Bodychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Bodychen''' neu Fodychain yn enw hen blasty bach ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr, ar ochr dde’r ffordd sydd yn rhedeg o Gaernarfon i Benmorf...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Bodychen''' neu Fodychain yn enw hen blasty bach ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], ar ochr dde’r ffordd sydd yn rhedeg o Gaernarfon i Benmorfa (yr A487 erbyn heddiw). Mae’r enw’n dyddio’n ôl sawl canrif, ac erbyn heddiw mae dwy fferm, Bodychain Uchaf a Bodychain Isaf, yn rhannu’r enw. Dywedir mai’r enw gwreiddiol oedd Hendre Gwely’r Hydd.
Mae '''Bodychen''' neu Fodychain yn enw hen blasty bach ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]], ar ochr dde’r ffordd sydd yn rhedeg o Gaernarfon i Benmorfa (yr A487 erbyn heddiw). Mae’r enw’n dyddio’n ôl sawl canrif, ac erbyn heddiw mae dwy fferm, Bodychain Uchaf a Bodychain Isaf, yn rhannu’r enw. Dywedir mai’r enw gwreiddiol oedd Hendre Gwely’r Hydd.
Cartref un o deuluoedd o fân fonheddwyr Clynnog Fawr oedd Bodychen, yn eiddo i deulu Ellis, a oedd yn gallu olrhain eu tras i Hwfa ap Cynddelw. Y cyntaf i fabwysiadu’r cyfenw Ellis oedd Richard Ellis, mab Ellis ap John ap William. Pan oedd o’n ddyn ifanc, roedd Richard Ellis ymysg y mwyaf penboeth o frenhinwyr y sir a bu’n ceisio ailgychwyn y rhyfela yn erbyn dynion Cromwell ym 1649. Ei wraig oedd Jane, merch William Glynne, [[Plas Newydd, Llandwrog]], un arall o’r penboethiaid brenhinol.  
Cartref un o deuluoedd o fân fonheddwyr Clynnog Fawr oedd Bodychen, yn eiddo i deulu Ellis, a oedd yn gallu olrhain eu tras i Hwfa ap Cynddelw. Os gellir coelio achres a gyhoeddwyd mewn papur newydd ym 1866, roedd Bodychen wedi bod yn nwylo'r teulu ers canol y 14g.<ref>''North Wales Chronicle'', 24.2.1866</ref>
 
Mae ewyllys David ap John ap William o Fodychen, a fu farw, mae’n debyg, yn ystod mis Ebrill 1646 ar gael. Roedd [[Ystad Bodychen]] eisoes wedi ymffurfio, ac mae’n amlwg o’i ewyllys fanwl ei fod yn ddyn goludog, gan iddo restru ei ddyledwyr ac roedd rhyngddynt ddyledion o oddeutu £175. Prin oedd yna amaethwr yn [[Uwchgwyrfai]] gyda mwy o stoc (hyd y gellir casglu o’r dogfennau sydd wedi goroesi). Roedd ganddo o leiaf 124 o ddefaid, 39 o wartheg a saith ceffyl. Richard Ellis, ei nai (gweler isod) oedd gweinyddwr ei stad - ac o’i lofnod yntau mae’n amlwg ei fod wedi derbyn addysg o safon.<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1646/15</ref> Mae cadarnhad am ei gyfoeth i’w gael yn Rhôl Sybsidi ddyddiedig 1641, pan y’i rhestrwyd ymysg y 23 person mwyaf cefnog yn Uwchgwyrfai.<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/158</ref>
 
Y cyntaf i fabwysiadu’r cyfenw Ellis oedd Richard Ellis, mab Ellis ap John ap William. Pan oedd o’n ddyn ifanc, roedd Richard Ellis ymysg y mwyaf penboeth o frenhinwyr y sir a bu’n ceisio ailgychwyn y rhyfela yn erbyn dynion Cromwell ym 1649. Ei wraig oedd Jane, merch William Glynne, [[Plas Newydd, Llandwrog]], un arall o’r penboethiaid brenhinol.  


