ceir y ffurf Kae Brynbedde (Casgliad Baron Hill, Prifysgol Bangor). Yno dywedir mai'r un lle yw hwn â llayn fadog ap harry, a bod y tir ar y pryd yn perthyn i fferm o'r enw Kae Mawr yn Llanwnda. Ceir fferm o'r enw Cae Mawr nid nepell o Bryn Beddau heddiw. Efallai mai'r un dyn oedd Madog ap Harry â'r Madoc ap Harry ap Thomas ap David o Lundain y ceir cofnod o'i enw yn nhrafodion y Llys Siawnsri gan iddo fod yn achwynydd mewn achos ynglŷn ag eiddo yn nhrefgordd Dinlle rhwng 1556 a 1558.
Arhosodd y ffurf Bryn Beddau yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd. Un esboniad posib ar yr enw yw fod y meini a geir yno yn olion clwstwr o gytiau hynafol a bod y trigolion lleol wedi eu camgymryd am gerrig beddau cyntefig. Fe ddarganfuwyd olion corfflosgiad ar y safle, sydd ar gopa bryncyn isel.[1]
Bryn Beddau oedd cartref William Hughes, ffigwr pwysig yn nyddiau cynnar achosion Annibynwyr y fro.
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.46.