Y Felin Frag: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mewn erthygl deipysgrif dan y teitl "Pethau a aeth yn Angof" mae'r hanesydd W. Gilbert Williams yn sôn am adeilad a elwid Y Felin Frag, a safai ar dir ff...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mewn erthygl deipysgrif dan y teitl "Pethau a aeth yn Angof" mae'r hanesydd W. Gilbert Williams yn sôn am adeilad a elwid Y Felin Frag, a safai ar dir fferm Wernlas Wen, sydd ychydig yn is i lawr na phentref Rhostryfan. Am ganrifoedd bu'r arfer o fragu cwrw ar ffermydd, neu mewn bragdai bychain lleol yn boblogaidd (fel sy'n dod yn ôl i'r ffasiwn y dyddiau hyn) a rhaid oedd cael melinau i falu'r haidd yn barod ar gyfer y broses fragu. Mae'n amlwg i'r Felin Frag hon fod yn brysur ar un cyfnod, gan yr arferai ffordd gul fynd ati o ffordd y plwy (sef y ffordd o Ffrwd Cae Du i Rostryfan erbyn hyn) ger llidiart Wernlas Wen. Hefyd yn ail hanner y 18g. bedyddiwyd plant rhai o drigolion y Felin Frag yn eglwys Llanwnda | Mewn erthygl deipysgrif dan y teitl "Pethau a aeth yn Angof" mae'r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] yn sôn am adeilad a elwid [[Y Felin Frag]], a safai ar dir fferm Wernlas Wen, sydd ychydig yn is i lawr na phentref [[Rhostryfan]]. Am ganrifoedd bu'r arfer o fragu cwrw ar ffermydd, neu mewn bragdai bychain lleol yn boblogaidd (fel sy'n dod yn ôl i'r ffasiwn y dyddiau hyn) a rhaid oedd cael melinau i falu'r haidd yn barod ar gyfer y broses fragu. Mae'n amlwg i'r Felin Frag hon fod yn brysur ar un cyfnod, gan yr arferai ffordd gul fynd ati o ffordd y plwy (sef y ffordd o [[Ffrwd Cae Du]] i Rostryfan erbyn hyn) ger llidiart Wernlas Wen. Hefyd yn ail hanner y 18g. bedyddiwyd plant rhai o drigolion y Felin Frag yn [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda|eglwys Llanwnda]]. | ||
Dywed Gilbert Williams i'r Felin Frag gael ei droi'n dŷ annedd yn ddiweddarach am mai'r rhai olaf i fyw yno (ym 1877) oedd Harri Lewis a Marged Jones. Glynodd enw'r lle wrth eu plant weddill eu hoes. Ar ôl i'r tŷ fynd yn wag arferai hogiau' | Roedd rhai bragdai yn y fro bryd hynny, megis ar dir Tyddyn Du, sydd rhwng [[Y Bontnewydd]] a Chaernarfon - gelwid hwnnw 'Y Bragdy Mawr'. Yn Y Bontnewydd bu bragdy a elwid wrth yr enw Saesneg 'Maltsters' ac yn [[Dinas]] roedd bragdy a berthynai i'r 'Tŷ Mawr' ar fin y ffordd fawr, a elwid hefyd 'Yr Hen Inn'. Daeth hwn yn ficerdy Llanwnda yn ddiweddarach (lle magwyd yr awdur [[Aled Jones Williams]]) a bellach mae'n dŷ preifat. | ||
Dywed Gilbert Williams i'r Felin Frag gael ei droi'n dŷ annedd yn ddiweddarach am mai'r rhai olaf i fyw yno (ym 1877) oedd Harri Lewis a Marged Jones. Glynodd enw'r lle wrth eu plant weddill eu hoes. Ar ôl i'r tŷ fynd yn wag arferai hogiau'r pentref ymgynnull yno i gynnal cyfarfodydd cystadleuol ar ddyddiau Sadwrn gwlyb, ond fe'i dymchwelwyd gan berchennog Wernlas Wen ym 1904. Nid oes unrhyw olion ohono bellach.<ref>W. Gilbert Williams, "Pethau a aeth yn Anghof", yn ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.83-4.</ref> | |||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Melinau]] | |||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] | |||
[[Categori:Bragu]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:53, 9 Tachwedd 2022
Mewn erthygl deipysgrif dan y teitl "Pethau a aeth yn Angof" mae'r hanesydd W. Gilbert Williams yn sôn am adeilad a elwid Y Felin Frag, a safai ar dir fferm Wernlas Wen, sydd ychydig yn is i lawr na phentref Rhostryfan. Am ganrifoedd bu'r arfer o fragu cwrw ar ffermydd, neu mewn bragdai bychain lleol yn boblogaidd (fel sy'n dod yn ôl i'r ffasiwn y dyddiau hyn) a rhaid oedd cael melinau i falu'r haidd yn barod ar gyfer y broses fragu. Mae'n amlwg i'r Felin Frag hon fod yn brysur ar un cyfnod, gan yr arferai ffordd gul fynd ati o ffordd y plwy (sef y ffordd o Ffrwd Cae Du i Rostryfan erbyn hyn) ger llidiart Wernlas Wen. Hefyd yn ail hanner y 18g. bedyddiwyd plant rhai o drigolion y Felin Frag yn eglwys Llanwnda.
Roedd rhai bragdai yn y fro bryd hynny, megis ar dir Tyddyn Du, sydd rhwng Y Bontnewydd a Chaernarfon - gelwid hwnnw 'Y Bragdy Mawr'. Yn Y Bontnewydd bu bragdy a elwid wrth yr enw Saesneg 'Maltsters' ac yn Dinas roedd bragdy a berthynai i'r 'Tŷ Mawr' ar fin y ffordd fawr, a elwid hefyd 'Yr Hen Inn'. Daeth hwn yn ficerdy Llanwnda yn ddiweddarach (lle magwyd yr awdur Aled Jones Williams) a bellach mae'n dŷ preifat.
Dywed Gilbert Williams i'r Felin Frag gael ei droi'n dŷ annedd yn ddiweddarach am mai'r rhai olaf i fyw yno (ym 1877) oedd Harri Lewis a Marged Jones. Glynodd enw'r lle wrth eu plant weddill eu hoes. Ar ôl i'r tŷ fynd yn wag arferai hogiau'r pentref ymgynnull yno i gynnal cyfarfodydd cystadleuol ar ddyddiau Sadwrn gwlyb, ond fe'i dymchwelwyd gan berchennog Wernlas Wen ym 1904. Nid oes unrhyw olion ohono bellach.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ W. Gilbert Williams, "Pethau a aeth yn Anghof", yn Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.83-4.