David Roberts, Blaenau Ffestiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. David Roberts, Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906).
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. '''David Roberts''', Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906).


Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traian, ardal Bryn'rodyn, yn fab i Robert ac Ann Davies. Bu Traian yn lle amlwg yn hanes Methodistiaeth gynnar yr ardal yn y 18g. Roedd Ann Owen, hen nain i David Roberts, yn chwaer i hen lanciau'r Traian, Robert a John Hughes, a groesawodd rai o'r pregethwyr Methodistaidd cyntaf i ymweld â'r ardal.  
Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traean, fferm yn y [[Dolydd]], yn fab i Robert ac Ann Davies. Bu Traean yn lle amlwg yn hanes Methodistiaeth gynnar yr ardal yn y 18g. Roedd Ann Owen, hen nain i David Roberts, yn chwaer i hen lanciau'r Traean, Robert a John Hughes, a groesawodd rai o'r pregethwyr Methodistaidd cyntaf i ymweld â'r ardal.  


Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig Y Bontnewydd, ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y ''London Matriculation'' yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio.  
Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig [[Y Bontnewydd]], ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i [[Ysgol Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y ''London Matriculation'' yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio.  


Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906.  
Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906.  


Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.<sup>[1]</sup>
Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.<ref>''Cofiant a Gweithiau y Parch. David Roberts, Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog'', dan olygyddiaeth y Parch John Owen M.A., Bowydd. (Dolgellau, 1908).</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. ''Cofiant a Gweithiau y Parch. David Roberts, Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog'', dan olygyddiaeth y Parch John Owen M.A., Bowydd. (Dolgellau, 1908).
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:34, 2 Mawrth 2023

Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. David Roberts, Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906).

Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traean, fferm yn y Dolydd, yn fab i Robert ac Ann Davies. Bu Traean yn lle amlwg yn hanes Methodistiaeth gynnar yr ardal yn y 18g. Roedd Ann Owen, hen nain i David Roberts, yn chwaer i hen lanciau'r Traean, Robert a John Hughes, a groesawodd rai o'r pregethwyr Methodistaidd cyntaf i ymweld â'r ardal.

Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig Y Bontnewydd, ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y London Matriculation yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio.

Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906.

Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Cofiant a Gweithiau y Parch. David Roberts, Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, dan olygyddiaeth y Parch John Owen M.A., Bowydd. (Dolgellau, 1908).