Ysgol Ragbaratoawl Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Removed redirect to Ysgol Eben Fardd
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd gwreiddiau '''Ysgol Ragbaratoawl Clynnog''' yn y sefydliad a elwid ar lafar gwlad fel [[Ysgol Eben Fardd]]. Wedfi i ysgolion mwy ffurfiol gael eu sefydlu yn ystod canol y 19g., newidwyd y pwyslais a daeth yr ysgol i fod yn lle ar gyfer paratoi ymgeiswyr  ar gyfer y weinidogaeth. Enw arall, anffurfiol, ar y sefydliad oedd "Coleg Clynnog".
Roedd gwreiddiau '''Ysgol Ragbaratoawl Clynnog''' yn y sefydliad a elwid ar lafar gwlad fel [[Ysgol Eben Fardd]]. Wedi i ysgolion mwy ffurfiol gael eu sefydlu yn ystod canol y 19g., newidwyd y pwyslais a daeth yr ysgol i fod yn lle ar gyfer paratoi ymgeiswyr  ar gyfer y weinidogaeth. Enw arall, anffurfiol, ar y sefydliad oedd "Coleg Clynnog".


Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] oedd y Parch [[David Jones (Dewi Arfon)]]. Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, a Dewi Arfon wedi cymryd yr awenau yn ei le, ''Ysgol Eben Fardd'' oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis [[Mathonwy Hughes]].<ref>Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021</ref>
Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] oedd y Parch [[David Jones (Dewi Arfon)]]. Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol ar ei newydd wedd, a Dewi Arfon wedi cymryd yr awenau yn ei le, ''Ysgol Eben Fardd'' oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis [[Mathonwy Hughes]].<ref>Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021</ref>


Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys ([[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr]]). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94</ref>  
Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys ([[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr]]). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.<ref>W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94</ref>  


Caewyd yr ysgol yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.  
Caewyd yr ysgol ragbaratoawl yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.  


Mae atgofion am yr addysg a geid yng Ngholeg Clynnog ac am fywyd myfyrwyr yno yn ystod y 1920au, a ysgrifennwyd gan Percy Ogwen Jones, un o'r myfyrwyr, ar gael mewn erthygl ar wahân, sef [[Atgofion Percy Ogwen Jones am Goleg Clynnog]].
Mae atgofion am yr addysg a geid yng Ngholeg Clynnog ac am fywyd myfyrwyr yno yn ystod y 1920au, a ysgrifennwyd gan Percy Ogwen Jones, un o'r myfyrwyr, ar gael mewn erthygl ar wahân, sef [[Atgofion Percy Ogwen Jones am Goleg Clynnog]]. Am hanes cynharach y sefydliad, gweler yr erthygl ar [[Ysgol Eben Fardd]].  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Addysg]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:40, 3 Chwefror 2023

Roedd gwreiddiau Ysgol Ragbaratoawl Clynnog yn y sefydliad a elwid ar lafar gwlad fel Ysgol Eben Fardd. Wedi i ysgolion mwy ffurfiol gael eu sefydlu yn ystod canol y 19g., newidwyd y pwyslais a daeth yr ysgol i fod yn lle ar gyfer paratoi ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth. Enw arall, anffurfiol, ar y sefydliad oedd "Coleg Clynnog".

Ymysg y rhai hŷn a ddaeth i'r Ysgol Frytanaidd dan ofal Ebenezer Thomas (Eben Fardd) oedd y Parch David Jones (Dewi Arfon). Ym 1863 newidiwyd pwyslais ac amcan yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd gan roi'r enw swyddogol Ysgol Ragbaratoawl Clynnog iddi. Parhaodd dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd gyda'r nod o baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol ar ei newydd wedd, a Dewi Arfon wedi cymryd yr awenau yn ei le, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni. Ni ddylid, fodd bynnag, anghofio i'r ysgol gynnig addysg i ddynion ifanc nad oedd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth ac nad oeddent wedi cael cyfle i fanteisio ar addysg yr ysgolion sirol - dynion megis Mathonwy Hughes.[1]

Wrth i Dewi Arfon yntau waelu, ac am gyfnod wedi ei farwolaeth, gwasanaethwyd yn yr ysgol gan y Parch. R. Thomas (Llannerch-y-medd), ac roedd hefyd yn fugail ar yr eglwys (Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr). Fe'i dilynwyd yn y swydd ddeublyg honno gan y Parch. John Williams (Caergybi) hyd 1876; y Parch. John Evans (Llanerch) hyd 1890; y Parch. W.M. Griffith (Dyffryn) hyd 1896; ac wedyn y Parch. J.H. Lloyd Williams.[2]

Caewyd yr ysgol ragbaratoawl yng Nghlynnog Fawr ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd.

Mae atgofion am yr addysg a geid yng Ngholeg Clynnog ac am fywyd myfyrwyr yno yn ystod y 1920au, a ysgrifennwyd gan Percy Ogwen Jones, un o'r myfyrwyr, ar gael mewn erthygl ar wahân, sef Atgofion Percy Ogwen Jones am Goleg Clynnog. Am hanes cynharach y sefydliad, gweler yr erthygl ar Ysgol Eben Fardd.

Cyfeiriadau

  1. Darlith gan Ffion Eluned Owen, 28.3.2021
  2. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.94