Guto Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Guto Gethin''' (''Fl.'' tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua chanol y 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo fo yw [[Bod Fasarn]], sef yr hen [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] wrth [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Dywed traddodiad mai fo oedd adeiladydd prif ran yr adeilad. Yn ôl y traddodiad fo oedd adeiladydd tai [[Tre Grwyn]] neu Tre'r Grwyn ger [[Sarn Wyth-dŵr]] sydd wedi diflannu o dan tomenydd [[Chwarel Dorothea]] ers canrif a hanner. Mae [[W.R. Ambrose]] yn honni bod y tai hyn wedi eu codi tua 1662.
Roedd '''Guto Gethin''' (''fl.'' tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua chanol yr 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo yw [[Bod Fasarn]], sef yr hen [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] wrth [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]<ref>Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau</ref>. Dywed traddodiad mai ef oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad ef oedd adeiladydd tai [[Tre Grwyn]] neu Tre'r Grwyn ger [[Sarn Wyth-dŵr]] hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domennydd [[Chwarel Dorothea]] ers canrif a hanner. Mae [[W.R. Ambrose]] yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.


Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin."<ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref>
Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). <ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref>


Ni wyddys dim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad rintiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.<ref>W.R. Ambrose, ''loc. cit,''; [[Hywel Tudur]] yn ''Y Genedl Gymreig'', 25.4.1888, t.8</ref>. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.
Mae [[Eben Fardd]] yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybiai Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â [[Hywel Gethin]], y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd yr 16g.<ref>Eben Fardd, llythyr yn ''Y Brython'', Mehefin 1860, tt.233-4</ref>
 
Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad printiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.<ref>W.R. Ambrose, ''loc. cit,''; [[Hywel Tudur]] yn ''Y Genedl Gymreig'', 25.4.1888, t.8</ref>. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:00, 5 Mehefin 2024

Roedd Guto Gethin (fl. tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn Nyffryn Nantlle tua chanol yr 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo yw Bod Fasarn, sef yr hen New Inn wrth Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[1]. Dywed traddodiad mai ef oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad ef oedd adeiladydd tai Tre Grwyn neu Tre'r Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domennydd Chwarel Dorothea ers canrif a hanner. Mae W.R. Ambrose yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.

Roedd hen ddywediad ym mhlwyf Clynnog Fawr am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). [2]

Mae Eben Fardd yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybiai Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â Hywel Gethin, y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd yr 16g.[3]

Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad printiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.[4]. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.

Cyfeiriadau

  1. Er i Eben Fardd honni bod tŷ Hafod-y-wern hefyd yn un o'i adeiladau
  2. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7
  3. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4
  4. W.R. Ambrose, loc. cit,; Hywel Tudur yn Y Genedl Gymreig, 25.4.1888, t.8