Gor-ŵyr Richard Ellis oedd Richard Ellis, M.A., ficer Clynnog Fawr o 1765 ymlaen. Priododd hwnnw Catherine, merch ei ragflaenydd, [[Richard Nanney]]. Eu mab nhw oedd David Ellis Nanney, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru (a fu farw ym 1819 yn 60 oed).<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.164, 228, 230</ref>
Gor-ŵyr Richard Ellis oedd Richard Ellis, M.A., ficer Clynnog Fawr o 1765 ymlaen. Priododd hwnnw Catherine, merch ei ragflaenydd, [[Richard Nanney]]. Eu mab nhw oedd David Ellis Nanney, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru (a fu farw ym 1819 yn 60 oed).<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.164, 228, 230</ref>
Ni ddylid cymysgu Bodychen, Clynnog Fawr gyda Bodychen, plwyf Llandrygarn, Ynys Môn. Fe wnaeth teulu Llandrygarn fabwysiadu’r cyfenw Bodychen am gyfnod, nes i un ohonynt briodi i mewn i deulu Sparrow o Fiwmares; am sawl cenhedlaeth cafwyd dynion a arddelai’r cyfenw rhyfeddol hwnnw, Bodychen Sparrow.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.98-9</ref>
Mae ewyllys David ap John ap William o Fodychen, a fu farw, mae’n debyg, yn ystod mis Ebrill 1646 ar gael. Roedd [[Ystad Bodychen]] eisoes wedi ymffurfio, ac mae’n amlwg o’i ewyllys fanwl ei fod yn ddyn goludog, gan iddo restru ei ddyledwyr ac roedd rhyngddynt ddyledion o oddeutu £175. Prin oedd yna amaethwr yn [[Uwchgwyrfai]] gyda mwy o stoc (hyd y gellir casglu o’r dogfennau sydd wedi goroesi). Roedd ganddo o leiaf 124 o ddefaid, 39 o wartheg a saith ceffyl. Richard Ellis, ei nai (gweler uchod) oedd gweinyddwr ei stad - ac o’i lofnod yntau mae’n amlwg ei fod wedi derbyn addysg o safon.<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1646/15</ref> Mae cadarnhad am ei gyfoeth i’w gael yn Rhôl Sybsidi dyddiedig 1641, pan y’i rhestrwyd ymysg y 23 person mwyaf cefnog yn Uwchgwyrfai.<ref>Archifdy Gwladol, E179/220/158</ref>


Yn ystod y 17g, crynhowyd Ystad Bodychen yn seiliedig ar dir a phlas Bodychen, a hynny’n bennaf trwy etifeddu a phriodi. Pan fu farw David Ellis, y gŵr bonheddig o Fodychen, ym 1722, roedd y teulu’n parhau’n weddol gefnog. Roedd ganddo 17 o wyrion ac wyresau, ac roedd yn gallu fforddio gadael £5 i bob un ohonynt. Gwerth ei stad pan fu farw oedd £445.5.4c, gyda rhyw £300 o hynny mewn arian parod - symiau sylweddol iawn am ŵr bonheddig. Roedd o’n ddyn diwylliedig, gyda gwerth £3 o lyfrau. Roedd o hefyd yn amaethwr nid ansylweddol, gyda 32 o ddefaid, tua dwsin o wartheg, a sypiau mawr o wair ac ŷd.<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1722/28</ref>
Yn ystod y 17g, crynhowyd Ystad Bodychen yn seiliedig ar dir a phlas Bodychen, a hynny’n bennaf trwy etifeddu a phriodi. Pan fu farw David Ellis, y gŵr bonheddig o Fodychen, ym 1722, roedd y teulu’n parhau’n weddol gefnog. Roedd ganddo 17 o wyrion ac wyresau, ac roedd yn gallu fforddio gadael £5 i bob un ohonynt. Gwerth ei stad pan fu farw oedd £445.5.4c, gyda rhyw £300 o hynny mewn arian parod - symiau sylweddol iawn am ŵr bonheddig. Roedd o’n ddyn diwylliedig, gyda gwerth £3 o lyfrau. Roedd o hefyd yn amaethwr nid ansylweddol, gyda 32 o ddefaid, tua dwsin o wartheg, a sypiau mawr o wair ac ŷd.<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1722/28</ref>
Llinell 13: Llinell 14:
Erbyn 1841, pan wnaed yr arolwg ar gyfer y degwm, Owen Jones Ellis-Nanney oedd y perchennog. Roedd yr eiddo yn dal yn eiddo i’r teulu felly er, erbyn hynny, roedd teulu Ellis a’u disgynyddion yn byw yn Gwynfryn, Llanystumdwy. Roedd Bodychen wedi ei rannu’n ddwy, gyda 134 erw wedi eu gosod i Robert Roberts, gŵr 75 oed a’i wraig Ellin; a 90 erw wedi eu gosod i Robert Prichard, hen ddyn 80 oed a’i wraig Margaret.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1841</ref>
Erbyn 1841, pan wnaed yr arolwg ar gyfer y degwm, Owen Jones Ellis-Nanney oedd y perchennog. Roedd yr eiddo yn dal yn eiddo i’r teulu felly er, erbyn hynny, roedd teulu Ellis a’u disgynyddion yn byw yn Gwynfryn, Llanystumdwy. Roedd Bodychen wedi ei rannu’n ddwy, gyda 134 erw wedi eu gosod i Robert Roberts, gŵr 75 oed a’i wraig Ellin; a 90 erw wedi eu gosod i Robert Prichard, hen ddyn 80 oed a’i wraig Margaret.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1841</ref>


