William John Davies (ymgymerwr llechi): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed '''William John Davies''' ym 1890, yn fab i Frederick a Jane Ellen Davies. Fe'i hadnabuwyd yn gyffredinol fel "Wil John Fred". Gweithiodd fel ymgym...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''William John Davies''' ym 1890, yn fab i Frederick a Jane Ellen Davies. Fe'i hadnabuwyd yn gyffredinol fel "Wil John Fred".
Ganed '''William John Davies''' (1891-?1957) yn fab i Frederick Edward a Jane Ellen Davies. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel "Wil John Fred". Roedd ei rieni'n cadw siop llysiau yn 32 Ffordd Brynmelyn yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]], er i Frederick hefyd weithio fel chwarelwr nes iddo agor ei siop. Roedd y ddau riant wedi symud i'r dyffryn: Frederick (bu farw 1922) o Bontrobert, Sir Drefaldwyn a Jane Ellen (bu farw 1931) o Fethesda.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1891-1921, ''Yr Herald Cymraeg'', 25.4.1932, t.8</ref>


Gweithiodd fel ymgymerwr chwareli, gan renti chwareli bach oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomenydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomenydd y [[Gloddfa Glai]] a [[Chwarel Tal-y-sarn]] ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomenydd [[Chwarel Nant-y-fron]] gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am llechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr.
Gweithiodd William John Davies fel ymgymerwr chwareli, gan rentu chwareli bach a oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomennydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen a oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomennydd y [[Gloddfa Glai]] a [[Chwarel Tal-y-sarn]] ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomennydd [[Chwarel Nant-y-fron]] gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am lechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr.


Sonnir ei fod yn dipyn o gymeriad, yn arbennig wrth iddo gynnal cwmni drama lleol. <ref>J. Gwynfor Jones, ''Chwarelyddiaeth Dyffryn nantlle'' (Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 2008, Caernarfon, 2008), tt.24-5</ref>
Yn ôl ''Yr Herald Cymraeg'' roedd yn un o dri phlentyn; y lleill oedd Idwal (bu farw 1919) a Mary. Erbyn 1932, roeddynt yn byw mewn tŷ o'r enw Glyn Dŵr, Tal-y-sarn. Mae'n debyg nad oedd William wedi priodi.<ref> ''Yr Herald Cymraeg'', 25.4.1932, t.8</ref>
 
Sonnir ei fod yn dipyn o gymeriad, yn arbennig wrth iddo gynnal cwmni drama lleol. <ref>J. Gwynfor Jones, ''Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle'' (Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 2008, Caernarfon, 2008), tt.24-5</ref>
 
==Cyfeiriadau==
 
[[Categori:Asiantwyr a rheolwyr chwareli]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:53, 6 Medi 2023

Ganed William John Davies (1891-?1957) yn fab i Frederick Edward a Jane Ellen Davies. Fe'i hadwaenid yn gyffredinol fel "Wil John Fred". Roedd ei rieni'n cadw siop llysiau yn 32 Ffordd Brynmelyn yn Nhal-y-sarn, er i Frederick hefyd weithio fel chwarelwr nes iddo agor ei siop. Roedd y ddau riant wedi symud i'r dyffryn: Frederick (bu farw 1922) o Bontrobert, Sir Drefaldwyn a Jane Ellen (bu farw 1931) o Fethesda.[1]

Gweithiodd William John Davies fel ymgymerwr chwareli, gan rentu chwareli bach a oedd wedi eu cau, a gosod dynion i weithio ar y tomennydd o lechi gwastraff i gynhyrchu "cerrig mân" wrth ail-weithio slabiau o lechen a oedd wedi eu troi heibio. Bu ei ddynion yn ail-weithio tomennydd y Gloddfa Glai a Chwarel Tal-y-sarn ymysg eraill. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gosododd nifer llai o ddynion ar waith yn nhomennydd Chwarel Nant-y-fron gan fod llechen werdd yno ac roedd galw am lechi o'r lliw hwnnw. Trwy ddarparu gwaith i chwarelwyr di-waith y dyffryn yn ystod y Dirwasgiad bu'n gyfrwng i helpu sawl un er nad oedd y cyflog y gallai ei dalu'n fawr.

Yn ôl Yr Herald Cymraeg roedd yn un o dri phlentyn; y lleill oedd Idwal (bu farw 1919) a Mary. Erbyn 1932, roeddynt yn byw mewn tŷ o'r enw Glyn Dŵr, Tal-y-sarn. Mae'n debyg nad oedd William wedi priodi.[2]

Sonnir ei fod yn dipyn o gymeriad, yn arbennig wrth iddo gynnal cwmni drama lleol. [3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1891-1921, Yr Herald Cymraeg, 25.4.1932, t.8
  2. Yr Herald Cymraeg, 25.4.1932, t.8
  3. J. Gwynfor Jones, Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle (Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 2008, Caernarfon, 2008), tt.24-5