Chwarel Greenarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Chwarel lechi weddol fach oedd ''Chwarel Greenarvon''. Chwqarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o Afon Cryc...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarel lechi weddol fach oedd ''Chwarel Greenarvon''. | Chwarel lechi weddol fach oedd '''Chwarel Greenarvon''' (SH 469508). Chwarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o [[Afon Crychddwr]] ar gyrion [[Nasareth]], ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd [[Pont Lloc]]. | ||
Defnyddid tramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.<ref>Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.</ref> | |||
Dichon mai'r chwarel a alwyd gynt yn Chwarel Llwydcoed Bach ydoedd. Yn sicr, fe ailagorwyd y chwarel ym 1907, gyda'r disgwyliad y byddai'r llechi'n bur werthadwy.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 25.6.1907, t.8</ref> Sylwer mai chwarel arall, gydag enw tebyg, oedd [[Chwarel Llwyd-y-coed]] a alwyd yn aml yn Twll (neu Chwarel) Eureka ac aeth yn un o bedwar twll mawr [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] yn y man. | |||
Ym 1913, y Welsh Green Slate Quarries Company Ltd. o Gaernarfon oedd yn rhedeg y chwarel ac yn gwerthu'r llechi, a ddisgrifiwyd ar daflen brisiau'r cwmni fel rhai gwyrdd a rhai "rustic" (sef mwy amrwd neu gymysgliw).<ref>Amgueddfa Genedlaethol Cymru, eitem 2010.5/17</ref> | |||
Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries, sy'n cynnwys y chwarel hon, ar gael.<ref>Archifdy Gwynedd, XD94/39.</ref> | |||
Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.<ref>''London Gazette'', 25 Tachwedd 1938, t.7441.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:01, 6 Rhagfyr 2022
Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Greenarvon (SH 469508). Chwarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o Afon Crychddwr ar gyrion Nasareth, ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd Pont Lloc.
Defnyddid tramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.[1]
Dichon mai'r chwarel a alwyd gynt yn Chwarel Llwydcoed Bach ydoedd. Yn sicr, fe ailagorwyd y chwarel ym 1907, gyda'r disgwyliad y byddai'r llechi'n bur werthadwy.[2] Sylwer mai chwarel arall, gydag enw tebyg, oedd Chwarel Llwyd-y-coed a alwyd yn aml yn Twll (neu Chwarel) Eureka ac aeth yn un o bedwar twll mawr Chwarel Pen-yr-orsedd yn y man.
Ym 1913, y Welsh Green Slate Quarries Company Ltd. o Gaernarfon oedd yn rhedeg y chwarel ac yn gwerthu'r llechi, a ddisgrifiwyd ar daflen brisiau'r cwmni fel rhai gwyrdd a rhai "rustic" (sef mwy amrwd neu gymysgliw).[3]
Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries, sy'n cynnwys y chwarel hon, ar gael.[4]
Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma