Dafydd Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Dafydd Griffith''' (1841-1910) yn ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr a hynafiaethydd. Fe'i magwyd yn Y Bontnewydd, lle bu'n ddisgybl-athro yn ysg...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Dafydd Griffith''' (1841-1910) yn ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr a hynafiaethydd.  
Roedd '''Dafydd Griffith''' (1841-1910) yn ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr a hynafiaethydd.  


Fe'i magwyd yn Y Bontnewydd, lle bu'n ddisgybl-athro yn ysgol yr eglwys ac ym 1860 fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon (cyn i'r sefydliad hwnnw symud i Fangor) i'w hyfforddi'n athro. Er iddo adael y coleg heb drwydded athro swyddogol fe'i penodwyd i ofal ysgol yng Nghapel Curig, lle bu o 1861-75. Tra yno cadwodd ddyddiaduron manwl sy'n llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, pobl a phethau, a llên gwerin yr ardal honno. Yna penderfynodd gymryd urddau eglwysig gyda'r Eglwys Anglicanaidd. Fe'i hyfforddwyd i'r gwaith hwnnw yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan o 1875-1877 a threuliodd weddill ei oes yn giwrad mewn gwahanol fannau yng ngogledd a de Cymru. Roedd yn curad yng Nghwmafan pan fu farw 12 Ionawr 1910.
Fe'i magwyd yn [[Y Bontnewydd]], lle bu'n ddisgybl-athro yn ysgol yr eglwys ac ym 1860 fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon (cyn i'r sefydliad hwnnw symud i Fangor) i'w hyfforddi'n athro. Er iddo adael y coleg heb drwydded athro swyddogol fe'i penodwyd i ofal ysgol yng Nghapel Curig, lle bu o 1861-75. Tra yno cadwodd ddyddiaduron manwl sy'n llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, pobl a phethau, a llên gwerin yr ardal honno. Yna penderfynodd gymryd urddau eglwysig gyda'r Eglwys Anglicanaidd. Fe'i hyfforddwyd i'r gwaith hwnnw yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan o 1875-1877 a threuliodd weddill ei oes yn giwrad mewn gwahanol fannau yng ngogledd a de Cymru. Roedd yn curad yng Nghwmafan pan fu farw 12 Ionawr 1910.


Ym mhob ardal lle bu'n gwasanaethu ymddiddorodd yn helaeth yn hanes yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau a chyhoeddwyd erthyglau niferus o'i waith yn ''Yr Haul'' a'r ''Cymro'' eglwysig. Ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau hefyd yn Archifau Prifysgol Bangor. Dywedir ei fod o gymeriad pur anodd ei drin a choleddai ragfarnau dyfnion. Dichon mai hynny a fu'n gyfrifol am y ffaith na chafodd erioed fywoliaeth eglwysig a'i fod yn symud o fan i fan yn gyson fel ciwrad. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaeleddau hyn gadawodd ar ei ôl gyfoeth o wybodaeth a darlun hynod gynhwysfawr o fywyd o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn iddi gael ei Datgysylltu ym 1920.<sup>[1]</sup>
Ym mhob ardal lle bu'n gwasanaethu ymddiddorodd yn helaeth yn hanes yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau a chyhoeddwyd erthyglau niferus o'i waith yn ''Yr Haul'' a'r ''Cymro'' eglwysig. Ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau hefyd yn Archifau Prifysgol Bangor. Dywedir ei fod o gymeriad pur anodd ei drin a choleddai ragfarnau dyfnion. Dichon mai hynny a fu'n gyfrifol am y ffaith na chafodd erioed fywoliaeth eglwysig a'i fod yn symud o fan i fan yn gyson fel ciwrad. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaeleddau hyn gadawodd ar ei ôl gyfoeth o wybodaeth a darlun hynod gynhwysfawr o fywyd o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn iddi gael ei Datgysylltu ym 1920.<ref>Gweler erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 - (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940),'' (Llundain, 1970), tt.98-9.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Gweler erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 - (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940),'' (Llundain, 1970), tt.98-9.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Offeiriaid]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Haneswyr]]
[[Categori:Hynafiaethwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:27, 2 Ionawr 2023

Roedd Dafydd Griffith (1841-1910) yn ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr a hynafiaethydd.

Fe'i magwyd yn Y Bontnewydd, lle bu'n ddisgybl-athro yn ysgol yr eglwys ac ym 1860 fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon (cyn i'r sefydliad hwnnw symud i Fangor) i'w hyfforddi'n athro. Er iddo adael y coleg heb drwydded athro swyddogol fe'i penodwyd i ofal ysgol yng Nghapel Curig, lle bu o 1861-75. Tra yno cadwodd ddyddiaduron manwl sy'n llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, pobl a phethau, a llên gwerin yr ardal honno. Yna penderfynodd gymryd urddau eglwysig gyda'r Eglwys Anglicanaidd. Fe'i hyfforddwyd i'r gwaith hwnnw yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan o 1875-1877 a threuliodd weddill ei oes yn giwrad mewn gwahanol fannau yng ngogledd a de Cymru. Roedd yn curad yng Nghwmafan pan fu farw 12 Ionawr 1910.

Ym mhob ardal lle bu'n gwasanaethu ymddiddorodd yn helaeth yn hanes yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau a chyhoeddwyd erthyglau niferus o'i waith yn Yr Haul a'r Cymro eglwysig. Ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau hefyd yn Archifau Prifysgol Bangor. Dywedir ei fod o gymeriad pur anodd ei drin a choleddai ragfarnau dyfnion. Dichon mai hynny a fu'n gyfrifol am y ffaith na chafodd erioed fywoliaeth eglwysig a'i fod yn symud o fan i fan yn gyson fel ciwrad. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaeleddau hyn gadawodd ar ei ôl gyfoeth o wybodaeth a darlun hynod gynhwysfawr o fywyd o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn iddi gael ei Datgysylltu ym 1920.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 - (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940), (Llundain, 1970), tt.98-9.