Arthur Festin Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 21: Llinell 21:
    
    
==Dinesydd America==
==Dinesydd America==
Yna cynlluniodd i fynd ar daith o amgylch y byd gan ddechrau yn Awstralia a Seland Newydd ac yna i America. Ar ddiwedd fisa ei ymwelydd Americanaidd, cafodd Ffestin yr opsiwn o adael America neu aros ac ymuno â gwasanaethau arfog America, a olygai’r posibilrwydd o gael ei anfon i Fietnam neu i un o ganolfannau America yn rhywle llai peryglus. "Oherwydd ei awydd i aros yn y Mericia, dewisodd Ffestin yr ail," meddai Dafydd Glyn, "a dyna sut y daeth y Rhingyll Huws i amddiffyn buddiannau'r Gorllewin yn yr Almaen !! Dyna Ffestin, cymerwch bopeth fel y daw." Palmer Mae Parry yn cofio gweld Ffestin yn ei wisg Americanaidd ym Mhenygroes tua 1963 neu ddechrau 1964.
Yna cynlluniodd i fynd ar daith o amgylch y byd gan ddechrau yn Awstralia a Seland Newydd ac yna i America. Ar ddiwedd fisa ei ymwelydd Americanaidd, cafodd Ffestin yr opsiwn o adael America neu aros ac ymuno â gwasanaethau arfog America, a olygai’r posibilrwydd o gael ei anfon i Fietnam neu i un o ganolfannau America yn rhywle llai peryglus. "Oherwydd ei awydd i aros yn y Mericia, dewisodd Ffestin yr ail," meddai Dafydd Glyn, "a dyna sut y daeth y Rhingyll Huws i amddiffyn buddiannau'r Gorllewin yn yr Almaen !! Dyna Ffestin, cymerwch bopeth fel y daw." Mae Palmer Parry yn cofio gweld Ffestin yn ei wisg Americanaidd ym [[Pen-y-groes|Mhenygroes]] tua 1963 neu ddechrau 1964.


Ar ôl mynd yn ôl i America bu’n gwneud pob math o waith dros dro. Meddai Palmer: “Bu’n gweithio yn y '''''Bucket of Blood Bar''''' ac yn '''''Caesars Palace''''' yn Las Vegas.[1] Dywedai mai ei brif  waith yn yr olaf oedd hel y gwydrau o amgylch y casino, a rhannu diodydd am ddim i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dal i ddefnyddio'r peiriannau gamblo.  Byddai'n rhaid atal y gamblo, fodd bynnag, a chlirio'r adeilad ar yr adegau hynny pan ddeuai Frank Sinatra yno i berfformio.”  Diddanwr enwog arall yn y Caesar’s Palace fyddai Sammy Davis Jnr. a rhan o swydd Ffestin, yn ogystal â mynd â diod i’w ystafell, fyddai gofalu am ei ddillad – wardrobe manager.  Canfu fod ei siwtiau i’r dim amdano yntau gan iddo drio un neu ddwy ohonynt o ran hwyl.
Ar ôl mynd yn ôl i America bu’n gwneud pob math o waith dros dro. Meddai Palmer: “Bu’n gweithio yn y '''''Bucket of Blood Bar''''' ac yn '''''Caesars Palace''''' yn Las Vegas.<ref>https://en.wikipedia.org/wiki/Caesars_Palace</ref> Dywedai mai ei brif  waith yn yr olaf oedd hel y gwydrau o amgylch y casino, a rhannu diodydd am ddim i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dal i ddefnyddio'r peiriannau gamblo.  Byddai'n rhaid atal y gamblo, fodd bynnag, a chlirio'r adeilad ar yr adegau hynny pan ddeuai Frank Sinatra yno i berfformio.”  Diddanwr enwog arall yn y Caesar’s Palace fyddai Sammy Davis Jnr. a rhan o swydd Ffestin, yn ogystal â mynd â diod i’w ystafell, fyddai gofalu am ei ddillad – wardrobe manager.  Canfu fod ei siwtiau i’r dim amdano yntau gan iddo drio un neu ddwy ohonynt o ran hwyl.


