Chwarel Moel Tryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarel lechi ym mhlwyf [[Llandwrog]] oedd Chwarel Moel Tryfan. | Chwarel lechi ym mhlwyf [[Llandwrog]] oedd '''Chwarel Moel Tryfan'''. (SH 518567). | ||
Lleolir hi ar lethrau [[Moel Tryfan]], uwchben pentref [[Rhosgadfan]]. Dechreuodd fel cloddfa fechan iawn | |||
Lleolir hi ar lethrau [[Moel Tryfan]], uwchben pentref [[Rhosgadfan]]. Dechreuodd fel cloddfa fechan iawn tua 1800 gan [[John Evans]] a'i bartneriaid. Fe'i gwerthwyd mewn arwerthiant ym 1827. Cafodd ei datblygu yn arw tua’r 1880au, gan Gwmni Llechi a Slabiau Moeltryfan (''Moeltryfan Slate and Slab Co. Ltd.'') a hynny'n dilyn datblygiad y rheilffyrdd yn ardal [[Dyffryn Nantlle]]. Erbyn 1882 roedd 81 dyn yn cynhyrchu oddeutu 1880 tunnell o lechi yno.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/40560/details/moel-tryfan-quarry Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref><ref>[http://www.nantlle.com/hanes-rhostryfan.htm Gwefan Swyddogol Nantlle]</ref> | |||
Erbyn 1898, roedd 236 o ddynion yn gyflogedig yno. Roedd y cynnyrch yn cael ei gario oddi yno drwy dwnnel i fan | Erbyn 1898, roedd 236 o ddynion yn gyflogedig yno. Roedd y cynnyrch yn cael ei gario oddi yno drwy dwnnel i fan lle roedd melinau enfawr yn eu hollti, rhywbeth anarferol i’r ardal hon. O 1918 ymlaen, ffurfiai ran o bartneriaeth o gwmnïau a ffurfiodd y [[Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd]].<ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry''’, (Newton Abbot, 1974), t. 325-6.</ref> | ||
Diddymwyd y rheilffordd yn y chwarel erbyn 1966, a defnyddiwyd loriau ‘Matador’ i | Diddymwyd y rheilffordd yn y chwarel erbyn 1966, a defnyddiwyd loriau ‘Matador’ i gludo'r cynnyrch. Daeth y gweithio yno i ben yn y 1970au, er bod 12 o ddynion ar waith yno mor ddiweddar â 1972. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori: Diwydiant a Masnach]] | [[Categori: Diwydiant a Masnach]] | ||
[[Categori:Chwareli llechi]] | [[Categori:Chwareli llechi]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:56, 16 Tachwedd 2023
Chwarel lechi ym mhlwyf Llandwrog oedd Chwarel Moel Tryfan. (SH 518567).
Lleolir hi ar lethrau Moel Tryfan, uwchben pentref Rhosgadfan. Dechreuodd fel cloddfa fechan iawn tua 1800 gan John Evans a'i bartneriaid. Fe'i gwerthwyd mewn arwerthiant ym 1827. Cafodd ei datblygu yn arw tua’r 1880au, gan Gwmni Llechi a Slabiau Moeltryfan (Moeltryfan Slate and Slab Co. Ltd.) a hynny'n dilyn datblygiad y rheilffyrdd yn ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1882 roedd 81 dyn yn cynhyrchu oddeutu 1880 tunnell o lechi yno.[1][2]
Erbyn 1898, roedd 236 o ddynion yn gyflogedig yno. Roedd y cynnyrch yn cael ei gario oddi yno drwy dwnnel i fan lle roedd melinau enfawr yn eu hollti, rhywbeth anarferol i’r ardal hon. O 1918 ymlaen, ffurfiai ran o bartneriaeth o gwmnïau a ffurfiodd y Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd.[3]
Diddymwyd y rheilffordd yn y chwarel erbyn 1966, a defnyddiwyd loriau ‘Matador’ i gludo'r cynnyrch. Daeth y gweithio yno i ben yn y 1970au, er bod 12 o ddynion ar waith yno mor ddiweddar â 1972.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
- ↑ Gwefan Swyddogol Nantlle
- ↑ Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’, (Newton Abbot, 1974), t. 325-6.