John Jones, Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:J Jones Talysarn.jpg|bawd|de|300px|John Jones, Tal-y-sarn]]
[[Delwedd:J Jones Talysarn.jpg|bawd|de|300px|John Jones, Tal-y-sarn]]
[[Delwedd:Tan y Castell cartref J Jones TyS 1.JPG|bawd|300px|de|Cartref cyntaf John Jones, Tan-y-castell, Dolwyddelan]]
[[Delwedd:Tai Penamnen 1.JPG|bawd|300px|de|Murddyn cartref Angharad James Penamnen, Dolwyddelan]]
[[Delwedd:Masnachdyjohnjonestalysarn.jpg|bawd|300px|de|Siop John a Fanny Jones yn Nhal-y-sarn]]


Un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd '''John Jones''' (1796-1857). Fe gyfeirir ato bob tro fel ''John Jones, Tal-y-sarn'' yn radical peryglus gan John Elias (1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, roedd John Elias yn ddyn â rhagfarnau yn erbyn y rhai na chytunai ag ef.  
Roedd '''John Jones, Tal-y-sarn''' (1 Mawrth 1796 - 18 Awst 1857) yn weinidog adnabyddus gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyfeirir ato fel radical peryglus gan John Elias (1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, roedd John Elias yn ddyn â rhagfarnau yn erbyn y rhai na chytunai ag ef.  


Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, Dolwyddelan, ar 1 Mawrth 1796, yn ddisgynydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac Angharad James o Gwm Penamnen. Ganwyd mae'n debyg yn 1796, er bod ei fywgraffydd yn cofnodi amheuaeth ynglyn â ai yn 1796 eu 1797 yr oedd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ac roedd yn uniaith Gymraeg.
Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, Dolwyddelan, ar 1 Mawrth 1796, yn ddisgynnydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac Angharad James o Gwm Penamnen. Fe'i ganed mae'n debyg ym 1796, er bod ei fywgraffydd yn nodi amheuaeth p'un ai ym 1796 ynteu 1797 y digwyddodd hynny. Ni chafodd addysg ffurfiol ac roedd yn uniaith Gymraeg. Roedd yn frawd i weinidog amlwg arall, David Jones, Treborth, a cheir cofeb i'r brodyr dawnus hyn wrth eu hen gartref. 


Tua 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd Thomas Telford rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen - sef yr A5 presennol. Tua'r un adeg, roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau Moel Siabod, yn myfyrio ac ystyried pregethu. Aeth ymlaen i fod yn chwarelwr, ac yn 1822 symudodd i fyw i ardal [[Tal-y-sarn]].  
Tua 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd Thomas Telford rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen - sef yr A5 bresennol. Bu wedyn yn gweithio mewn chwarel yn Nhrefriw. Tua'r un adeg, roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ei ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau Moel Siabod, yn myfyrio ac ystyried pregethu. Parhaodd i fod yn chwarelwr, ac ym 1822 symudodd i fyw i ardal [[Tal-y-sarn]]. <ref>Wicipedia, erthygl ar John Jones, [https://cy.wikipedia.org/wiki/John_Jones,_Talysarn], adalwyd, 6.9.2018 </ref>


Gan fod cyfnither John Jones wedi priodi efo Griffith Williams, un o oruchwylwyr [[Chwarel Tal-y-sarn]] cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y flwyddyn wedyn efo Fanny, merch [[Thomas Edwards]], goruchwyliwr [[Chwarel Cloddfa'r Lôn]]. Gadawodd y chwarel ac aeth [[Fanny Jones|Fanny]] i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel hefyd. Gwerthid popeth o duntur riwbob i arfau chwarel! Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn enwedig pregethwyr Methodistaidd, oedd yr arferiad i'w gwragedd gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu.
Ymunodd â chrefyddwyr yn ardal Llangernyw ar ôl dod dan ddylanwad Diwygiad Beddgelert (1819). Dechreuodd bregethu o gwmpas 1821, er ei fod heb dderbyn llawer o addysg ffurfiol ac eithrio ychydig hyfforddiant gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) yn Nhrefriw. Ym 1822 derbyniwyd ef yn aelod o gyfarfod misol Sir Feirionnydd yn Y Bala.


