Betws Gwernrhiw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei | Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)</ref> Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd. | ||
Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson | Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger [[Glan-rhyd]].<ref>Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)</ref> Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu [[Glynllifon]].<ref>P.B. Williams, ''The Tourist's Guide through the county of Caernarvon'',(Caernarfon, 1821), [https://www.gutenberg.org/files/45865/45865-h/45865-h.htm]</ref> | ||
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon | Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n ''Goed y Betws''. | ||
Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon | Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon Edliw]] neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai ''edliw'' a ''gwernrhiw'' oedd yr un gair ar un adeg. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori:Safleoedd crefyddol]] | |||
[[Categori:Tafarndai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:24, 13 Tachwedd 2023
Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.[1] Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.
Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger Glan-rhyd.[2] Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu Glynllifon.[3]
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n Goed y Betws.
Y mae ffynnon, sef Ffynnon Edliw neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai edliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
- ↑ Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
- ↑ P.B. Williams, The Tourist's Guide through the county of Caernarvon,(Caernarfon, 1821), [1]