Treddafydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Treddafydd''' yn rhes o dai teras ym mhentref Pen-y-groes. Am flynyddoedd dyma oedd y tai cyntaf y pentref i deithiwr gyrraedd wrth deithio o G...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:50, 14 Tachwedd 2023

Mae Treddafydd yn rhes o dai teras ym mhentref Pen-y-groes. Am flynyddoedd dyma oedd y tai cyntaf y pentref i deithiwr gyrraedd wrth deithio o Gaernarfon i Dremadog. Fe'u codwyd gan Robert Williams - y credir mai teiliwr ydoedd o ran ei alwedigaeth - a hynny ym 1836.[1] Telid £10 y flwyddyn am rent y tir nes i Ystad Bryncir werthu'r brydles ym 1891.[2]

Cyfeiriadau

  1. Owen Owen, Cartrefle, Tan'rallt, Hen Atgofion am Ben-y-groes
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 30.10.1891, t.8