Gwaith copr Simdde'r Dylluan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd Gwaith copr '''Simdde’r Dylluan''' yn gloddfa sylweddol ger Drws-y-coed a ddatblygwyd ar dir Tal-y-mignedd Uchaf yn y 18g. Cafodd gŵr o...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd Gwaith copr '''Simdde’r Dylluan''' yn gloddfa sylweddol ger [[Drws-y-coed]] a ddatblygwyd ar dir [[Tal-y-mignedd Uchaf]] yn y 18g.  
Roedd Gwaith copr '''Simdde’r Dylluan''' yn gloddfa sylweddol ger [[Drws-y-coed]] a ddatblygwyd ar dir [[Tal-y-mignedd Uchaf]] yn y 18g.  


Cafodd gŵr o’r enw Richard Farrington, ficer Llangybi<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor during Three Centuries'' (Cardiff, 1929) t.25</ref>, brydles ym 1756 gan y tirfeddiannwr William Smith, perchennog [[Ystad y Faenol]] i gloddio am gopr ac yn ôl yr hanes, denodd weithwyr o Gernyw a’r Alban i agor gwaith Simdde’r Dylluan ym 1761.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-drws-y-coed-cloddio-am-gopr.htm], cyrchwyd 15.11.2023</ref>
Cafodd gŵr o’r enw [[Richard Farrington]], ficer Llangybi<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor during Three Centuries'' (Cardiff, 1929) t.25</ref>, brydles ym 1756 gan y tirfeddiannwr William Smith, perchennog [[Ystad y Faenol]], i gloddio am gopr ac, yn ôl yr hanes, denodd weithwyr o Gernyw a’r Alban i agor gwaith Simdde’r Dylluan ym 1761.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-drws-y-coed-cloddio-am-gopr.htm], cyrchwyd 15.11.2023</ref>


Rhwng 1826 a 1840, gyrrwyd dros 4000 tunnell o fwyn plwm i weithfeydd toddi Abertawe.<ref>Gwefan Welldigger, [http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/03/the-chapel-that-was-crushed.html], cyrchwyd 15.11.2023</ref> Ym 1835, roedd gan y gwaith asiant yng Nghaernarfon, William Buckingham. Ym 1840, Joseph Jones oedd yn berchennog ac yn rheolwr ar weithfeydd [[Gwaith copr Drws-y-coed|Drws-y-coed]] a Simdde’r Dylluan, yn ogystal â chloddfeydd yn Llanberis. Erbyn 1868 roedd y ddwy gloddfa yn cael eu rheoli ar wahân, a chwmni annibynnol oedd yn berchen ar Simdde’r Dylluan, sef y “Symdde Dylluan Copper Company”, gyda William Sandoe yn rheolwr. Mae cofnod hefyd fod un John Roberts yn rheolwr yn ystod y blynyddoedd 1874-8.<ref>Gwefan Carnarvon Traders, [http://www.carnarvontraders.com/copper.shtml], cyrchwyd 15.11.2023</ref>
Rhwng 1826 a 1840, gyrrwyd dros 4000 tunnell o fwyn plwm i weithfeydd toddi Abertawe.<ref>Gwefan Welldigger, [http://daibach-welldigger.blogspot.com/2019/03/the-chapel-that-was-crushed.html], cyrchwyd 15.11.2023</ref> Ym 1835, roedd gan y gwaith asiant yng Nghaernarfon, William Buckingham. Ym 1840, Joseph Jones oedd yn berchennog ac yn rheolwr ar weithfeydd [[Gwaith copr Drws-y-coed|Drws-y-coed]] a Simdde’r Dylluan, yn ogystal â chloddfeydd yn Llanberis. Erbyn 1868 roedd y ddwy gloddfa yn cael eu rheoli ar wahân, a chwmni annibynnol oedd yn berchen ar Simdde’r Dylluan, sef y “Symdde Dylluan Copper Company”, gyda William Sandoe yn rheolwr. Mae cofnod hefyd fod un John Roberts yn rheolwr yn ystod y blynyddoedd 1874-8.<ref>Gwefan Carnarvon Traders, [http://www.carnarvontraders.com/copper.shtml], cyrchwyd 15.11.2023</ref>


