Fferm Cwm Coryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif fferm '''Cwm Coryn''' (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau | Saif fferm '''Cwm Coryn''' (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref [[Llanaelhaearn]] a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau [[Moel Penllechog]], [[Gurn Ddu]] a [[Moel Bronmiod]]. Gerllaw iddi mae hen [[Capel Cwm Coryn (MC)|gapel Cwm Coryn]], a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au. | ||
Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.< | Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.<ref>Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Ffermydd]] | |||
[[Categori:Archeoleg]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:17, 29 Mehefin 2023
Saif fferm Cwm Coryn (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau Moel Penllechog, Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Gerllaw iddi mae hen gapel Cwm Coryn, a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.
Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.