Ymhen deng mlynedd, roedd Robert Roberts wedi marw, ond roedd Ellin yn dal yno yn 80 oed, ac yn ffermio gyda’i mab Owen Roberts,27 oed. Roedd teulu Richard Roberts, gŵr 50 oed, yn ffermio’r Bodychen arall. Erbyn 1861, fodd bynnag, roedd y ddwy fferm wedi cael eu gosod i denantiaid newydd – Humphrey Davies, gŵr gweddol ifanc 35 oed a hanai o Lanrug; a William Prichard, gŵr 49 oed o blwyf Dreflys. Arhosai’r ddau deulu yn yr un ffermydd tan rywbryd wedi 1881. Ym 1891, roedd y lleiaf o’r ddwy fferm yn wag, tra oedd y llall yn cael ei ffermio gan Ann Prichard, gweddw William Prichard, a’u mab Owen. Erbyn 1901, roedd Owen Prichard (neu Pritchard yn ôl y Cyfrifiad) yn ffermio gyda’i frawd Thomas. Gelwir ei fferm yn “Bodychain South” yn y Cyfrifiad. Ym “Modychain North” roedd ffermwr newydd, sef Griffith Williams, dyn sengl 46 oed, a anwyd ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Roedd chwaer i Griffith, Ellin, 39 oed, yn cadw tŷ iddo fo a’i dad, chwarelwr 75 oed, William Griffith – sylwer ar y defnydd diweddar iawn o gyfenwau patronymig a fyddai’n newid gyda phob cenhedlaeth. Roedd y ddau ffarmwr yn dal wrthi ym 1911, a’r ddau heb briodi. Bu newid yn y ddau le erbyn 1921, pan oedd Grace Hughes, gweddw, yn byw un o’r ddau dŷ; bu’n cadw golwg ar grosin y rheilffordd, ac yn byw gyda hi oedd ei merch, Grace Hughes arall, 19 oed. Gŵr ifanc 30 oed, William J. Jones, a’i wraig Jenny, 26 oed, oedd yn ffermio‘r Bodychain arall<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1851-1921 </ref>
Ymhen deng mlynedd, roedd Robert Roberts wedi marw, ond roedd Ellin yn dal yno yn 80 oed, ac yn ffermio gyda’i mab Owen Roberts,27 oed. Roedd teulu Richard Roberts, gŵr 50 oed, yn ffermio’r Bodychen arall. Erbyn 1861, fodd bynnag, roedd y ddwy fferm wedi cael eu gosod i denantiaid newydd – Humphrey Davies, gŵr gweddol ifanc 35 oed a hanai o Lanrug; a William Prichard, gŵr 49 oed o blwyf Dreflys. Arhosai’r ddau deulu yn yr un ffermydd tan rywbryd tua 1891 (yn achos Davies) a 1903 (yn achos teulu Prichard).
 
