Ffrwd Ysgyfarnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Removed redirect to Ffrwd
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ffrwd Ysgyfarnog''' yn afonig fechan sydd yn codi ger pentref [[Bethesda Bach]] ym mhlwyf [[Llandwrog]] ac yn rhedeg ar hyd dyffryn bas a llydan wrth ochr yr A499 ac wedyn heibio i [[Capel Bwlan (MC)]]. Cafodd treflan [[Ffrwd]] neu Ffrwd Ysgyfarnog ei henwi ar ôl yr afon. Mae'r nant yn llifo ymlaen ac yn croesi'r lôn o'r A499 i bentref Llandwrog ac wedyn ychydig i'r de o fferm [[Bodfan]] cyn ymarllwys ar draws y traeth i'r de o gaer [[Dinas Dinlle]]. Nid yw'n cael ei henwi ar fapiau Ordnans, ond sonnir andani fel un o afonydd Sir Gaernarfon mewn disgrifiad o'r sir a ymddangosodd mewn papur newydd ym 1808. Yn ôl y disgrifiad yn yr erthygl honno, arferai pentref bychan sefyll ar ochr ogleddol aber Ffrwd Ysgyfarnog, nes i'r môr erydu'r tir a'r pentref yn cael ei lyncu gan y tonnau. Erbyn heddiw, nid oes aber i'w weld, gan fod y nant yn diflannu i mewn i ro'r traeth. Dichon bod awdur yr erthygl hefyd wedi camddeall chwedl [[Caer Arianrhod]] gan feddwl mai pentref go iawn ydoedd.<ref>''North Wales Gazette'', 14.7.1808, t.4</ref>
Mae '''Ffrwd Ysgyfarnog''' yn afonig fechan sydd yn codi ger pentref [[Bethesda Bach]] ym mhlwyf [[Llandwrog]] ac yn rhedeg ar hyd dyffryn bas a llydan wrth ochr yr A499 ac wedyn heibio i [[Capel Bwlan (MC)]]. Cafodd treflan [[Ffrwd]] neu Ffrwd Ysgyfarnog ei henwi ar ôl yr afon. Mae'r nant yn llifo ymlaen ac yn croesi'r lôn o'r A499 i bentref Llandwrog ac wedyn ychydig i'r de o fferm [[Bodfan]] cyn ymarllwys ar draws y traeth i'r de o gaer [[Dinas Dinlle]]. Nid yw'n cael ei henwi ar fapiau Ordnans, ond sonnir amdani fel un o afonydd Sir Gaernarfon mewn disgrifiad o'r sir a ymddangosodd mewn papur newydd ym 1808. Yn ôl y disgrifiad yn yr erthygl honno, arferai pentref bychan sefyll ar ochr ogleddol aber Ffrwd Ysgyfarnog, nes i'r môr erydu'r tir, a'r pentref yn cael ei lyncu gan y tonnau. Erbyn heddiw, nid oes aber i'w weld, gan fod y nant yn diflannu i mewn i ro'r traeth. Dichon bod awdur yr erthygl hefyd wedi camddeall chwedl [[Caer Arianrhod]] gan feddwl mai pentref go iawn ydoedd.<ref>''North Wales Gazette'', 14.7.1808, t.4</ref>
 
Y mae Map Ordnans 1888 yn dangos pwll yng ngheg yr afon ger y traeth a rhyw fath o ffos neu binfarch a allai fod yn olion melin o ryw fath. Roedd y nodwedd honno wedi troi'n gorsdir erbyn map 1899.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Melinau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:00, 3 Chwefror 2024

Mae Ffrwd Ysgyfarnog yn afonig fechan sydd yn codi ger pentref Bethesda Bach ym mhlwyf Llandwrog ac yn rhedeg ar hyd dyffryn bas a llydan wrth ochr yr A499 ac wedyn heibio i Capel Bwlan (MC). Cafodd treflan Ffrwd neu Ffrwd Ysgyfarnog ei henwi ar ôl yr afon. Mae'r nant yn llifo ymlaen ac yn croesi'r lôn o'r A499 i bentref Llandwrog ac wedyn ychydig i'r de o fferm Bodfan cyn ymarllwys ar draws y traeth i'r de o gaer Dinas Dinlle. Nid yw'n cael ei henwi ar fapiau Ordnans, ond sonnir amdani fel un o afonydd Sir Gaernarfon mewn disgrifiad o'r sir a ymddangosodd mewn papur newydd ym 1808. Yn ôl y disgrifiad yn yr erthygl honno, arferai pentref bychan sefyll ar ochr ogleddol aber Ffrwd Ysgyfarnog, nes i'r môr erydu'r tir, a'r pentref yn cael ei lyncu gan y tonnau. Erbyn heddiw, nid oes aber i'w weld, gan fod y nant yn diflannu i mewn i ro'r traeth. Dichon bod awdur yr erthygl hefyd wedi camddeall chwedl Caer Arianrhod gan feddwl mai pentref go iawn ydoedd.[1]

Y mae Map Ordnans 1888 yn dangos pwll yng ngheg yr afon ger y traeth a rhyw fath o ffos neu binfarch a allai fod yn olion melin o ryw fath. Roedd y nodwedd honno wedi troi'n gorsdir erbyn map 1899.

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4