Er nad oedd hi mor fawr â Gwaith copr Drws-y-coed, roedd hi’n dal yn gloddfa lwyddiannus dros gyfnod helaeth, ac yn fwy o lawer nag ambell i waith arall megis gweithiau copr Benallt, Bwlchgylfin, Diffwys Tarw a gwaith copr Tal-y-sarn. Roedd gweithiau peirianyddol sylweddol yn gysylltiedig â’r gwaith hwn, yn cynnwys ffos dŵr i gludo dŵr o gronfa [[Llyn Bwlch-y-moch]] a adeiladwyd yn fuan wedi 1840.<ref>Gwefan Scandal on Ben Nevis, [1] <http://www.thegallivantingjournals.co.uk/blog/retro/llyn-bwlch-y-moch-drws-y-coed/>, cyrchwyd 16.2.2021</ref>
Er nad oedd hi mor fawr â Gwaith Copr Drws-y-coed, roedd hi’n dal yn gloddfa lwyddiannus dros gyfnod helaeth, ac yn fwy o lawer nag ambell i waith arall, megis gweithiau copr Benallt, Bwlchgylfin, Diffwys Tarw a gwaith copr Tal-y-sarn. Roedd gweithiau peirianyddol sylweddol yn gysylltiedig â’r gwaith hwn, yn cynnwys ffos ddŵr i gludo dŵr o gronfa [[Llyn Bwlch-y-moch]], a adeiladwyd yn fuan wedi 1840.<ref>Gwefan Scandal on Ben Nevis, [1] <http://www.thegallivantingjournals.co.uk/blog/retro/llyn-bwlch-y-moch-drws-y-coed/>, cyrchwyd 16.2.2021</ref>
Gyda phris copr ar farchnadoedd y byd yn gostwng yn sylweddol erbyn diwedd y 19g., nid oedd yn economaidd bellach i gloddio yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Mae’n hysbys bod y gloddfa yn gweithio ym 1911, a hynny dan reolaeth cwmni o’r Almaen<ref>Gwefan Coflein [https://coflein.gov.uk/cy/safle/33774/] cyrchwyd 15.11.2023</ref> ond chaewyd Simdde’r Dylluan, mae’n debyg, tua 1920. Erbyn hynny, roedd siafftiau’r gwaith wedi cyrraedd tua 700 troedfedd (222 metr) o dan lefel y ddaear, y gloddfa gopr ddyfnaf yn Eryri.<ref>Gwefan Mindat, [https://www.mindat.org/loc-4247.html], cyrchwyd 15.11.2023</ref> Simdde Dylluan oedd yr olaf o gloddfeydd copr yn y dyffryn i gau.<ref>T.B. Colman, ''Sediment-Hosted, Base-Metal, Vein Mineralisation at Drws y Coed and Cwm Pennant, Snowdonia, North Wales'' (British Mining rhif 41) t.47</ref>
Gyda phris copr ar farchnadoedd y byd yn gostwng yn sylweddol erbyn diwedd y 19g., nid oedd yn economaidd bellach i gloddio yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Mae’n hysbys bod y gloddfa yn gweithio ym 1911, a hynny dan reolaeth cwmni o’r Almaen<ref>Gwefan Coflein [https://coflein.gov.uk/cy/safle/33774/] cyrchwyd 15.11.2023</ref> ond caewyd Simdde’r Dylluan, mae’n debyg, tua 1920. Erbyn hynny, roedd siafftiau’r gwaith wedi cyrraedd dyfnder o thua 700 troedfedd (222 metr) o dan lefel y ddaear, y gloddfa gopr ddyfnaf yn Eryri.<ref>Gwefan Mindat, [https://www.mindat.org/loc-4247.html], cyrchwyd 15.11.2023</ref> Simdde'r Dylluan oedd yr olaf o gloddfeydd copr y dyffryn i gau.<ref>T.B. Colman, ''Sediment-Hosted, Base-Metal, Vein Mineralisation at Drws y Coed and Cwm Pennant, Snowdonia, North Wales'' (British Mining rhif 41) t.47</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Mwyngloddio]]
[[Categori:Mwyngloddio]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:43, 20 Tachwedd 2023

Roedd Gwaith copr Simdde’r Dylluan yn gloddfa sylweddol ger Drws-y-coed a ddatblygwyd ar dir Tal-y-mignedd Uchaf yn y 18g.

