Guto Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Guto Gethin''' (''fl.'' tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua chanol y 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo fo yw [[Bod Fasarn]], sef yr hen [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] wrth [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]<ref>Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau</ref>. Dywed traddodiad mai fo oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad fo oedd adeiladydd tai [[Tre Grwyn]] neu Tre'r Grwyn ger [[Sarn Wyth-dŵr]] hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domenydd [[Chwarel Dorothea]] ers canrif a hanner. Mae [[W.R. Ambrose]] yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.
Roedd '''Guto Gethin''' (''fl.'' tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua chanol yr 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo yw [[Bod Fasarn]], sef yr hen [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] wrth [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]<ref>Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau</ref>. Dywed traddodiad mai ef oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad ef oedd adeiladydd tai [[Tre Grwyn]] neu Tre'r Grwyn ger [[Sarn Wyth-dŵr]] hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domennydd [[Chwarel Dorothea]] ers canrif a hanner. Mae [[W.R. Ambrose]] yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.


Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). <ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref>
Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). <ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref>


Mae [[Eben Fardd]] yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybia Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â [[Hywel Gethin]], y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd y 16g.<ref>Eben Fardd, llythyr yn ''Y Brython'', Mehefin 1860, tt.233-4</ref>
Mae [[Eben Fardd]] yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybiai Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â [[Hywel Gethin]], y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd yr 16g.<ref>Eben Fardd, llythyr yn ''Y Brython'', Mehefin 1860, tt.233-4</ref>


Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad rintiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.<ref>W.R. Ambrose, ''loc. cit,''; [[Hywel Tudur]] yn ''Y Genedl Gymreig'', 25.4.1888, t.8</ref>. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.
Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad printiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.<ref>W.R. Ambrose, ''loc. cit,''; [[Hywel Tudur]] yn ''Y Genedl Gymreig'', 25.4.1888, t.8</ref>. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:00, 5 Mehefin 2024

Roedd Guto Gethin (fl. tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn Nyffryn Nantlle tua chanol yr 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo yw Bod Fasarn, sef yr hen New Inn wrth Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[1]. Dywed traddodiad mai ef oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad ef oedd adeiladydd tai Tre Grwyn neu Tre'r Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domennydd Chwarel Dorothea ers canrif a hanner. Mae W.R. Ambrose yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.

Roedd hen ddywediad ym mhlwyf Clynnog Fawr am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). [2]

Mae Eben Fardd yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybiai Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â Hywel Gethin, y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd yr 16g.[3]

Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad printiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.[4]. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.

Cyfeiriadau

  1. Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau
  2. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7
  3. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4
  4. W.R. Ambrose, loc. cit,; Hywel Tudur yn Y Genedl Gymreig, 25.4.1888, t.8