Hafod Boeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion ''Y Groeslon'' ym mhlwyf ''Llandwrog''. Cyfeirir at y lle fel ''havod boeth'' mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion ''Y Groeslon'' ym mhlwyf ''Llandwrog''. Cyfeirir at y lle fel ''havod boeth'' mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.
Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion [[Y Groeslon]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Cyfeirir at y lle fel ''havod boeth'' mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.


Elfen gyntaf ''Hafod Boeth'' yw ''hafod'' < ''haf'' + ''bod'', sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw ''Hafod'' ar lechweddau [[Uwchgwyrfai]]. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw ''Hafod'', + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel ac yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen ''boeth'' yn enw ''Hafod Boeth'' gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.</ref>
Elfen gyntaf ''Hafod Boeth'' yw ''hafod'' < ''haf'' + ''bod'', sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw ''Hafod'' ar lechweddau [[Uwchgwyrfai]]. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw ''Hafod'', + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel; yn wir, mae Hafod Boeth ar dir nad yw'n fynyddig o gwbl, rhwng [[Capel Bryn'rodyn (MC)]] a [[Maestryfan]]. Yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen ''boeth'' yn enw ''Hafod Boeth'' gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:15, 18 Mawrth 2024

Saif fferm Hafod Boeth ar gyrion Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Cyfeirir at y lle fel havod boeth mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.

Elfen gyntaf Hafod Boeth yw hafod < haf + bod, sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw Hafod ar lechweddau Uwchgwyrfai. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw Hafod, + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel; yn wir, mae Hafod Boeth ar dir nad yw'n fynyddig o gwbl, rhwng Capel Bryn'rodyn (MC) a Maestryfan. Yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen boeth yn enw Hafod Boeth gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.