Ym 1848 daeth y les ar [[Chwarel Dorothea]] i ben a ffurfiodd John Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr.
Gan fod cyfnither John Jones wedi priodi â Griffith Williams, un o oruchwylwyr [[Chwarel Tal-y-sarn]], cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y flwyddyn wedyn â Fanny, merch Thomas Edwards, goruchwyliwr [[Cloddfa'r Lôn]]. Gadawodd y chwarel ac aeth [[Fanny Jones|Fanny]] i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel hefyd. Gwerthid popeth o duntur riwbob i arfau chwarel yn y siop ryfeddol honno! Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn enwedig pregethwyr Methodistaidd, oedd yr arferiad i'w gwragedd gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu. Gadawodd y chwarel ym 1824 gan ennill bywoliaeth o siop ei briod. Derbyniwyd ef yn aelod o'r gymdeithasfa ym 1824, a chafodd ei ordeinio ym 1829 – bu ar y maes am 28 mlynedd arall. Oherwydd busnes y siop dan ofal ei wraig gallodd John Jones ymroi bron yn llwyr i bregethu a bu ar deithiau pregethu maith drwy Gymru benbaladr. Dywedir iddo ddechrau dull newydd o bregethu – gyda phwyslais arbennig ar yr ymarferol yn hytrach na’r athrawiaethol. Nodweddid ei bregethau gan nerth - nerth meddwl, nerth ymadrodd, nerth argyhoeddiad ac ymgysegriad. Er na chafodd lawer o addysg ffurfiol darllenodd yn helaeth iawn a deuai ei wybodaeth doreithiog i'r amlwg yn ei bregethu. Roedd hefyd yn gerddor rhagorol a meddai ar lais cadarn a phersain.  


Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angeuol yn y chwarel ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a gwerthodd ei holl gyfranddaliadau.  Pan fu farw bum mlynedd yn ddiweddarach rhoddwyd ei gorff yn ddiddos mewn tair arch, arch dderw, arch fahogani ac i goroni'r cwbl, arch lechen. Ac i selio'r diddosrwydd rhoddwyd maen coffa enfawr ar ei fedd ym mynwent [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]].
Ym 1848 daeth y les ar [[Chwarel Dorothea]] i ben a ffurfiodd John Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angheuol yn y chwarel ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a gwerthodd ei holl gyfranddaliadau.   


Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei fab hynaf, o Blas y Bryn, [[Y Bontnewydd]] yn un o brif reolwyr [[Chwarel Dorothea]] ac hefyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]]. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr George M. Ll. Davies (1880-1949).
Bu farw 16 Awst 1857, a chladdwyd ef yn Llanllyfni. Roedd ei angladd gyda'r mwyaf a welodd yr ardal erioed gyda thuag 8,000 yn yr orymdaith a ymlwybrodd o Dal-y-sarn i Lanllyfni. Roedd tair arch am y corff - arch dderw i ddechrau, a honno wedyn mewn arch fwy o fahogani a'r rheini wedi eu gosod mewn cist o garreg nadd o'r chwarel yn y bedd ym mynwent [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]]. Yn ddiweddarach codwyd cofeb sylweddol iawn arno. Mae ''Cofiant John Jones, Tal-y-sarn'' gan Owen Thomas, Lerpwl (a oedd yn daid i Saunders Lewis) yn glasur ymysg y lliaws o gofiannau a gyhoeddwyd i weinidogion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir toreth o wybodaeth ynddo am bob agwedd ar grefydd anghydffurfiol y cyfnod. Hefyd cyhoeddwyd cofiant i Fanny Jones - un o'r cofiannau prin a gyhoeddwyd i ferched amlwg y cyfnod.
 
Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei fab hynaf, o Blas y Bryn, [[Y Bontnewydd]] yn un o brif reolwyr [[Chwarel Dorothea]] a hefyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]]. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr George M. Ll. Davies (1880-1949).


Diddorol yw cofnodi hefyd fod John Jones yn un o arwyr mawr [[David Lloyd George]], gyda phortread o John Jones yn cael lle amlwg yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yna yn Brif Weinidog. <ref>Seiliwyd llawer o'r erthygl gychwynnol ar wefan Llechi Cymru, sef ''Llechwefan'', 2002, [http://www.llechicymru.info/IQP.cymraeg.htm]</ref>
Diddorol yw cofnodi hefyd fod John Jones yn un o arwyr mawr [[David Lloyd George]], gyda phortread o John Jones yn cael lle amlwg yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yna yn Brif Weinidog. <ref>Seiliwyd llawer o'r erthygl gychwynnol ar wefan Llechi Cymru, sef ''Llechwefan'', 2002, [http://www.llechicymru.info/IQP.cymraeg.htm]</ref>
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 25: Llinell 28:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Siopau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:41, 11 Medi 2023

John Jones, Tal-y-sarn
Cartref cyntaf John Jones, Tan-y-castell, Dolwyddelan
Murddyn cartref Angharad James Penamnen, Dolwyddelan
Siop John a Fanny Jones yn Nhal-y-sarn

Roedd John Jones, Tal-y-sarn (1 Mawrth 1796 - 18 Awst 1857) yn weinidog adnabyddus gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyfeirir ato fel radical peryglus gan John Elias (1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, roedd John Elias yn ddyn â rhagfarnau yn erbyn y rhai na chytunai ag ef.

