O. Llew Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
* Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr. | * Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr. | ||
* Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau. | * Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau. | ||
* Roedd ganddo gôr bychan —'' | * Roedd ganddo gôr bychan —''Côr y Delyn Aur''.<ref>Er gwaethaf chwilota ym mhapurau newydd y cyfnod, ni chafwyd unrhyw wybodaeth am y côr hwn, na'i leoliad. Efallai mai côr yn ardal Caernarfon ydoedd.</ref> | ||
* Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr. | * Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr. | ||
* Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon. | * Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:49, 20 Tachwedd 2022
Yr oedd Owain Llywelyn Owain (sef O. Llew Owain) (1877-1956) yn llenor, cerddor a newyddiadurwr.
Ganed ym Mlaenyryrfa, Tal-y-sarn ar 3 Gorffennaf 1877
- Yn 12 oed aeth i weithio i chwarel y Gloddfa Glai a Chwarel Cornwall ar ôl hynny.
- Yn 15 oed dechreuodd ar yrfa mewn newyddiaduraeth a bu’n aelod o staff golygyddol Y Genedl Gymreig a’r Herald wedi uno’r ddau bapur.
- Ymddeolodd ym1936 ond parhaodd i gyfrannu i’r wasg.
- Yn eisteddfodwr brwd, bu'n cystadlu mewn llawer o eisteddfodau lleol ar draws y Gogledd, gan ennill ym meysydd cerddoriaeth a rhyddiaith, cyn troi at feirniadu, eto yn y ddau faes.[1]
- Yr oedd yn feilinydd medrus a berfformiai'n aml mewn cyngherddau lleol
- Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
- Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.
- Roedd ganddo gôr bychan —Côr y Delyn Aur.[2]
- Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.
- Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.
• Awdur cofiannau fel: Fanny Jones (1907); Ieuan Twrog (1909); J.O. Jones (Ap Ffarmwr) (1912); T.E. Ellis (1916); Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946); a Bywyd a gwaith ac arabedd Anthropos (1953)
- Awdur nifer o erthyglau yn Y Traethodydd a’r Drysorfa.
- Awdur Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943 (1948)
- Priododd Claudia Roberts ym 1916. Wedi iddi hi farw ym 1918, ailbriododd ag Enid May Jones o'r Felinheli ym 1921. Bu farw yn eu cartref, Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue, Caernarfon, 8 Ionawr 1956.[3]
Amlosgwyd ei weddillion ym Mhenbedw.[4]
Troednodiadau
- ↑ Cyfeiriadau lluosog mewn papurau newydd a ganfyddwyd ym mynegai papurau newydd LlGC
- ↑ Er gwaethaf chwilota ym mhapurau newydd y cyfnod, ni chafwyd unrhyw wybodaeth am y côr hwn, na'i leoliad. Efallai mai côr yn ardal Caernarfon ydoedd.
- ↑ Nid oes stryd o’r enw hwn yng Nghaernarfon bellach ond ceir Rhes Pretoria yno.
- ↑ Crynhowyd o’r Bywgraffiadur Cymreig (awdur Evan David Jones, FSA, Aberystwyth).