Abermenai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Morrissiart.jpeg|bawd|400px|de|Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai]]
[[Delwedd:Morrissiart.jpeg|bawd|400px|de|Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai]]
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Mae'n llifo rhwng penrhyn [[Trwyn Dinlle]] i'r de a Thrwyn Abermenai yn Ynys Môn. Dyma'r fan fwyaf cul yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o [[Aberdesach]] i ben draw penrhyn [[Belan]] ar lan Abermenai.
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Mae'n llifo rhwng penrhyn [[Trwyn Dinlle]] i'r de a Thrwyn Abermenai yn Ynys Môn. Dyma fan gulaf yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n fan croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Lŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o [[Aberdesach]] i ben draw penrhyn [[Belan]] ar lan Abermenai.


Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.   
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer, os nad miloedd o flynyddoedd.   


Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai], adalwyd 09.04.2018</ref> Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1939), t.469.</ref> Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng ngyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.<ref>H.R. Davies, ''The Conway and the Menai Ferries'' (Caerdydd, 1966),t.78</ref>
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Dyma safle [[Brwydr Abermenai 1098]]. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai], adalwyd 09.04.2018</ref> Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1939), t.469.</ref> Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng nghyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.<ref>H.R. Davies, ''The Conway and the Menai Ferries'' (Caerdydd, 1966),t.78</ref>


Gan fod y fferi'n eiddo i'r brenin, mae nifer sylweddol o gofnodion amdano wedi cronni dros y canrifoedd. Mae erthygl ar [[Fferi Abermenai]] yn rhoi rhai manylion pellach.
Gan fod y fferi'n eiddo i'r brenin, mae nifer sylweddol o gofnodion amdano wedi cronni dros y canrifoedd. Mae erthygl ar [[Fferi Abermenai]] yn rhoi rhai manylion pellach.


Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar ''Seiont II'', nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng llanw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio ar draws yr aber. Bu llongau masnach a oedd yn hwylio i borthladd Caernarfon ac oddi yno yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gedwid y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar ''Seiont II'', nes i honno dorri. Dechreuodd tywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf a geisiodd hwylio'r ffordd hon grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.


{{eginyn}}
Mae nifer o enwau wedi cael eu defnyddio gan forwyr a phobl leol wrth iddynt gyfeirio at y culfor yn Abermenai. Yr un mwyaf amlwg, ond eto o bosibl yn hen iawn, yw ''Y Gap''. Enw arall arno oedd ''Ceg y Botel'', ac mae tystiolaeth mai fel ''Adwy Bennog'' yr oedd pobl o ardal [[Clynnog Fawr]] yn adnabod y bwlch.<ref>Ifor Dylan Williams, ''Enwau arfordirol y Fenai'' yn Gareth Bevan ac eraill (golygyddion), ''Ar Drywydd Enwau Lleoedd'' (Tal-y-bont, 2021), t.178</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 18: Llinell 18:
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Morwrol]]
[[Categori:Morwrol]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:24, 23 Mai 2024

Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai

Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Mae'n llifo rhwng penrhyn Trwyn Dinlle i'r de a Thrwyn Abermenai yn Ynys Môn. Dyma fan gulaf yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n fan croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Lŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer, os nad miloedd o flynyddoedd.

Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Dyma safle Brwydr Abermenai 1098. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng nghyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]

Gan fod y fferi'n eiddo i'r brenin, mae nifer sylweddol o gofnodion amdano wedi cronni dros y canrifoedd. Mae erthygl ar Fferi Abermenai yn rhoi rhai manylion pellach.

Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng llanw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio ar draws yr aber. Bu llongau masnach a oedd yn hwylio i borthladd Caernarfon ac oddi yno yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gedwid y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar Seiont II, nes i honno dorri. Dechreuodd tywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf a geisiodd hwylio'r ffordd hon grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.

Mae nifer o enwau wedi cael eu defnyddio gan forwyr a phobl leol wrth iddynt gyfeirio at y culfor yn Abermenai. Yr un mwyaf amlwg, ond eto o bosibl yn hen iawn, yw Y Gap. Enw arall arno oedd Ceg y Botel, ac mae tystiolaeth mai fel Adwy Bennog yr oedd pobl o ardal Clynnog Fawr yn adnabod y bwlch.[4]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, Abermenai [1], adalwyd 09.04.2018
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1939), t.469.
  3. H.R. Davies, The Conway and the Menai Ferries (Caerdydd, 1966),t.78
  4. Ifor Dylan Williams, Enwau arfordirol y Fenai yn Gareth Bevan ac eraill (golygyddion), Ar Drywydd Enwau Lleoedd (Tal-y-bont, 2021), t.178