Ganwyd John Jones mewn cartref nodedig o'r enw Tanycastell, Dolwyddelan, ar 1 Mawrth 1796, yn ddisgynnydd ar ochr ei dad a'i fam i William Prichard ac Angharad James o Gwm Penamnen. Fe'i ganed mae'n debyg ym 1796, er bod ei fywgraffydd yn nodi amheuaeth p'un ai ym 1796 ynteu 1797 y digwyddodd hynny. Ni chafodd addysg ffurfiol ac roedd yn uniaith Gymraeg. Roedd yn frawd i weinidog amlwg arall, David Jones, Treborth, a cheir cofeb i'r brodyr dawnus hyn wrth eu hen gartref.

Tua 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, roedd yn weithiwr ar adeiladu ffordd newydd Thomas Telford rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen - sef yr A5 bresennol. Bu wedyn yn gweithio mewn chwarel yn Nhrefriw. Tua'r un adeg, roedd hefyd yn ymddiddori mewn materion crefydd, a bu'n treulio amser ar ei ben ei hun mewn ceunant o'r enw Nant y Tylathau, ar lethrau Moel Siabod, yn myfyrio ac ystyried pregethu. Parhaodd i fod yn chwarelwr, ac ym 1822 symudodd i fyw i ardal Tal-y-sarn. [1]

Ymunodd â chrefyddwyr yn ardal Llangernyw ar ôl dod dan ddylanwad Diwygiad Beddgelert (1819). Dechreuodd bregethu o gwmpas 1821, er ei fod heb dderbyn llawer o addysg ffurfiol ac eithrio ychydig hyfforddiant gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) yn Nhrefriw. Ym 1822 derbyniwyd ef yn aelod o gyfarfod misol Sir Feirionnydd yn Y Bala.

Gan fod cyfnither John Jones wedi priodi â Griffith Williams, un o oruchwylwyr Chwarel Tal-y-sarn, cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y flwyddyn wedyn â Fanny, merch Thomas Edwards, goruchwyliwr Cloddfa'r Lôn. Gadawodd y chwarel ac aeth Fanny i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel hefyd. Gwerthid popeth o duntur riwbob i arfau chwarel yn y siop ryfeddol honno! Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn enwedig pregethwyr Methodistaidd, oedd yr arferiad i'w gwragedd gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu. Gadawodd y chwarel ym 1824 gan ennill bywoliaeth o siop ei briod. Derbyniwyd ef yn aelod o'r gymdeithasfa ym 1824, a chafodd ei ordeinio ym 1829 – bu ar y maes am 28 mlynedd arall. Oherwydd busnes y siop dan ofal ei wraig gallodd John Jones ymroi bron yn llwyr i bregethu a bu ar deithiau pregethu maith drwy Gymru benbaladr. Dywedir iddo ddechrau dull newydd o bregethu – gyda phwyslais arbennig ar yr ymarferol yn hytrach na’r athrawiaethol. Nodweddid ei bregethau gan nerth - nerth meddwl, nerth ymadrodd, nerth argyhoeddiad ac ymgysegriad. Er na chafodd lawer o addysg ffurfiol darllenodd yn helaeth iawn a deuai ei wybodaeth doreithiog i'r amlwg yn ei bregethu. Roedd hefyd yn gerddor rhagorol a meddai ar lais cadarn a phersain.

Ym 1848 daeth y les ar Chwarel Dorothea i ben a ffurfiodd John Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angheuol yn y chwarel ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a gwerthodd ei holl gyfranddaliadau.

Bu farw 16 Awst 1857, a chladdwyd ef yn Llanllyfni. Roedd ei angladd gyda'r mwyaf a welodd yr ardal erioed gyda thuag 8,000 yn yr orymdaith a ymlwybrodd o Dal-y-sarn i Lanllyfni. Roedd tair arch am y corff - arch dderw i ddechrau, a honno wedyn mewn arch fwy o fahogani a'r rheini wedi eu gosod mewn cist o garreg nadd o'r chwarel yn y bedd ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Yn ddiweddarach codwyd cofeb sylweddol iawn arno. Mae Cofiant John Jones, Tal-y-sarn gan Owen Thomas, Lerpwl (a oedd yn daid i Saunders Lewis) yn glasur ymysg y lliaws o gofiannau a gyhoeddwyd i weinidogion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir toreth o wybodaeth ynddo am bob agwedd ar grefydd anghydffurfiol y cyfnod. Hefyd cyhoeddwyd cofiant i Fanny Jones - un o'r cofiannau prin a gyhoeddwyd i ferched amlwg y cyfnod.

Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei fab hynaf, o Blas y Bryn, Y Bontnewydd yn un o brif reolwyr Chwarel Dorothea a hefyd Chwarel Pen-yr-orsedd. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr George M. Ll. Davies (1880-1949).

Diddorol yw cofnodi hefyd fod John Jones yn un o arwyr mawr David Lloyd George, gyda phortread o John Jones yn cael lle amlwg yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yna yn Brif Weinidog. [2]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar John Jones, [1], adalwyd, 6.9.2018
  2. Seiliwyd llawer o'r erthygl gychwynnol ar wefan Llechi Cymru, sef Llechwefan, 2002, [2]