Ym 1889, rhoddwyd y ddau Fodychen ar werth, a gwerthwyd y tir mynydd (a ychwanegwyd at y fferm adeg cau tir comin) ei werthu ar wahân. Gwnaeth hyn i sawl tenant benderfynu gwerthu eu stoc a darfod amaethu, gan na ystyrwyd craidd y fferm yn hyfyw bellach. Felly'r oedd hi ym Modychen, ond mae'r rhestr o'r stoc a chyfarpar yn rhoi darlun da iawn o ffermio yr adeg honno:
 
BODYCHAIN, LLANLLYFNI. MAE MR. ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr. Humphrey Davies, yr hwn sydd yn ymadael a'r lle, i werthu ar Auction, yn Bodychain, Llanllyfni, ddydd Gwener, Hydref 3ydd, 1890, YR HOLL STOC, &c., Yn cynnwys 10 o Fuchod godro ieuainc, rhagorol, un newydd ddod â llo, un ar fin dropio, a'r gweddill yn eu proffit ac yn gyfloion, 2 o Heffrod cyfloion, 6 o Ddynewaid gwryw campus, 2 Ddynewaid fanyw, 5 o Loi blwyddiaid, 8 o Loi ieuengach, Caseg a Chyw, Ceffyl 6 oed, bron yn 17 o uchder, Merlen 4 oed, gampus, yn first class trotter, llonydd yn mhob gwaith, Hwch a Pherchyll, 4 o Hychod torog, 2 o Foch tewion, 5 o Foch stores, 8 o Foch stores, ieuengach, 180 o Ddefaid yn cynwys Mamogiaid, Myllt, ac Wyn, amrvw o'r Myllt yn barod i'r cigydd, Tair o Droliau ddim gwaeth na newydd, Dwy Aradr haearn, Dwy Og haearn, Scuffler, Roller haearn, Y Gêr Ceffylau, yr Offer Hwsmonaeth, Swedes, Pytatws, &c. Coel fel yr hysbysir ar y pryd gyda Meichiafon boddhaol.<ref>''North Wales Express'', 20.12.1889, t.4</ref>
 
Ym 1891, roedd y lleiaf o’r ddwy fferm yn wag, tra oedd y llall yn cael ei ffermio gan Ann Prichard, gweddw William Prichard, a’u mab Owen. Bu farw Ann Prichard ym mis Mawrth 1901, yn 84 oed.<ref>''Herald Cymraeg'' 19.3.1901</ref> Erbyn 1901, roedd Owen Prichard (neu Pritchard yn ôl y Cyfrifiad) yn ffermio gyda’i frawd Thomas. Gelwir ei fferm yn “Bodychain South” yn y Cyfrifiad. Rhoddwyd Bodychain South (Bodychain Uchaf) erbyn heddiw yn ystod Haf 1903, ynghyd â nifer o ffermydd cyfagos, yn cynnwys Graeanog, Henbont Mawr a'r ddau Llwyngwanadl.<ref>''Gwalia'', 19.5.1903, t.5</ref>
 
Ym “Modychain North” roedd ffermwr newydd, sef Griffith Williams, dyn sengl 46 oed, a anwyd ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Roedd chwaer i Griffith, Ellin, 39 oed, yn cadw tŷ iddo fo a’i dad, chwarelwr 75 oed, William Griffith – sylwer ar y defnydd diweddar iawn o gyfenwau patronymig a fyddai’n newid gyda phob cenhedlaeth. Roedd y ddau ffarmwr yn dal wrthi ym 1911, a’r ddau heb briodi. Roedd Griffith Williams yn ffigwr pwysig yn y fro ar droad y ganrif. Bu'n ysgolfeistr yn [[Ysgol Gynradd Nebo|Ysgol Nebo]] cyn troi at amaethu, a datbygodd yn ddyn o ddylanwad. Cafodd ei ethol ar y Bwrdd Ysgol lleol ym 1892; roedd yn gynghordd dosbarth ac yn is-gadeirydd ar y cyngor hwnnw ym 1908; bu'n llywydd Cymdeithas Rhyddfrydol Llanllyfni ym 1910 ac yn ynad heddwch ar fainc Gwyrfai.<ref>Rhag llethu'r ewrthygl gyda throednodiadau, digon efalli yw nodi bod y maylion hyn a llawer mwy am Griffith Williams i'w canfod trwy nodi "Bodychain" ym mlwch chwilio gwefan Paprurau Newydd LlGC. [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/]</ref> Bu farw yn ystod mis Mawrth 1915.<ref>''Herald Cymraeg'', 9.3.1915, t.5</ref>
 
Bu newid yn y ddau le erbyn 1921, pan oedd Grace Hughes, gweddw, yn byw un o’r ddau dŷ; bu’n cadw golwg ar grosin y rheilffordd, ac yn byw gyda hi oedd ei merch, Grace Hughes arall, 19 oed. Gŵr ifanc 30 oed, William J. Jones, a’i wraig Jenny, 26 oed, oedd yn ffermio‘r Bodychain arall<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1851-1921 </ref>
 
