Goronwy Prys Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r '''Parchedig Ddoctor Goronwy Prys Owen''' yn weinidog wedi ymddeol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig disglair ac yn awdur sawl cyfrol o bwys.  
Bu'r '''Parchedig Ddoctor Goronwy Prys Owen''' (1935-2023) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig disglair ac yn awdur sawl cyfrol o bwys.  


Magwyd Goronwy Prys Owen ym Mangor, lle roedd gan ei dad siop fferyllydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor ac yng Ngholeg Y Bala cyn ei ordeinio i waith y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ei ofalaeth gyntaf oedd yn ardal Llidiardau ger Y Bala, lle cyfarfu ag Eirlys, a ddaeth yn wraig iddo maes o law. Oddi yno fe symudodd yn weinidog ar eglwys Maesgeirchen, ar gyrion Bangor, lle bu am gyfnod byr, cyn dod i weinidogaethu ar eglwysi [[Capel Gosen (MC), Trefor]], [[Capel Y Babell (MC), Llanaelhaearn]] a [[Capel Cwm Coryn (MC)|Chapel Chwmcoryn]] ym 1969. Yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl daeth i amlygrwydd fel pregethwr grymus ac uchel ei barch ac roedd ei ofal dros feithrin a hyfforddi plant ac ieuenctid yr eglwysi yn nodedig, yn arbennig eu paratoi i ddod yn gyflawn aelodau. Hefyd yn ystod ei gyfnod yn [[Trefor|Nhrefor]], ganed merch, Rhiell Elidir, iddo ef ac Eirlys; roedd eu mab, Siôn Illtud, wedi ei eni tra oeddent ym Maesgeirchen. Colled fawr i'r ardal fu ei benderfyniad ganol y 1970au i dderbyn galwad i Eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin, a sefydlwyd gan un o Fethodistiaid amlycaf y ddeunawfed ganrif, Peter Williams yr esboniwr Beiblaidd. O Gaerfyrddin symudodd Goronwy Prys Owen yn weinidog i Lanrwst, lle bu tan ei ymddeoliad. Ers rhai blynyddoedd bellach mae ef a'i briod wedi ymgartrefu yn Y Bala.  
Magwyd Goronwy Prys Owen ym Mangor, lle roedd gan ei dad siop fferyllydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor ac yng Ngholeg Y Bala cyn ei ordeinio i waith y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ei ofalaeth gyntaf oedd yn ardal Llidiardau ger Y Bala, lle cyfarfu ag Eirlys, a ddaeth yn wraig iddo maes o law. Oddi yno fe symudodd yn weinidog ar eglwys Maesgeirchen, ar gyrion Bangor, lle bu am gyfnod byr, cyn dod i weinidogaethu ar eglwysi [[Capel Gosen (MC), Trefor]], [[Capel Babell (MC), Llanaelhaearn]] a [[Capel Cwm Coryn (MC)|Chapel Chwmcoryn]] ym 1969. Yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl daeth i amlygrwydd fel pregethwr grymus ac uchel ei barch ac roedd ei ofal dros feithrin a hyfforddi plant ac ieuenctid yr eglwysi yn nodedig, yn arbennig eu paratoi i ddod yn gyflawn aelodau. Hefyd yn ystod ei gyfnod yn [[Trefor|Nhrefor]], ganed merch, Rhiell Elidir, iddo ef ac Eirlys; roedd eu mab, Siôn Illtud, wedi ei eni tra oeddent ym Maesgeirchen. Colled fawr i'r ardal fu ei benderfyniad ganol y 1970au i dderbyn galwad i Eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin, a sefydlwyd gan un o Fethodistiaid amlycaf y ddeunawfed ganrif, Peter Williams yr esboniwr Beiblaidd. O Gaerfyrddin symudodd Goronwy Prys Owen yn weinidog i Lanrwst, lle bu tan ei ymddeoliad. Wedi iddo ymddeol ymgartrefodd ef a'i briod yn Y Bala.  


Fel y nodwyd uchod mae Goronwy Prys Owen yn bregethwr grymus yn y traddodiad efengylaidd. Yn Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth mae bob amser yn rhoi pwyslais mawr ar burdeb athrawiaeth yn ei bregethau ac mae ei sylwadau ar bob achlysur yn Feibl-ganolog. Yn ystod ei yrfa mae wedi pregethu ym mhrif gyrddau ei enwad ac yn ehangach, megis yng nghynadleddau Mudiad Efengylaidd Cymru.  
Fel y nodwyd uchod roedd Goronwy Prys Owen yn bregethwr grymus yn y traddodiad efengylaidd. Yn Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth roedd bob amser yn rhoi pwyslais mawr ar burdeb athrawiaeth yn ei bregethau ac roedd ei sylwadau ar bob achlysur yn Feibl-ganolog. Yn ystod ei yrfa pregethodd ym mhrif gyrddau ei enwad ac yn ehangach, megis yng nghynadleddau Mudiad Efengylaidd Cymru.  


