Pandy Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Pandy Hen''' yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Mae'n enw ar dŷ bellach ond mae'r enw yn tystio i fodolaeth gwaith pa...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pandy Hen''' yn sefyll ar lan ogleddol [[Afon Crychddwr]] yn ardal [[Nebo]]. Mae'n enw ar dŷ bellach ond mae'r enw yn tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol, er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf yr Arolwg Ordnans gymryd lle tua 1888.
Mae '''Pandy Hen''' yn sefyll ar lan ogleddol [[Afon Crychddwr]] yn ardal [[Nebo]]. Fe'i henwir mewn ewyllys Henry ap Richard o Ddolau Ifan, [[Llanllyfni]], fel rhan o'i eiddo ym 1682. Yn yr un ewyllys sonnir am bandy arall, sef (mae'n bur debyg) [[Pandy (Llanllyfni)]].<ref>LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1682/52</ref>
 
Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888, ac nid yw'n cael ei restru yng nghyfrifiad 1841. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.
 
Ychydig i'r gogledd, yn cael ei droi gan [[Afon y Felin]] yr oedd [[Pandy Llanllyfni|pandy]] arall a oedd yn gweithio erbyn 1841.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841</ref> Tuedda hyn i olygu mai olynydd i Bandy Hen ydoedd.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau]]


[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Melinau]]
[[Categori:Pandai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:13, 17 Ionawr 2023

Mae Pandy Hen yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Fe'i henwir mewn ewyllys Henry ap Richard o Ddolau Ifan, Llanllyfni, fel rhan o'i eiddo ym 1682. Yn yr un ewyllys sonnir am bandy arall, sef (mae'n bur debyg) Pandy (Llanllyfni).[1]

Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888, ac nid yw'n cael ei restru yng nghyfrifiad 1841. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.

Ychydig i'r gogledd, yn cael ei droi gan Afon y Felin yr oedd pandy arall a oedd yn gweithio erbyn 1841.[2] Tuedda hyn i olygu mai olynydd i Bandy Hen ydoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1682/52
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841