Melin Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm [[Llwyn-y-gwalch]], yr ochr arall i [[Lôn Eifion]], sef yr hen reilffordd, ar ochr y lôn fach gefn sy'n rhedeg o lôn Pen-y-groes i gyfeiriad [[Bethesda Bach]]. Bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o [[Afon Llifon]]. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf y 20g, ar ol sefyll yn furddyn am hanner canrif.
[[Delwedd:Melin Llwyn-gwalch.jpg|bawd|400px|de|Melin Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae'r ffenestri hanner crwn yn dyddio o gyfnod y felin pan oedd yn gweithio]]


Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>
Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm [[Llwyn-y-gwalch]], yr ochr arall i [[Lôn Eifion]], sef yr hen reilffordd, ar ochr y lôn fach gefn sy'n rhedeg o lôn Pen-y-groes i gyfeiriad [[Bethesda Bach]]. Bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o [[Afon Llifon]]. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf yr 20g, ar ôl sefyll yn furddun am hanner canrif.


Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823. Gan fod [[Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)]] oedd yn byw yn Llwyn-y-gwalch]] ym 1827, ac yn felinydd wrth ei alwedigaeth, dichon mai ef oedd yn gweithio'r felin yn y flwyddyn honno.<ref> ''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810.</ref>
Mae'r cofnod cyntaf am fodolaeth y felin sydd i'w gael, efallai, yw ewyllys Rowland Morgan, [[Llwyn-y-gwalch]], dyddiedig 1677. Mae'n amlwg o'r gyd-destun fod y felin yn rhan hanfodol o diroedd y plasty bach hwnnw. <ref>LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1678/27</ref> Ceir sôn am y felin wedyn mewn gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, yntau'n fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>


Aeth y felin wedi hynny i ddwylo nai-yng-nghyfraith i deulu Thomas Jones, ar yr amod ei fod yn mabwysiadu'r enw Jones. Rhwng 1841 a 1861 enwir Robert Davies yn y cyfrifiad fel melinydd a thenant Llwyn-y-gwalch. Ym 1871, William Hughes oedd y tenant, a phan werthwyd y lle ym 1889, Henry Hughes oedd y tenant. Bu ef a'i frawd Daniel yn byw yno am drigain mlynedd, Henry yn ffermio a malu a Daniel yn gofrestrydd wrth ei waith, a'r ddau yn amlwg iawn yng ngwaith capel [[Bryn'rodyn (MC)]]. Bu'r felin yn dal i droi tan tua 1927, a'r pryd hynny, Morris Griffith, dyn ag ond un lygad, oedd y melinydd.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o ''Hanes y Groeslon'', (2000) a gyhoeddwyd gan bwyllgor lleol gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.</ref>
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, ei mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823. Gan mai [[Morris Roberts (Eos Llyfnwy)]] oedd yn byw yn Llwyn-y-gwalch ym 1827, ac yn felinydd wrth ei alwedigaeth, dichon mai ef oedd yn gweithio'r felin yn y flwyddyn honno.<ref> ''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810.</ref>
 
Aeth y felin wedi hynny i ddwylo nai-yng-nghyfraith i deulu Thomas Jones, ar yr amod ei fod yn mabwysiadu'r enw Jones. Rhwng 1841 a 1861 enwir Robert Davies yn y cyfrifiad fel melinydd a thenant Llwyn-y-gwalch. Ym 1871, William Hughes oedd y tenant, a phan werthwyd y lle ym 1889, Henry Hughes oedd y tenant. Bu ef a'i frawd Daniel yn byw yno am drigain mlynedd, Henry yn ffermio a malu a Daniel yn gofrestrydd wrth ei waith, a'r ddau yn amlwg iawn yng ngwaith capel [[Bryn'rodyn (MC)]]. Bu'r felin yn dal i droi tan tua 1927, a'r pryd hynny, Morris Griffith, dyn ag ond un llygad ganddo, oedd y melinydd.<ref>Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o ''Hanes y Groeslon'', (2000) a gyhoeddwyd gan bwyllgor lleol gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.</ref>
 
Mae'r adeilad yn dal i sefyll ac wedi ei droi'n dŷ annedd. Mae un o'r hen gerrig malu i'w gweld o hyd, wedi ei rhoi i bwyso yn erbyn wal gefn yr adeilad (gweler y llun).


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:52, 17 Ionawr 2023

Melin Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae'r ffenestri hanner crwn yn dyddio o gyfnod y felin pan oedd yn gweithio

Mae'r felin hon i'r gorllewin o fferm Llwyn-y-gwalch, yr ochr arall i Lôn Eifion, sef yr hen reilffordd, ar ochr y lôn fach gefn sy'n rhedeg o lôn Pen-y-groes i gyfeiriad Bethesda Bach. Bu llyn yr ochr uchaf iddi er mwyn cronni dwr o Afon Llifon. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, ond wedi cael ei droi'n dŷ ers blynyddoedd olaf yr 20g, ar ôl sefyll yn furddun am hanner canrif.

Mae'r cofnod cyntaf am fodolaeth y felin sydd i'w gael, efallai, yw ewyllys Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch, dyddiedig 1677. Mae'n amlwg o'r gyd-destun fod y felin yn rhan hanfodol o diroedd y plasty bach hwnnw. [1] Ceir sôn am y felin wedyn mewn gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, yntau'n fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[2]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, ei mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823. Gan mai Morris Roberts (Eos Llyfnwy) oedd yn byw yn Llwyn-y-gwalch ym 1827, ac yn felinydd wrth ei alwedigaeth, dichon mai ef oedd yn gweithio'r felin yn y flwyddyn honno.[3]

Aeth y felin wedi hynny i ddwylo nai-yng-nghyfraith i deulu Thomas Jones, ar yr amod ei fod yn mabwysiadu'r enw Jones. Rhwng 1841 a 1861 enwir Robert Davies yn y cyfrifiad fel melinydd a thenant Llwyn-y-gwalch. Ym 1871, William Hughes oedd y tenant, a phan werthwyd y lle ym 1889, Henry Hughes oedd y tenant. Bu ef a'i frawd Daniel yn byw yno am drigain mlynedd, Henry yn ffermio a malu a Daniel yn gofrestrydd wrth ei waith, a'r ddau yn amlwg iawn yng ngwaith capel Bryn'rodyn (MC). Bu'r felin yn dal i droi tan tua 1927, a'r pryd hynny, Morris Griffith, dyn ag ond un llygad ganddo, oedd y melinydd.[4]

Mae'r adeilad yn dal i sefyll ac wedi ei droi'n dŷ annedd. Mae un o'r hen gerrig malu i'w gweld o hyd, wedi ei rhoi i bwyso yn erbyn wal gefn yr adeilad (gweler y llun).

Cyfeiriadau

  1. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1678/27
  2. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810.
  4. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) a gyhoeddwyd gan bwyllgor lleol gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.