Robert (R.) Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''R. Lloyd Jones''' oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloes...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''R. Lloyd Jones''' oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt,
'''R. Lloyd Jones''' (1878-1962) oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt.
Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon.
 
Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala.Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl.
Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl.
Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y C.E.Spooner, a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog.
 
Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd.
Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y ''C.E.Spooner'', a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog.
 
Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd.
 
Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw.
Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw.
Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru.
Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru.


Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd Uwchgwyrfai ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro Ysgol Trefor, ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd. Yn Awst 1928 aeth y brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno.
Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd [[Uwchgwyrfai]] ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro [[Ysgol Trefor]], ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd [[Trefor|Drefor]] i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno.
 
Bu farw 1962. ac fe'i gladdwyd ym mynwent Coetmor Bethesda, nid nepell oddi wrth R Williams Parry. <ref>Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’ (Caerdydd,1986), t.328</ref>
 
Ceir rhestr o'i weithiau llenyddol [[Nofelau a Dramâu R. Lloyd Jones|'''yma''']].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[categori:Diwylliant]]
[[Categori: Addysg ]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Dramodwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 23:39, 12 Mawrth 2024

R. Lloyd Jones (1878-1962) oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt.

Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl.

Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y C.E.Spooner, a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog.

Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd.

Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw.

Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru.

Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd Uwchgwyrfai ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro Ysgol Trefor, ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd Drefor i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno.

Bu farw 1962. ac fe'i gladdwyd ym mynwent Coetmor Bethesda, nid nepell oddi wrth R Williams Parry. [1]

Ceir rhestr o'i weithiau llenyddol yma.

Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (gol.), ‘’Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’’ (Caerdydd,1986), t.328