Stabal Goch, Hengwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Stabal goch 1.jpg|bawd|de|350px]] | |||
[[Delwedd:Stabal goch 3.jpg|bawd|de|350px]] | |||
[[Delwedd:Stabal goch 2.jpg|bawd|de|350px]] | |||
Nid oes sôn am Maes Du yn y Cyfrifiadau wedi 1841, ac felly rhaid ystyried fod y tŷ hwnnw wedi ei adael yn wag cyn 1851.<ref>Cafwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ganlynol gan Robert Williams, Waunfawr yn Haf 2020. Roedd rhai o’i hynafiaid wedi byw yn Stabal Goch. Elin, a aned ym 1809 oedd ei hen hen nain.</ref> | Mae '''Stabal Goch''' yn furddun ar dir fferm [[Hengwm]] ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], rhwng Hengwm ei hun a [[Mynachdy Gwyn]]. Symudodd teulu Stabal Goch o'r tŷ rywbryd cyn 1841 i dŷ arall cyfagos, Maes Du. Yn ôl cofnodion yng Nghofrestr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]<ref>Yn Archifdy Caernarfon</ref>, roedd un Hugh Jones a'i wraig Elin yn byw yno ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bedyddiwyd eu plant, Hugh ym 1803, Catherine (1805), Elin (1807) a William (1809) yn yr eglwys. Mae Cyfrifiad 1841 yn dangos eu bod wedi symud i Maes Du, ac erbyn hynny, roedd Hugh Jones o gwmpas 70 oed ac Elin yn 65. Nodwyd mai gogrwr, sef gwneuthurwr gograu neu ''sieves'', oedd Hugh. Roedd John a Jane Jones, 20 oed, yn byw yno hefyd, ynghyd â phlant, Morris Jones (10 oed) ac Ellin Jones (2 fis).<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1841</ref> | ||
Nid oes sôn am Maes Du yn y Cyfrifiadau wedi 1841, ac felly rhaid ystyried fod y tŷ hwnnw wedi ei adael yn wag cyn 1851.<ref>Cafwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ganlynol gan Robert Williams, Waunfawr yn Haf 2020. Roedd rhai o’i hynafiaid wedi byw yn Stabal Goch. Elin, a aned ym 1809, oedd ei hen hen nain.</ref> | |||
Ym mhennod ‘Lloffion’ llyfr O. Roger Owen, mae’r awdur yn sôn am enwau lleoedd, gan gynnwys tyddynnod a fu’n adfeilion ers amser maith, yn eu plith ‘Stabl Goch’ a ‘Maes Du’, sy’n cael eu gosod wrth ymyl ei gilydd: | Ym mhennod ‘Lloffion’ llyfr O. Roger Owen, mae’r awdur yn sôn am enwau lleoedd, gan gynnwys tyddynnod a fu’n adfeilion ers amser maith, yn eu plith ‘Stabl Goch’ a ‘Maes Du’, sy’n cael eu gosod wrth ymyl ei gilydd: | ||
Braw i mi, wrth ddarllen cofnodion o eiddo fy nhad, oedd sylwi cymaint o dyddynnod yn yr ardal oedd wedi dadfeilio a mynd yn furddunod. Mae’n debyg fod hyn yn wir am ardaloedd eraill yng Nghymru. Wele enwau rhai: Felog Bach, Yr Ochr, Tan-y-chwarel, Y Foel, Cae’r Bwlch, Foel Fechan, Mur Forwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa’r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Derwin'', (Penygroes, 1981), t.80</ref> | Braw i mi, wrth ddarllen cofnodion o eiddo fy nhad, oedd sylwi cymaint o dyddynnod yn yr ardal oedd wedi dadfeilio a mynd yn furddunod. Mae’n debyg fod hyn yn wir am ardaloedd eraill yng Nghymru. Wele enwau rhai: Felog Bach, Yr Ochr, Tan-y-chwarel, Y Foel, Cae’r Bwlch, Foel Fechan, Mur Forwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa’r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Derwin'', (Penygroes, 1981), t.80</ref> | ||
Tad O. Roger Owen oedd Owen Roger Owen a fu farw ar y 1af o Fedi 1952 yn 85 oed, ac felly mae'r cof am yr enw'n ymestyn yn ôl | Tad O. Roger Owen oedd Owen Roger Owen a fu farw ar y 1af o Fedi 1952 yn 85 oed, ac felly mae'r cof am yr enw'n ymestyn yn ôl gant a hanner o flynyddoedd. | ||
Mae’r enw Stabal Goch wedi’i gadw yn enwau caeau Hengwm: | Mae’r enw Stabal Goch wedi’i gadw yn enwau caeau Hengwm: | ||
a) Map Degwm tua 1839 | a) Map Degwm tua 1839 | ||