Cafodd gŵr o’r enw Richard Farrington, ficer Llangybi[1], brydles ym 1756 gan y tirfeddiannwr William Smith, perchennog Ystad y Faenol, i gloddio am gopr ac, yn ôl yr hanes, denodd weithwyr o Gernyw a’r Alban i agor gwaith Simdde’r Dylluan ym 1761.[2]

Rhwng 1826 a 1840, gyrrwyd dros 4000 tunnell o fwyn plwm i weithfeydd toddi Abertawe.[3] Ym 1835, roedd gan y gwaith asiant yng Nghaernarfon, William Buckingham. Ym 1840, Joseph Jones oedd yn berchennog ac yn rheolwr ar weithfeydd Drws-y-coed a Simdde’r Dylluan, yn ogystal â chloddfeydd yn Llanberis. Erbyn 1868 roedd y ddwy gloddfa yn cael eu rheoli ar wahân, a chwmni annibynnol oedd yn berchen ar Simdde’r Dylluan, sef y “Symdde Dylluan Copper Company”, gyda William Sandoe yn rheolwr. Mae cofnod hefyd fod un John Roberts yn rheolwr yn ystod y blynyddoedd 1874-8.[4]

Er nad oedd hi mor fawr â Gwaith Copr Drws-y-coed, roedd hi’n dal yn gloddfa lwyddiannus dros gyfnod helaeth, ac yn fwy o lawer nag ambell i waith arall, megis gweithiau copr Benallt, Bwlchgylfin, Diffwys Tarw a gwaith copr Tal-y-sarn. Roedd gweithiau peirianyddol sylweddol yn gysylltiedig â’r gwaith hwn, yn cynnwys ffos ddŵr i gludo dŵr o gronfa Llyn Bwlch-y-moch, a adeiladwyd yn fuan wedi 1840.[5] Gyda phris copr ar farchnadoedd y byd yn gostwng yn sylweddol erbyn diwedd y 19g., nid oedd yn economaidd bellach i gloddio yn Nyffryn Nantlle. Mae’n hysbys bod y gloddfa yn gweithio ym 1911, a hynny dan reolaeth cwmni o’r Almaen[6] ond caewyd Simdde’r Dylluan, mae’n debyg, tua 1920. Erbyn hynny, roedd siafftiau’r gwaith wedi cyrraedd dyfnder o thua 700 troedfedd (222 metr) o dan lefel y ddaear, y gloddfa gopr ddyfnaf yn Eryri.[7] Simdde'r Dylluan oedd yr olaf o gloddfeydd copr y dyffryn i gau.[8]

Cyfeiriadau

  1. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries (Cardiff, 1929) t.25
  2. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 15.11.2023
  3. Gwefan Welldigger, [2], cyrchwyd 15.11.2023
  4. Gwefan Carnarvon Traders, [3], cyrchwyd 15.11.2023
  5. Gwefan Scandal on Ben Nevis, [1] <http://www.thegallivantingjournals.co.uk/blog/retro/llyn-bwlch-y-moch-drws-y-coed/>, cyrchwyd 16.2.2021
  6. Gwefan Coflein [4] cyrchwyd 15.11.2023
  7. Gwefan Mindat, [5], cyrchwyd 15.11.2023
  8. T.B. Colman, Sediment-Hosted, Base-Metal, Vein Mineralisation at Drws y Coed and Cwm Pennant, Snowdonia, North Wales (British Mining rhif 41) t.47