Chwarel Greenarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarel lechi weddol fach oedd '''Chwarel Greenarvon''' (SH 469508). Chwqarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o [[Afon Crychddwr]] ar gyrion [[Nasareth]], ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd [[Pont Lloc]].
Chwarel lechi weddol fach oedd '''Chwarel Greenarvon''' (SH 469508). Chwarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o [[Afon Crychddwr]] ar gyrion [[Nasareth]], ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd [[Pont Lloc]].  


Defnyddiai dramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.<ref>Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.</ref> Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries sy'n cynnwys y chwarel hon ar gael.<ref>Archifdy Gwynedd, XD94/39.</ref> Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.<ref>''London Gazette'', 25 Tachwedd 1938, t.7441.</ref>
Defnyddid tramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.<ref>Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.</ref>
 
Dichon mai'r chwarel a alwyd gynt yn Chwarel Llwydcoed Bach ydoedd. Yn sicr, fe ailagorwyd y chwarel ym 1907, gyda'r disgwyliad y byddai'r llechi'n bur werthadwy.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 25.6.1907, t.8</ref> Sylwer mai chwarel arall, gydag enw tebyg, oedd [[Chwarel Llwyd-y-coed]] a alwyd yn aml yn Twll (neu Chwarel) Eureka ac aeth yn un o bedwar twll mawr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] yn y man.
 
Ym 1913, y Welsh Green Slate Quarries Company Ltd. o Gaernarfon oedd yn rhedeg y chwarel ac yn gwerthu'r llechi, a ddisgrifiwyd ar daflen brisiau'r cwmni fel rhai gwyrdd a rhai "rustic" (sef mwy amrwd neu gymysgliw).<ref>Amgueddfa Genedlaethol Cymru, eitem 2010.5/17</ref>
 
Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries, sy'n cynnwys y chwarel hon, ar gael.<ref>Archifdy Gwynedd, XD94/39.</ref>  
 
Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.<ref>''London Gazette'', 25 Tachwedd 1938, t.7441.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:01, 6 Rhagfyr 2022

Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Greenarvon (SH 469508). Chwarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o Afon Crychddwr ar gyrion Nasareth, ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd Pont Lloc.

Defnyddid tramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.[1]

Dichon mai'r chwarel a alwyd gynt yn Chwarel Llwydcoed Bach ydoedd. Yn sicr, fe ailagorwyd y chwarel ym 1907, gyda'r disgwyliad y byddai'r llechi'n bur werthadwy.[2] Sylwer mai chwarel arall, gydag enw tebyg, oedd Chwarel Llwyd-y-coed a alwyd yn aml yn Twll (neu Chwarel) Eureka ac aeth yn un o bedwar twll mawr Chwarel Pen-yr-orsedd yn y man.

Ym 1913, y Welsh Green Slate Quarries Company Ltd. o Gaernarfon oedd yn rhedeg y chwarel ac yn gwerthu'r llechi, a ddisgrifiwyd ar daflen brisiau'r cwmni fel rhai gwyrdd a rhai "rustic" (sef mwy amrwd neu gymysgliw).[3]

Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries, sy'n cynnwys y chwarel hon, ar gael.[4]

Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.
  2. Yr Herald Cymraeg, 25.6.1907, t.8
  3. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, eitem 2010.5/17
  4. Archifdy Gwynedd, XD94/39.
  5. London Gazette, 25 Tachwedd 1938, t.7441.