2670 Werglodd Stabal Goch yn y Rhestr Bennu | 2670 Werglodd Stabal Goch yn y Rhestr Bennu; | ||
2671 Cae Stabal Goch yn y Rhestr Bennu – ond nid oes cae 2671 ar y map. Mae cae 2672 ar y map (yn ffinio | 2671 Cae Stabal Goch yn y Rhestr Bennu – ond nid oes cae 2671 ar y map. Mae cae 2672 ar y map (yn ffinio â Stabal Goch) ond nid yn y Rhestr Bennu. Mae’n debyg y dylai 2672 Hengwm fod yn 2671, gan fod caeau 2672 a 2672a dros y ffin ar dir ‘Monachdy’. | ||
b) Map gwerthiant 10, 11, 12 Rhagfyr 1907 | b) Map gwerthiant 10, 11, 12 Rhagfyr 1907 | ||
Llinell 17: | Llinell 21: | ||
A26 Cae wrth Cefn Beudy and Building [yn cyfateb i 2672 [= 2671?] uchod] | A26 Cae wrth Cefn Beudy and Building [yn cyfateb i 2672 [= 2671?] uchod] | ||
Mae Stabal Goch mewn cyflwr eithaf da o hyd, yn enwedig talcen y simdde fawr. Mae rhan uchaf y talcen arall wedi dymchwel, ac mae | Mae Stabal Goch mewn cyflwr eithaf da o hyd, yn enwedig talcen y simdde fawr. Mae rhan uchaf y talcen arall wedi dymchwel, ac mae llechi’r to ar y llawr. Codwyd gwahanfur o lechfeini a cherrig rhwng ardal y simdde fawr a gweddill yr annedd. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:49, 22 Medi 2023
Mae Stabal Goch yn furddun ar dir fferm Hengwm ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr, rhwng Hengwm ei hun a Mynachdy Gwyn. Symudodd teulu Stabal Goch o'r tŷ rywbryd cyn 1841 i dŷ arall cyfagos, Maes Du. Yn ôl cofnodion yng Nghofrestr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr[1], roedd un Hugh Jones a'i wraig Elin yn byw yno ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bedyddiwyd eu plant, Hugh ym 1803, Catherine (1805), Elin (1807) a William (1809) yn yr eglwys. Mae Cyfrifiad 1841 yn dangos eu bod wedi symud i Maes Du, ac erbyn hynny, roedd Hugh Jones o gwmpas 70 oed ac Elin yn 65. Nodwyd mai gogrwr, sef gwneuthurwr gograu neu sieves, oedd Hugh. Roedd John a Jane Jones, 20 oed, yn byw yno hefyd, ynghyd â phlant, Morris Jones (10 oed) ac Ellin Jones (2 fis).[2]
Nid oes sôn am Maes Du yn y Cyfrifiadau wedi 1841, ac felly rhaid ystyried fod y tŷ hwnnw wedi ei adael yn wag cyn 1851.[3]
Ym mhennod ‘Lloffion’ llyfr O. Roger Owen, mae’r awdur yn sôn am enwau lleoedd, gan gynnwys tyddynnod a fu’n adfeilion ers amser maith, yn eu plith ‘Stabl Goch’ a ‘Maes Du’, sy’n cael eu gosod wrth ymyl ei gilydd:
Braw i mi, wrth ddarllen cofnodion o eiddo fy nhad, oedd sylwi cymaint o dyddynnod yn yr ardal oedd wedi dadfeilio a mynd yn furddunod. Mae’n debyg fod hyn yn wir am ardaloedd eraill yng Nghymru. Wele enwau rhai: Felog Bach, Yr Ochr, Tan-y-chwarel, Y Foel, Cae’r Bwlch, Foel Fechan, Mur Forwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa’r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[4]
Tad O. Roger Owen oedd Owen Roger Owen a fu farw ar y 1af o Fedi 1952 yn 85 oed, ac felly mae'r cof am yr enw'n ymestyn yn ôl gant a hanner o flynyddoedd.
Mae’r enw Stabal Goch wedi’i gadw yn enwau caeau Hengwm:
a) Map Degwm tua 1839 2670 Werglodd Stabal Goch yn y Rhestr Bennu; 2671 Cae Stabal Goch yn y Rhestr Bennu – ond nid oes cae 2671 ar y map. Mae cae 2672 ar y map (yn ffinio â Stabal Goch) ond nid yn y Rhestr Bennu. Mae’n debyg y dylai 2672 Hengwm fod yn 2671, gan fod caeau 2672 a 2672a dros y ffin ar dir ‘Monachdy’.
b) Map gwerthiant 10, 11, 12 Rhagfyr 1907 A30 Werglodd Stabl Goch [yn cyfateb i 2670 uchod] A26 Cae wrth Cefn Beudy and Building [yn cyfateb i 2672 [= 2671?] uchod]
Mae Stabal Goch mewn cyflwr eithaf da o hyd, yn enwedig talcen y simdde fawr. Mae rhan uchaf y talcen arall wedi dymchwel, ac mae llechi’r to ar y llawr. Codwyd gwahanfur o lechfeini a cherrig rhwng ardal y simdde fawr a gweddill yr annedd.
Cyfeiriadau