==Awstralia==
==Awstralia==
Llinell 39: Llinell 39:
“Hwyrach mai'n fuan ar ôl marwolaeth  John Gill oedd y tro olaf y gwelais i Ffestin,” meddai Palmer Parry.  “Pan ddaeth i'n gweld ni y tro hwnnw, roedd o eisoes wedi bod heibio Dafydd Glyn, a chofiaf iddo ddangos imi gopi o soned a gyfansoddodd Dafydd Glyn mewn Lladin, er cof am John Gill. Doedd gen i ddim digon o Ladin i ddarllen, heb sôn am werthfawrogi'r soned honno. Eto, byddai wedi bod yn syniad da, yn fy marn i, ei chyhoeddi yn Lleu - pe bai ond er mwyn atgoffa'r genhedlaeth bresennol fod cenedlaethau o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle wedi dysgu Lladin yn y gorffennol, gan athrawon fel Alexander Parry a John Gill, a bod ambell un o'r disgyblion hynny yn dal yn fyw heddiw.”   
“Hwyrach mai'n fuan ar ôl marwolaeth  John Gill oedd y tro olaf y gwelais i Ffestin,” meddai Palmer Parry.  “Pan ddaeth i'n gweld ni y tro hwnnw, roedd o eisoes wedi bod heibio Dafydd Glyn, a chofiaf iddo ddangos imi gopi o soned a gyfansoddodd Dafydd Glyn mewn Lladin, er cof am John Gill. Doedd gen i ddim digon o Ladin i ddarllen, heb sôn am werthfawrogi'r soned honno. Eto, byddai wedi bod yn syniad da, yn fy marn i, ei chyhoeddi yn Lleu - pe bai ond er mwyn atgoffa'r genhedlaeth bresennol fod cenedlaethau o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle wedi dysgu Lladin yn y gorffennol, gan athrawon fel Alexander Parry a John Gill, a bod ambell un o'r disgyblion hynny yn dal yn fyw heddiw.”   


Yn 2010, cyflawnodd Ffestin ei awydd gydol oes i ddod yn ddinesydd Americanaidd o’r diwedd ac yn 2017, dechreuodd Ffestin wneud trefniadau gyda’i wraig Helen i symud i Boston, MA a phrynu tŷ er mwyn iddo allu cwblhau ei radd ôl-raddedig ar gampws Harvard. Gohiriwyd y cynlluniau hyn pan aeth Ffestin yn sâl ac yn anffodus, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, bu farw Ffestin yn oriau mân 29 Gorffennaf 2020 gyda Helen a Christine wrth ei ochr. Mae wedi ei gladdu yn Adelaide, Awstralia lle gwnaeth ei gartref am 50 mlynedd. [2]
Yn 2010, cyflawnodd Ffestin ei awydd gydol oes i ddod yn ddinesydd Americanaidd o’r diwedd ac yn 2017, dechreuodd Ffestin wneud trefniadau gyda’i wraig Helen i symud i Boston, MA a phrynu tŷ er mwyn iddo allu cwblhau ei radd ôl-raddedig ar gampws Harvard. Gohiriwyd y cynlluniau hyn pan aeth Ffestin yn sâl ac yn anffodus, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, bu farw Ffestin yn oriau mân 29 Gorffennaf 2020 gyda Helen a Christine wrth ei ochr. Mae wedi ei gladdu yn Adelaide, Awstralia lle gwnaeth ei gartref am 50 mlynedd.<ref>Ymddangosodd yr erthygl hon yn Lleu Rhif 523, Hydref 2020 gyda chywiriadau oherwydd gwallau ffaith yn yr erthygl wreiddiol ac ychydig o ychwanegiadau yma oherwydd lle ychwanegol.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[1] https://en.wikipedia.org/wiki/Caesars_Palace


[2] Ymddangosodd yr erthygl hon yn Lleu Rhif 523, Hydref 2020 gyda chywiriadau oherwydd gwallau ffaith yn yr erthygl wreiddiol ac ychydig o ychwanegiadau yma oherwydd lle ychwanegol.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Academyddion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:55, 29 Ionawr 2023


Ganwyd Arthur Festin Hughes ym Mlaenau Ffestiniog ar 5 Medi 1939. Bu farw yn Adelaide, Awstralia, ar 29 Gorffennaf 2020.

Bu farw ei fam ar ei enedigaeth ac fe’i magwyd gan ei nain, Katie Hughes, Coetmor, Tal-y-sarn. Roedd dau o’i meibion ar y môr – Huw, tad Ffestin, yn beiriannydd, ac Idwal yn gapten. Roedd y trydydd mab, Richard, yn grydd yn Nhal-y-sarn a’i hwyrion, Fred, Gwynant ac R. Silyn Hughes yn gefndyr i Ffestin.

