Pontlyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pontlyfni''' yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned [[Llanllyfni]]. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach. Mae siop ceginau a modurdy sy'n arbenigo mewn cerbydau amaethyddol a masnachol yn dal yno, a nifer o safleoedd i wersylla a charafanio. Mae [[Pont-y-Cim]] gerllaw. Yr oedd [[Melin-y-Cim]] yn y pentref.
Mae '''Pontlyfni''' yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned [[Clynnog Fawr]]. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr. Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Bu siop fechan ger yr modurdy ([[Siop Ralph Baum]]) oddeutu hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae [[Pont-y-Cim]] gerllaw. Yr oedd [[Melin-y-Cim]] yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef [[Pont Lyfni]], a godwyd yn 1777, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.


==Carreg fellt Pontllyfni==
Roedd [[Capel Seilo (B), Pontlyfni|capel Bedyddwyr]], ger pont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd [[Tafarn y Boar's Head]]. Caewyd y Boar's Head  ym 1916.<ref>''Llangollen Advertiser'', 10.3.1916, t.2</ref> Bu Swyddfa'r Post yn yr adeilad hwn am gyfnod.
Mae Pontllyfni yn enwog hefyd ym myd [[seryddiaeth]] am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (neu '[[Carreg fellt|garreg fellt]]') i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn ''[[Y Gwyddonydd]]'' yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:


''"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."''<ref>[http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1403557/llgc-id:1403658/getText ''Y Gwyddonydd'']</ref>
==Carreg fellt Pontlyfni==
Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ar Ebrill 14eg 1931, pan syrthiodd maen awyr ([[Carreg fellt Pontlyfni]]) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.Roedd y ffermwr, John Lloyd Williams yn chwech a thrigain mlwydd oed ac ar y pryd yn sgwrsio efo Mary Wyn Jones ger giât Bronallt oddeutu hanner dydd. Rhedodd â'i wynt yn ei ddwrn i gyfeiriad y beudai, lle gwelodd ei fab hefyd mewn dychryn. Roedd synau fel gynnau'n tanio gyda sŵn chwibanu parhaus yn dilyn y ffrwydriadau. Sylwyd yn gyntaf ar y twll yn y ddaear. Pan gyffyrddwyd â'r gwrthrych roedd yn gynnes iawn. Roedd yn union bum pwys pan bwyswyd ef yn ddiweddarach.


Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r [[Yr Amgueddfa Brydeinig|Amgueddfa Brydeinig]] geiso prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal [[Llanrhystud]] - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "''The Pontllyfni meteorite''" yn y papurau seryddol - ond dan y sillafiad amgen 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddaear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontllyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym [[Beddgelert|Meddgelert]] ym 1949.<ref>[http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/meteorites.html Gwefan Bryn Jones]</ref><ref>Gwybodaeth gan Wicipedia</ref>
Roedd Mary Wyn Jones yn ddisgybl yn Ysgol Brynaerau (daeth yn athrawes yno yn ddiweddarach) a chofiai'r daearegwyr a ddaeth yn uniongyrchol o Lundain i astudio'r garreggan aros yn ei chartref. Cofiai hefyd y prifathro, Llewelyn Parry, yn arddangos y garreg fellt mewn cwpwrdd gwydr yn yr ysgol.<ref>Allan o Golofn Robert Wyn;''Lleu'' Hydref 2013, Rhif 446, tud. </ref>  


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:24, 1 Tachwedd 2023

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Clynnog Fawr. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr. Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Bu siop fechan ger yr modurdy (Siop Ralph Baum) oddeutu hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef Pont Lyfni, a godwyd yn 1777, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.

Roedd capel Bedyddwyr, ger pont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd Tafarn y Boar's Head. Caewyd y Boar's Head ym 1916.[1] Bu Swyddfa'r Post yn yr adeilad hwn am gyfnod.

Carreg fellt Pontlyfni

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ar Ebrill 14eg 1931, pan syrthiodd maen awyr (Carreg fellt Pontlyfni) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug. Teimlwyd y dirgryniad cyn belled â Phorthmadog.Roedd y ffermwr, John Lloyd Williams yn chwech a thrigain mlwydd oed ac ar y pryd yn sgwrsio efo Mary Wyn Jones ger giât Bronallt oddeutu hanner dydd. Rhedodd â'i wynt yn ei ddwrn i gyfeiriad y beudai, lle gwelodd ei fab hefyd mewn dychryn. Roedd synau fel gynnau'n tanio gyda sŵn chwibanu parhaus yn dilyn y ffrwydriadau. Sylwyd yn gyntaf ar y twll yn y ddaear. Pan gyffyrddwyd â'r gwrthrych roedd yn gynnes iawn. Roedd yn union bum pwys pan bwyswyd ef yn ddiweddarach.

Roedd Mary Wyn Jones yn ddisgybl yn Ysgol Brynaerau (daeth yn athrawes yno yn ddiweddarach) a chofiai'r daearegwyr a ddaeth yn uniongyrchol o Lundain i astudio'r garreg, gan aros yn ei chartref. Cofiai hefyd y prifathro, Llewelyn Parry, yn arddangos y garreg fellt mewn cwpwrdd gwydr yn yr ysgol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llangollen Advertiser, 10.3.1916, t.2
  2. Allan o Golofn Robert Wyn;Lleu Hydref 2013, Rhif 446, tud.