Ni ddylid cymysgu Bodychen, Clynnog Fawr gyda Bodychen, plwyf Llandrygarn, Ynys Môn. Fe wnaeth teulu Llandrygarn fabwysiadu’r cyfenw Bodychen am gyfnod, nes i un ohonynt briodi i mewn i deulu Sparrow o Fiwmares; am sawl cenhedlaeth cafwyd dynion a arddelai’r cyfenw rhyfeddol hwnnw, Bodychen Sparrow.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.98-9</ref> Yn yr un modd ni ddylid cymysgu tenantiaid Bodychen gyda W.O. Evans (Gwilym Ychain) a fu'n cyhoeddi ei waith barddonol yn y Wasg yn ystod y 1870au, gan nodi ei gyfeiriad fel Bodychain. Gŵr o Danygrisiau oedd hwnnw, yn byw mewn tŷ a rannai'r un enw â thestun yr erthygl hon<ref>''Carnarvon & Denbigh Herald'', 5.12.1890, t.5</ref>.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:37, 3 Awst 2023

Mae Bodychen neu Fodychain yn enw hen blasty bach ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr, ar ochr dde’r ffordd sydd yn rhedeg o Gaernarfon i Benmorfa (yr A487 erbyn heddiw). Mae’r enw’n dyddio’n ôl sawl canrif, ac erbyn heddiw mae dwy fferm, Bodychain Uchaf a Bodychain Isaf, yn rhannu’r enw. Dywedir mai’r enw gwreiddiol oedd Hendre Gwely’r Hydd. Cartref un o deuluoedd o fân fonheddwyr Clynnog Fawr oedd Bodychen, yn eiddo i deulu Ellis, a oedd yn gallu olrhain eu tras i Hwfa ap Cynddelw. Os gellir coelio achres a gyhoeddwyd mewn papur newydd ym 1866, roedd Bodychen wedi bod yn nwylo'r teulu ers canol y 14g.[1]

Mae ewyllys David ap John ap William o Fodychen, a fu farw, mae’n debyg, yn ystod mis Ebrill 1646 ar gael. Roedd Ystad Bodychen eisoes wedi ymffurfio, ac mae’n amlwg o’i ewyllys fanwl ei fod yn ddyn goludog, gan iddo restru ei ddyledwyr ac roedd rhyngddynt ddyledion o oddeutu £175. Prin oedd yna amaethwr yn Uwchgwyrfai gyda mwy o stoc (hyd y gellir casglu o’r dogfennau sydd wedi goroesi). Roedd ganddo o leiaf 124 o ddefaid, 39 o wartheg a saith ceffyl. Richard Ellis, ei nai (gweler isod) oedd gweinyddwr ei stad - ac o’i lofnod yntau mae’n amlwg ei fod wedi derbyn addysg o safon.[2] Mae cadarnhad am ei gyfoeth i’w gael yn Rhôl Sybsidi ddyddiedig 1641, pan y’i rhestrwyd ymysg y 23 person mwyaf cefnog yn Uwchgwyrfai.[3]

Y cyntaf i fabwysiadu’r cyfenw Ellis oedd Richard Ellis, mab Ellis ap John ap William. Pan oedd o’n ddyn ifanc, roedd Richard Ellis ymysg y mwyaf penboeth o frenhinwyr y sir a bu’n ceisio ailgychwyn y rhyfela yn erbyn dynion Cromwell ym 1649. Ei wraig oedd Jane, merch William Glynne, Plas Newydd, Llandwrog, un arall o’r penboethiaid brenhinol.

