William John Davies (ymgymerwr llechi): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen William John Davies (Ymgymerwr llechi) i William John Davies (ymgymerwr llechi) heb adael dolen ailgyfeirio |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''William John Davies''' (1891-?1957) | Ganed '''William John Davies''' (1891-?1957) yn fab i Frederick Edward a Jane Ellen Davies. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel "Wil John Fred". Roedd ei rieni'n cadw siop llysiau yn 32 Ffordd Brynmelyn yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]], er i Frederick hefyd weithio fel chwarelwr nes iddo agor ei siop. Roedd y ddau riant wedi symud i'r dyffryn: Frederick (bu farw 1922) o Bontrobert, Sir Drefaldwyn a Jane Ellen (bu farw 1931) o Fethesda.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1891-1921, ''Yr Herald Cymraeg'', 25.4.1932, t.8</ref> | ||
Gweithiodd William John Davies fel ymgymerwr chwareli, gan | Gweithiodd William John Davies fel ymgymerwr chwareli, gan rentu chwareli bach a oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomennydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen a oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomennydd y [[Gloddfa Glai]] a [[Chwarel Tal-y-sarn]] ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomennydd [[Chwarel Nant-y-fron]] gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am lechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr. | ||
Yn ôl ''Yr Herald Cymraeg'' roedd yn un o dri phlentyn; y lleill oedd Idwal (bu farw 1919) a Mary. Erbyn 1932, roeddynt yn byw mewn tŷ o'r enw Glyn Dŵr, Tal-y-sarn. Mae'n debyg nad oedd William wedi priodi.<ref> ''Yr Herald Cymraeg'', 25.4.1932, t.8</ref> | Yn ôl ''Yr Herald Cymraeg'' roedd yn un o dri phlentyn; y lleill oedd Idwal (bu farw 1919) a Mary. Erbyn 1932, roeddynt yn byw mewn tŷ o'r enw Glyn Dŵr, Tal-y-sarn. Mae'n debyg nad oedd William wedi priodi.<ref> ''Yr Herald Cymraeg'', 25.4.1932, t.8</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 08:53, 6 Medi 2023
Ganed William John Davies (1891-?1957) yn fab i Frederick Edward a Jane Ellen Davies. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel "Wil John Fred". Roedd ei rieni'n cadw siop llysiau yn 32 Ffordd Brynmelyn yn Nhal-y-sarn, er i Frederick hefyd weithio fel chwarelwr nes iddo agor ei siop. Roedd y ddau riant wedi symud i'r dyffryn: Frederick (bu farw 1922) o Bontrobert, Sir Drefaldwyn a Jane Ellen (bu farw 1931) o Fethesda.[1]
Gweithiodd William John Davies fel ymgymerwr chwareli, gan rentu chwareli bach a oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomennydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen a oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomennydd y Gloddfa Glai a Chwarel Tal-y-sarn ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomennydd Chwarel Nant-y-fron gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am lechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr.
Yn ôl Yr Herald Cymraeg roedd yn un o dri phlentyn; y lleill oedd Idwal (bu farw 1919) a Mary. Erbyn 1932, roeddynt yn byw mewn tŷ o'r enw Glyn Dŵr, Tal-y-sarn. Mae'n debyg nad oedd William wedi priodi.[2]
Sonnir ei fod yn dipyn o gymeriad, yn arbennig wrth iddo gynnal cwmni drama lleol. [3]