Odyn galch a Bwthyn y Foryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif odyn galch a bwthyn y Foryd rhyw filltir a hanner i'r gorllewin o Lanwnda ar lan orllewinol Afon Gwyrfai, lle mae'n ymuno â bae'r Foryd. Ceir odynau...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Odyn Galch a Bwthyn y Foryd i Odyn galch a Bwthyn y Foryd |
||
(Ni ddangosir 5 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif | Saif '''Odyn Galch a Bwthyn y Foryd''' rhyw filltir a hanner i'r gorllewin o [[Llanwnda|Lanwnda]] ar lan orllewinol [[Afon Gwyrfai]], lle mae'n ymuno â bae'r [[Y Foryd|Foryd]]. Ceir odynau calch eraill ar arfordir [[Uwchgwyrfai]] (megis yr un led cae o'r traeth rhwng [[Clynnog Fawr]] ac [[Aberdesach]]) ond mae odyn y Foryd yn enghraifft brin o un wedi'i hadeiladu ar lan afon lanwol (afon y mae llanw a thrai'n effeithio arni). Dim ond ar adegau pan oedd y llanw i mewn y gellid dod â chalch i'r odyn hon gan fod bae'r Foryd yn wag o ddŵr ac yn fwd trwchus ar drai. Yn gysylltiedig â'r odyn adeiladwyd bwthyn (ar gyfer ei cheidwad mae'n fwy na thebyg) ac mae hwn yn dŷ o hyd ac wedi'i helaethu. Mae muriau'r odyn yn dal i sefyll yn uchel gyda pharapetau crenelog iddynt. | ||
Roedd yr odyn yn weithedol erbyn 1814 os nad llawer ynghynt - gan fod cyfrifon y sawl oedd yn rhedeg yr odyn (sef Richard Parry, [[Plas Llanwnda]]) ar gael am 1814-15.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgrau. Porth-yr-aur 6829 (11)</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | |||
[[Categori:Odynau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 21:03, 21 Chwefror 2024
Saif Odyn Galch a Bwthyn y Foryd rhyw filltir a hanner i'r gorllewin o Lanwnda ar lan orllewinol Afon Gwyrfai, lle mae'n ymuno â bae'r Foryd. Ceir odynau calch eraill ar arfordir Uwchgwyrfai (megis yr un led cae o'r traeth rhwng Clynnog Fawr ac Aberdesach) ond mae odyn y Foryd yn enghraifft brin o un wedi'i hadeiladu ar lan afon lanwol (afon y mae llanw a thrai'n effeithio arni). Dim ond ar adegau pan oedd y llanw i mewn y gellid dod â chalch i'r odyn hon gan fod bae'r Foryd yn wag o ddŵr ac yn fwd trwchus ar drai. Yn gysylltiedig â'r odyn adeiladwyd bwthyn (ar gyfer ei cheidwad mae'n fwy na thebyg) ac mae hwn yn dŷ o hyd ac wedi'i helaethu. Mae muriau'r odyn yn dal i sefyll yn uchel gyda pharapetau crenelog iddynt.
Roedd yr odyn yn weithedol erbyn 1814 os nad llawer ynghynt - gan fod cyfrifon y sawl oedd yn rhedeg yr odyn (sef Richard Parry, Plas Llanwnda) ar gael am 1814-15.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgrau. Porth-yr-aur 6829 (11)