Gor-ŵyr Richard Ellis oedd Richard Ellis, M.A., ficer Clynnog Fawr o 1765 ymlaen. Priododd hwnnw Catherine, merch ei ragflaenydd, Richard Nanney. Eu mab nhw oedd David Ellis Nanney, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru (a fu farw ym 1819 yn 60 oed).[4]

Yn ystod y 17g, crynhowyd Ystad Bodychen yn seiliedig ar dir a phlas Bodychen, a hynny’n bennaf trwy etifeddu a phriodi. Pan fu farw David Ellis, y gŵr bonheddig o Fodychen, ym 1722, roedd y teulu’n parhau’n weddol gefnog. Roedd ganddo 17 o wyrion ac wyresau, ac roedd yn gallu fforddio gadael £5 i bob un ohonynt. Gwerth ei stad pan fu farw oedd £445.5.4c, gyda rhyw £300 o hynny mewn arian parod - symiau sylweddol iawn am ŵr bonheddig. Roedd o’n ddyn diwylliedig, gyda gwerth £3 o lyfrau. Roedd o hefyd yn amaethwr nid ansylweddol, gyda 32 o ddefaid, tua dwsin o wartheg, a sypiau mawr o wair ac ŷd.[5]

Ym 1786, roedd un Ellis William, iwmon, yn byw ac yn ffermio ym Modychain, ac mae’n bur sicr mai tenant ydoedd. Enw ei wraig oedd Marhared David, ac roedd ganddo nifer o blant, sef David, Gwen, William, Ellin, Margad, Mary a Catrin. Defnyddiai’r plant y cyfenw Ellis, er dichon nad yw hyn yn arwydd ei fod yn aelod o hen deulu Bodychen.[6]

Erbyn 1841, pan wnaed yr arolwg ar gyfer y degwm, Owen Jones Ellis-Nanney oedd y perchennog. Roedd yr eiddo yn dal yn eiddo i’r teulu felly er, erbyn hynny, roedd teulu Ellis a’u disgynyddion yn byw yn Gwynfryn, Llanystumdwy. Roedd Bodychen wedi ei rannu’n ddwy, gyda 134 erw wedi eu gosod i Robert Roberts, gŵr 75 oed a’i wraig Ellin; a 90 erw wedi eu gosod i Robert Prichard, hen ddyn 80 oed a’i wraig Margaret.[7]

Ymhen deng mlynedd, roedd Robert Roberts wedi marw, ond roedd Ellin yn dal yno yn 80 oed, ac yn ffermio gyda’i mab Owen Roberts,27 oed. Roedd teulu Richard Roberts, gŵr 50 oed, yn ffermio’r Bodychen arall. Erbyn 1861, fodd bynnag, roedd y ddwy fferm wedi cael eu gosod i denantiaid newydd – Humphrey Davies, gŵr gweddol ifanc 35 oed a hanai o Lanrug; a William Prichard, gŵr 49 oed o blwyf Dreflys. Arhosai’r ddau deulu yn yr un ffermydd tan rywbryd tua 1891 (yn achos Davies) a 1903 (yn achos teulu Prichard).

Ym 1889, rhoddwyd y ddau Fodychen ar werth, a gwerthwyd y tir mynydd (a ychwanegwyd at y fferm adeg cau tir comin) ei werthu ar wahân. Gwnaeth hyn i sawl tenant benderfynu gwerthu eu stoc a darfod amaethu, gan na ystyrwyd craidd y fferm yn hyfyw bellach. Felly'r oedd hi ym Modychen, ond mae'r rhestr o'r stoc a chyfarpar yn rhoi darlun da iawn o ffermio yr adeg honno:

BODYCHAIN, LLANLLYFNI. MAE MR. ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr. Humphrey Davies, yr hwn sydd yn ymadael a'r lle, i werthu ar Auction, yn Bodychain, Llanllyfni, ddydd Gwener, Hydref 3ydd, 1890, YR HOLL STOC, &c., Yn cynnwys 10 o Fuchod godro ieuainc, rhagorol, un newydd ddod â llo, un ar fin dropio, a'r gweddill yn eu proffit ac yn gyfloion, 2 o Heffrod cyfloion, 6 o Ddynewaid gwryw campus, 2 Ddynewaid fanyw, 5 o Loi blwyddiaid, 8 o Loi ieuengach, Caseg a Chyw, Ceffyl 6 oed, bron yn 17 o uchder, Merlen 4 oed, gampus, yn first class trotter, llonydd yn mhob gwaith, Hwch a Pherchyll, 4 o Hychod torog, 2 o Foch tewion, 5 o Foch stores, 8 o Foch stores, ieuengach, 180 o Ddefaid yn cynwys Mamogiaid, Myllt, ac Wyn, amrvw o'r Myllt yn barod i'r cigydd, Tair o Droliau ddim gwaeth na newydd, Dwy Aradr haearn, Dwy Og haearn, Scuffler, Roller haearn, Y Gêr Ceffylau, yr Offer Hwsmonaeth, Swedes, Pytatws, &c. Coel fel yr hysbysir ar y pryd gyda Meichiafon boddhaol.[8] 