Ysgol Dyffryn Nantllle

Cofia ei gyd-ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Nantlle ateb Ffestin pan ofynnodd Mr Gill iddo lle’r oedd ei dad iddo gael rhoi gwybod iddo am ryw ddrygioni neu’i gilydd a wnaeth. “Yn Kuwait,” meddai yntau.

Gadawodd Ffestin ei wats i’w thrwsio yn siop Thomas yr oriadurwr un tro a chofia Dafydd Glyn Jones fynd yno i nôl y wats un awr ginio efo Ffestin a William Elwyn Williams. Aeth yn hwyr arnynt yn cychwyn oddi yno a chyrraedd yr ysgol allan o wynt. “Mae’n ddrwg iawn gynno ni, ond ’doedda ni ddim yn gwbod faint o’r gloch oedd hi,” oedd yr esgus wrth Mr Gill. “Reit, lle ’dach chi wedi bod?” gofynnodd yntau. “Yn siop Thomas Watchmaker.” “A llond y lle o glociau’n tician o’ch cwmpas chi?!”

“Ar ei ffordd yn ôl i’r ysgol un awr ginio arall,” meddai Dafydd Glyn, “aeth Ffestin ati i ysgrifennu ar yr hysbysfwrdd o flaen swyddfa’r heddlu: “Wanted Dead or Alive: Dafydd Glyn Jones” gan feddwl cael tipyn o hwyl. Ond dyma Huw Lloyd Edwards i mewn i’r Chweched Dosbarth gan gyhoeddi: “A civil offence has been committed.” Gorfu i Ffestin fynd i lawr i fangre’r trosedd ac yno’r oedd PC James a’r Sarjant wedi darparu clwt a phwcedaid o ddŵr yn barod a’r ddau yn sefyll uwchben Ffestin tra bu’n glanhau arwydd y Wild West. Wedyn dyma’r Sarjant yn dweud: “Rhaid i mi gael gair efo dy dad. Lle mae o?” “Yn Sawdi Arabia,” meddai Ffestin.

Mae Maldwyn Davies yn cofio dringo’r Wyddfa efo Ffestin a William Elwyn a Ffestin yn cael pynjar yn Rhyd-ddu, yn cael llwyau a ffyrc i dynnu’r teiar gan wraig garedig a chael tarten afalau ganddi yn boeth o’r popty. Fuon nhw fawr o dro cyn gorffen y darten wedi iddi ofyn a oeddent eisiau rhagor. Ond roedd y llwyau a’r ffyrc a ddychwelwyd iddi wedi plygu. Ar y ffordd adref cafodd Ffestin bynjar arall a phenderfynu mynd ar gefn y beic yr un fath nes oedd y teiar yn racs.

Addysg Bellach

Prifysgol Lerpwl oedd y gyrchfan nesaf lle y graddiodd mewn Hanes a chwblhau cwrs ymarfer dysgu. Yno hefyd yr oedd ei gyfaill Huw Geraint yn astudio Milfeddygaeth. Bu’n athro yng Nghaergybi am gyfnod byr.

Dinesydd America

Yna cynlluniodd i fynd ar daith o amgylch y byd gan ddechrau yn Awstralia a Seland Newydd ac yna i America. Ar ddiwedd fisa ei ymwelydd Americanaidd, cafodd Ffestin yr opsiwn o adael America neu aros ac ymuno â gwasanaethau arfog America, a olygai’r posibilrwydd o gael ei anfon i Fietnam neu i un o ganolfannau America yn rhywle llai peryglus. "Oherwydd ei awydd i aros yn y Mericia, dewisodd Ffestin yr ail," meddai Dafydd Glyn, "a dyna sut y daeth y Rhingyll Huws i amddiffyn buddiannau'r Gorllewin yn yr Almaen !! Dyna Ffestin, cymerwch bopeth fel y daw." Mae Palmer Parry yn cofio gweld Ffestin yn ei wisg Americanaidd ym Mhenygroes tua 1963 neu ddechrau 1964.

Ar ôl mynd yn ôl i America bu’n gwneud pob math o waith dros dro. Meddai Palmer: “Bu’n gweithio yn y Bucket of Blood Bar ac yn Caesars Palace yn Las Vegas.[1] Dywedai mai ei brif waith yn yr olaf oedd hel y gwydrau o amgylch y casino, a rhannu diodydd am ddim i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dal i ddefnyddio'r peiriannau gamblo. Byddai'n rhaid atal y gamblo, fodd bynnag, a chlirio'r adeilad ar yr adegau hynny pan ddeuai Frank Sinatra yno i berfformio.” Diddanwr enwog arall yn y Caesar’s Palace fyddai Sammy Davis Jnr. a rhan o swydd Ffestin, yn ogystal â mynd â diod i’w ystafell, fyddai gofalu am ei ddillad – wardrobe manager. Canfu fod ei siwtiau i’r dim amdano yntau gan iddo drio un neu ddwy ohonynt o ran hwyl.

