Gwaith copr Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n | Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw [[Dyffryn Nantlle]], ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef [[Drws-y-coed]]. | ||
Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, ac yn y 1830au, symudodd | Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid, ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ail-agor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ail-agor ym 1792.<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> Tua'r un pryd, roedd dyn o'r enw Mr. Nell yn chwilio eto am y mwynau yn y cylch, gan dderbyn trwydded gan berchennog tir yr ochr ogleddol i'r dyffryn, [[Hugh Owen, Orielton]].<ref>Archifdy Gwynedd, X/Poole/1025.</ref> Erbyn tua 1800, fodd bynnag, mae arolwg o Ystad y Faenol (yr oedd y mwynglawdd ar ei thir) yn nodi bod yr holl adeiladau a oedd yn perthyn i'r gwaith mwynau wedi dadfeilio, a'u coed a'u cerrig wedi cael eu dwyn, ond am un tŷ lle roedd Evan Thomas, un o'r mwynwyr, yn byw.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), t.55</ref> | ||
Pan agorodd [[Rheilffordd Nantlle]] ym 1828, roedd y cwmni copr ymysg y rhai cyntaf i anfon ei gynnyrch ar hyd y lein i gei Caernarfon: ym mis Ionawr 1829, talwyd £4.1.0c mewn tollau i'r rheilffordd, (o'i gymharu â £3.17.10 o dollau a dalwyd gan [[Chwarel Coedmadog]] a rhwng £22 a £25 a dalwyd gan y ddwy chwarel fawr, [[Chwarel Hafodlas]] a [[Chwarel Pen-y-bryn]]).<ref>Archifdy Gwynedd, XM/9309/3.</ref> Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd mwynwyr a merched sgrinio copr (y ''copar ladis'') o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed ac, erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn,<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> er i gwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Mwyngloddio Copr Drws-y-coed, gael ei sefydlu ym 1876.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/1786/96.</ref> Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, ac yn y diwedd cludid y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.<ref>Llun yn Archifdy Gwynedd.</ref> | |||
Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio o ddiwedd y 18g a dechrau'r 19. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i codwyd ym 1769-70<ref>Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.</ref>, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall, a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain. | |||
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at ddefnydd y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r un gwreiddiol gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892. | |||
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai dwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''passim''.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 12: | Llinell 18: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori:Mwyngloddio]] | ||
[[Categori:Mwynau]] | |||
[[Categori:Copr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:17, 28 Ionawr 2023
Roedd gwaith copr Drws-y-coed yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw Dyffryn Nantlle, ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef Drws-y-coed.
Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid, ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ail-agor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ail-agor ym 1792.[1] Tua'r un pryd, roedd dyn o'r enw Mr. Nell yn chwilio eto am y mwynau yn y cylch, gan dderbyn trwydded gan berchennog tir yr ochr ogleddol i'r dyffryn, Hugh Owen, Orielton.[2] Erbyn tua 1800, fodd bynnag, mae arolwg o Ystad y Faenol (yr oedd y mwynglawdd ar ei thir) yn nodi bod yr holl adeiladau a oedd yn perthyn i'r gwaith mwynau wedi dadfeilio, a'u coed a'u cerrig wedi cael eu dwyn, ond am un tŷ lle roedd Evan Thomas, un o'r mwynwyr, yn byw.[3]
Pan agorodd Rheilffordd Nantlle ym 1828, roedd y cwmni copr ymysg y rhai cyntaf i anfon ei gynnyrch ar hyd y lein i gei Caernarfon: ym mis Ionawr 1829, talwyd £4.1.0c mewn tollau i'r rheilffordd, (o'i gymharu â £3.17.10 o dollau a dalwyd gan Chwarel Coedmadog a rhwng £22 a £25 a dalwyd gan y ddwy chwarel fawr, Chwarel Hafodlas a Chwarel Pen-y-bryn).[4] Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd mwynwyr a merched sgrinio copr (y copar ladis) o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed ac, erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn,[5] er i gwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Mwyngloddio Copr Drws-y-coed, gael ei sefydlu ym 1876.[6] Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, ac yn y diwedd cludid y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.[7]
Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio o ddiwedd y 18g a dechrau'r 19. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i codwyd ym 1769-70[8], a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall, a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at ddefnydd y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, Capel Drws-y-coed (A), gan i'r un gwreiddiol gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai dwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. [9]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, ar wefan Aditnow [1], cyrchwyd 8.10.2018
- ↑ Archifdy Gwynedd, X/Poole/1025.
- ↑ R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), t.55
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/9309/3.
- ↑ Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, ar wefan Aditnow [2], cyrchwyd 8.10.2018
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/1786/96.
- ↑ Llun yn Archifdy Gwynedd.
- ↑ Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.
- ↑ David Bick, The Old Copper Mines of Snowdonia, 3ydd argraffiad, (2003), passim.