Ivor Pugh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ivor Pugh''' (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu rywbryd cyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911</ref> Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.<ref>Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn</ref>
Roedd '''Ivor Pugh''' (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn gan ymgartrefi yn Stryd Llanegryn.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911</ref> Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanfihangel-y-Pennant.<ref>Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanfihangel-y-Pennant</ref>


Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911</ref> Mae'n debyg iddo symud i [[Trefor|Drefor]] i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.
Gadawodd Ivor Pugh yr ysgol yn 12 oed i fynd i weithio yn y chwarel lechi leol. Erbyn iddo fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911</ref> Mae'n debyg iddo symud i [[Trefor|Drefor]] i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.


Priododd  ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.<ref>Mynegai Priodasau 1934; Cofrestr 1939</ref> Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.<ref>Mynegai Marwolaethau 1969</ref>
Erbyn i'w rieni farw ym 1932, roedd wedi ei ordeinio ac yn byw yn Darwen, Swydd Caerhirfryn.<ref>Hanes Teulu Rees Pugh [https://www.grantonline.com/pugh-family-genealogy/pugh-rees-1861/rees-pugh.htm], cyrchwyd 21.12.2022</ref>
 
Priododd  ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.<ref>Mynegai Priodasau 1934; Cofrestr 1939</ref> Arhosodd yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.<ref>Mynegai Marwolaethau 1969</ref>


Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.
Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.
Ceir hanes llawn teulu Rees Pugh a'i 14 o blant ar y we.<ref>Hanes Teulu Rees Pugh [https://www.grantonline.com/pugh-family-genealogy/pugh-rees-1861/rees-pugh.htm], cyrchwyd 21.12.2022</ref>
   
   
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:07, 23 Rhagfyr 2022

Roedd Ivor Pugh (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn gan ymgartrefi yn Stryd Llanegryn.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanfihangel-y-Pennant.[2]

Gadawodd Ivor Pugh yr ysgol yn 12 oed i fynd i weithio yn y chwarel lechi leol. Erbyn iddo fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.[3] Mae'n debyg iddo symud i Drefor i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.

Erbyn i'w rieni farw ym 1932, roedd wedi ei ordeinio ac yn byw yn Darwen, Swydd Caerhirfryn.[4]

Priododd ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.[5] Arhosodd yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.[6]

Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig Morris Pugh, Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.

Ceir hanes llawn teulu Rees Pugh a'i 14 o blant ar y we.[7]


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911
  2. Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanfihangel-y-Pennant
  3. Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911
  4. Hanes Teulu Rees Pugh [1], cyrchwyd 21.12.2022
  5. Mynegai Priodasau 1934; Cofrestr 1939
  6. Mynegai Marwolaethau 1969
  7. Hanes Teulu Rees Pugh [2], cyrchwyd 21.12.2022