Ym 1891, roedd y lleiaf o’r ddwy fferm yn wag, tra oedd y llall yn cael ei ffermio gan Ann Prichard, gweddw William Prichard, a’u mab Owen. Bu farw Ann Prichard ym mis Mawrth 1901, yn 84 oed.[9] Erbyn 1901, roedd Owen Prichard (neu Pritchard yn ôl y Cyfrifiad) yn ffermio gyda’i frawd Thomas. Gelwir ei fferm yn “Bodychain South” yn y Cyfrifiad. Rhoddwyd Bodychain South (Bodychain Uchaf) erbyn heddiw yn ystod Haf 1903, ynghyd â nifer o ffermydd cyfagos, yn cynnwys Graeanog, Henbont Mawr a'r ddau Llwyngwanadl.[10]

Ym “Modychain North” roedd ffermwr newydd, sef Griffith Williams, dyn sengl 46 oed, a anwyd ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd chwaer i Griffith, Ellin, 39 oed, yn cadw tŷ iddo fo a’i dad, chwarelwr 75 oed, William Griffith – sylwer ar y defnydd diweddar iawn o gyfenwau patronymig a fyddai’n newid gyda phob cenhedlaeth. Roedd y ddau ffarmwr yn dal wrthi ym 1911, a’r ddau heb briodi. Roedd Griffith Williams yn ffigwr pwysig yn y fro ar droad y ganrif. Bu'n ysgolfeistr yn Ysgol Nebo cyn troi at amaethu, a datbygodd yn ddyn o ddylanwad. Cafodd ei ethol ar y Bwrdd Ysgol lleol ym 1892; roedd yn gynghordd dosbarth ac yn is-gadeirydd ar y cyngor hwnnw ym 1908; bu'n llywydd Cymdeithas Rhyddfrydol Llanllyfni ym 1910 ac yn ynad heddwch ar fainc Gwyrfai.[11] Bu farw yn ystod mis Mawrth 1915.[12]

Bu newid yn y ddau le erbyn 1921, pan oedd Grace Hughes, gweddw, yn byw un o’r ddau dŷ; bu’n cadw golwg ar grosin y rheilffordd, ac yn byw gyda hi oedd ei merch, Grace Hughes arall, 19 oed. Gŵr ifanc 30 oed, William J. Jones, a’i wraig Jenny, 26 oed, oedd yn ffermio‘r Bodychain arall[13]

Ni ddylid cymysgu Bodychen, Clynnog Fawr gyda Bodychen, plwyf Llandrygarn, Ynys Môn. Fe wnaeth teulu Llandrygarn fabwysiadu’r cyfenw Bodychen am gyfnod, nes i un ohonynt briodi i mewn i deulu Sparrow o Fiwmares; am sawl cenhedlaeth cafwyd dynion a arddelai’r cyfenw rhyfeddol hwnnw, Bodychen Sparrow.[14] Yn yr un modd ni ddylid cymysgu tenantiaid Bodychen gyda W.O. Evans (Gwilym Ychain) a fu'n cyhoeddi ei waith barddonol yn y Wasg yn ystod y 1870au, gan nodi ei gyfeiriad fel Bodychain. Gŵr o Danygrisiau oedd hwnnw, yn byw mewn tŷ a rannai'r un enw â thestun yr erthygl hon[15].

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 24.2.1866
  2. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1646/15
  3. Archifdy Gwladol, E179/220/158
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.164, 228, 230
  5. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1722/28
  6. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1786/50
  7. Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1841
  8. North Wales Express, 20.12.1889, t.4
  9. Herald Cymraeg 19.3.1901
  10. Gwalia, 19.5.1903, t.5
  11. Rhag llethu'r ewrthygl gyda throednodiadau, digon efalli yw nodi bod y maylion hyn a llawer mwy am Griffith Williams i'w canfod trwy nodi "Bodychain" ym mlwch chwilio gwefan Paprurau Newydd LlGC. [1]
  12. Herald Cymraeg, 9.3.1915, t.5
  13. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1851-1921
  14. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.98-9
  15. Carnarvon & Denbigh Herald, 5.12.1890, t.5