Awstralia

Ymfudodd wedyn i Awstralia. “Dechreuodd ei yrfa yno fel darlithydd ym Mhrifysgol Adelaide ar Hanes Groeg a Rhufain,” meddai Dafydd Glyn “ond fel y prinhaodd cwsmeriaid y pwnc hwnnw aeth yn bennaeth adran oedd yn cynorthwyo mewnfudwyr Asiaidd i gartrefu yn y Brifysgol ac yn y wlad.”

Ymchwil

Daeth ennill graddau eraill yn ail natur iddo am weddill ei oes: BA; MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol; a gradd Doethuriaeth mewn Addysg ar gyfer ei astudiaeth o'r enw “Mewnfudwyr o Gymru yn Awstralia: Integreiddio, Cynnal Iaith a Throsglwyddo Diwylliannol”. Cyfrannodd at Wyddoniadur Awstralia ar y pwnc hwn ac ymchwiliodd i'r pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymddeolodd yn 2016 a dechreuodd astudio tuag at ail radd MA ym Mhrifysgol Harvard gan wneud peth o'r gwaith ar-lein.

Teulu

Yn gynnar yn y 1970au yn Adelaide, cyfarfu Ffestin â Helen a phriodi ac mae ganddyn nhw ferch, Christine. Mae gan Ffestin hefyd ddau ŵyr, Dougal ac Owen - yr oedd yn agos iawn atynt ac yn eu caru’n annwyl - yn treulio oriau di-ri yn adrodd straeon iddynt am anturiaethau cyffrous niferus ei fywyd.

Dyffryn Nantlle

Dychwelai Ffestin yn gyson at ei gyfeillion agos yn Nyffryn Nantlle ac at y teulu. Yn Rhagfyr 1995 cafodd wahoddiad gan Gwmni Gwdihŵ i gymryd rhan mewn rhaglen deledu a threulio pythefnos yng Nghymru. Trefnwyd aduniad hwyliog gan ei gyd-ddisgyblion dan lywyddiaeth Hugh David Hughes yng ngwesty Plas Gwyn, Pentre’rfelin, a gedwid gan ei gefnder, Gwynant Hughes.

“Hwyrach mai'n fuan ar ôl marwolaeth John Gill oedd y tro olaf y gwelais i Ffestin,” meddai Palmer Parry. “Pan ddaeth i'n gweld ni y tro hwnnw, roedd o eisoes wedi bod heibio Dafydd Glyn, a chofiaf iddo ddangos imi gopi o soned a gyfansoddodd Dafydd Glyn mewn Lladin, er cof am John Gill. Doedd gen i ddim digon o Ladin i ddarllen, heb sôn am werthfawrogi'r soned honno. Eto, byddai wedi bod yn syniad da, yn fy marn i, ei chyhoeddi yn Lleu - pe bai ond er mwyn atgoffa'r genhedlaeth bresennol fod cenedlaethau o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle wedi dysgu Lladin yn y gorffennol, gan athrawon fel Alexander Parry a John Gill, a bod ambell un o'r disgyblion hynny yn dal yn fyw heddiw.”

Yn 2010, cyflawnodd Ffestin ei awydd gydol oes i ddod yn ddinesydd Americanaidd o’r diwedd ac yn 2017, dechreuodd Ffestin wneud trefniadau gyda’i wraig Helen i symud i Boston, MA a phrynu tŷ er mwyn iddo allu cwblhau ei radd ôl-raddedig ar gampws Harvard. Gohiriwyd y cynlluniau hyn pan aeth Ffestin yn sâl ac yn anffodus, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, bu farw Ffestin yn oriau mân 29 Gorffennaf 2020 gyda Helen a Christine wrth ei ochr. Mae wedi ei gladdu yn Adelaide, Awstralia lle gwnaeth ei gartref am 50 mlynedd.[2]

Cyfeiriadau

  1. https://en.wikipedia.org/wiki/Caesars_Palace
  2. Ymddangosodd yr erthygl hon yn Lleu Rhif 523, Hydref 2020 gyda chywiriadau oherwydd gwallau ffaith yn yr erthygl wreiddiol ac ychydig o ychwanegiadau yma oherwydd lle ychwanegol.