Daeth Goronwy Prys Owen i amlygrwydd fel ysgolhaig a llenor disglair yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975 enillodd y wobr am draethawd sylweddol ar ''Twf Methodistiaeth yn Llŷn ac Eifionydd hyd 1811''. Arweiniodd hynny at gyhoeddi ei gyfrol arloesol ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'' dair blynedd yn ddiweddarach, sydd yn fwynglawdd o wybodaeth am y pwnc ac wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl. Cyfrol arall o'i waith yn ystod y cyfnod hwn oedd ''Hunangofiant John Elias'' (Mudiad Efengylaidd Cymru 1974). Ar hyd y blynyddoedd dilynol mae wedi parhau i ymchwilio a chyhoeddi'n helaeth ac, yn ogystal â nifer sylweddol o ddarlithoedd ar amryfal bynciau, priodol yw nodi ei gyfrolau ar ''Canu Cynnar y Diwygiad Methodistaidd'' (Darlith Davies 2010 - cyhoeddwyd ar ran y Gymanfa Gyffredinol 2016) a ''Thomas Charles a'r Bala'' (Cantref 2016).
Daeth Goronwy Prys Owen i amlygrwydd fel ysgolhaig a llenor disglair yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975 enillodd y wobr am draethawd sylweddol ar ''Twf Methodistiaeth yn Llŷn ac Eifionydd hyd 1811''. Arweiniodd hynny at gyhoeddi ei gyfrol arloesol ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'' dair blynedd yn ddiweddarach, sydd yn fwynglawdd o wybodaeth am y pwnc ac wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl. Cyfrol arall o'i waith yn ystod y cyfnod hwn oedd ''Hunangofiant John Elias'' (Mudiad Efengylaidd Cymru 1974). Ar hyd y blynyddoedd dilynol parhaodd i ymchwilio a chyhoeddi'n helaeth ac, yn ogystal â nifer sylweddol o ddarlithoedd ar amryfal bynciau, priodol yw nodi ei gyfrolau ar ''Canu Cynnar y Diwygiad Methodistaidd'' (Darlith Davies 2010 - cyhoeddwyd ar ran y Gymanfa Gyffredinol 2016) a ''Thomas Charles a'r Bala'' (Cantref 2016).


[[Categori:Gweinidopgion]]
Bu farw ddiwedd Ionawr 2023 yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llanycil, Y Bala, ar 7 Chwefror.
 
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:28, 6 Chwefror 2023

Bu'r Parchedig Ddoctor Goronwy Prys Owen (1935-2023) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig disglair ac yn awdur sawl cyfrol o bwys.

Magwyd Goronwy Prys Owen ym Mangor, lle roedd gan ei dad siop fferyllydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor ac yng Ngholeg Y Bala cyn ei ordeinio i waith y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ei ofalaeth gyntaf oedd yn ardal Llidiardau ger Y Bala, lle cyfarfu ag Eirlys, a ddaeth yn wraig iddo maes o law. Oddi yno fe symudodd yn weinidog ar eglwys Maesgeirchen, ar gyrion Bangor, lle bu am gyfnod byr, cyn dod i weinidogaethu ar eglwysi Capel Gosen (MC), Trefor, Capel Babell (MC), Llanaelhaearn a Chapel Chwmcoryn ym 1969. Yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl daeth i amlygrwydd fel pregethwr grymus ac uchel ei barch ac roedd ei ofal dros feithrin a hyfforddi plant ac ieuenctid yr eglwysi yn nodedig, yn arbennig eu paratoi i ddod yn gyflawn aelodau. Hefyd yn ystod ei gyfnod yn Nhrefor, ganed merch, Rhiell Elidir, iddo ef ac Eirlys; roedd eu mab, Siôn Illtud, wedi ei eni tra oeddent ym Maesgeirchen. Colled fawr i'r ardal fu ei benderfyniad ganol y 1970au i dderbyn galwad i Eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin, a sefydlwyd gan un o Fethodistiaid amlycaf y ddeunawfed ganrif, Peter Williams yr esboniwr Beiblaidd. O Gaerfyrddin symudodd Goronwy Prys Owen yn weinidog i Lanrwst, lle bu tan ei ymddeoliad. Wedi iddo ymddeol ymgartrefodd ef a'i briod yn Y Bala.

Fel y nodwyd uchod roedd Goronwy Prys Owen yn bregethwr grymus yn y traddodiad efengylaidd. Yn Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth roedd bob amser yn rhoi pwyslais mawr ar burdeb athrawiaeth yn ei bregethau ac roedd ei sylwadau ar bob achlysur yn Feibl-ganolog. Yn ystod ei yrfa pregethodd ym mhrif gyrddau ei enwad ac yn ehangach, megis yng nghynadleddau Mudiad Efengylaidd Cymru.

Daeth Goronwy Prys Owen i amlygrwydd fel ysgolhaig a llenor disglair yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975 enillodd y wobr am draethawd sylweddol ar Twf Methodistiaeth yn Llŷn ac Eifionydd hyd 1811. Arweiniodd hynny at gyhoeddi ei gyfrol arloesol Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd dair blynedd yn ddiweddarach, sydd yn fwynglawdd o wybodaeth am y pwnc ac wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl. Cyfrol arall o'i waith yn ystod y cyfnod hwn oedd Hunangofiant John Elias (Mudiad Efengylaidd Cymru 1974). Ar hyd y blynyddoedd dilynol parhaodd i ymchwilio a chyhoeddi'n helaeth ac, yn ogystal â nifer sylweddol o ddarlithoedd ar amryfal bynciau, priodol yw nodi ei gyfrolau ar Canu Cynnar y Diwygiad Methodistaidd (Darlith Davies 2010 - cyhoeddwyd ar ran y Gymanfa Gyffredinol 2016) a Thomas Charles a'r Bala (Cantref 2016).

Bu farw ddiwedd Ionawr 2023 yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llanycil, Y Bala, ar 7 Chwefror.