Thomas Ellis yr Hafod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Thomas Ellis (c.1738-1804)''' yn un o arloeswyr Methodistiaeth ym mro'r Eifl ac yn gynghorwr a phregethwr cynorthwyol. Ffermio'r Hafod ar lethrau Carnguwch, uwchben Llanaelhaearn, a wnâi am ei fywoliaeth. Ganed ef tua 1738 a bu farw 30 Tachwedd 1804 a'i gladdu ym mynwent eglwys Carnguwch. Dywedir iddo gael troedigaeth wrth wrando ar bregeth ym Mhwllheli ac iddo droi at Fethodistiaeth yn fuan wedyn, ac fe'i henwir ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y Sasiwn a gynhaliwyd ym Mhwllheli ddiwedd Medi 1791. Roedd traddodiad ei fod yn dlawd a bod ei wraig mor grintachlyd fel y byddai'n ei rwystro rhag golau cannwyll i ddarllen ei Feibl hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ei ewyllys a brofwyd 18 Rhagfyr 1804, gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i "my beloved wife, Margrt Griffith", ac roedd cyfanswm ei eiddo yn £83 19s 6c, a oedd yn swm sylweddol bryd hynny. Byddai'n cynghori aelodau mewn seiadau lleol ac yn pregethu'n achlysurol er nad oedd ganddo lawer o ddawn fel pregethwr. Arferid credu mai ef oedd awdur y pennill sy'n dechrau "Galaru 'rwyf mewn dyffryn du" ond mae amheuaeth ynghylch hynny bellach gan fod y pennill wedi'i gyhoeddi yn ''Cyfaill mewn Llogell'', Siôn Singer.< | Roedd '''Thomas Ellis (c.1738-1804)''' yn un o arloeswyr Methodistiaeth ym mro'r Eifl ac yn gynghorwr a phregethwr cynorthwyol. Ffermio'r Hafod ar lethrau Carnguwch, uwchben [[Llanaelhaearn]], a wnâi am ei fywoliaeth. Ganed ef tua 1738 a bu farw 30 Tachwedd 1804 a'i gladdu ym mynwent eglwys Carnguwch. Dywedir iddo gael troedigaeth wrth wrando ar bregeth ym Mhwllheli ac iddo droi at Fethodistiaeth yn fuan wedyn, ac fe'i henwir ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y Sasiwn a gynhaliwyd ym Mhwllheli ddiwedd Medi 1791. Roedd traddodiad ei fod yn dlawd a bod ei wraig mor grintachlyd fel y byddai'n ei rwystro rhag golau cannwyll i ddarllen ei Feibl hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ei ewyllys a brofwyd 18 Rhagfyr 1804, gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i "my beloved wife, Margrt Griffith", ac roedd cyfanswm ei eiddo yn £83 19s 6c, a oedd yn swm sylweddol bryd hynny. Byddai'n cynghori aelodau mewn seiadau lleol ac yn pregethu'n achlysurol er nad oedd ganddo lawer o ddawn fel pregethwr. Arferid credu mai ef oedd awdur y pennill sy'n dechrau "Galaru 'rwyf mewn dyffryn du" ond mae amheuaeth ynghylch hynny bellach gan fod y pennill wedi'i gyhoeddi yn ''Cyfaill mewn Llogell'', Siôn Singer.<ref>Goronwy P. Owen, ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'', (Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.113.</ref> Beth bynnag am hynny, dyma'r pennill fel y ceir ef yn ''Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd 1896''<ref>''Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd'', (Caernarfon, 1896), Emyn 556, t.126.</ref> gyda'r llythrennau T.E. o dano: | ||
Galaru 'rwyf mewn dyffryn du, | Galaru 'rwyf mewn dyffryn du, | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Emynwyr]] | |||
[[Categori:Pregethwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:48, 9 Tachwedd 2022
Roedd Thomas Ellis (c.1738-1804) yn un o arloeswyr Methodistiaeth ym mro'r Eifl ac yn gynghorwr a phregethwr cynorthwyol. Ffermio'r Hafod ar lethrau Carnguwch, uwchben Llanaelhaearn, a wnâi am ei fywoliaeth. Ganed ef tua 1738 a bu farw 30 Tachwedd 1804 a'i gladdu ym mynwent eglwys Carnguwch. Dywedir iddo gael troedigaeth wrth wrando ar bregeth ym Mhwllheli ac iddo droi at Fethodistiaeth yn fuan wedyn, ac fe'i henwir ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y Sasiwn a gynhaliwyd ym Mhwllheli ddiwedd Medi 1791. Roedd traddodiad ei fod yn dlawd a bod ei wraig mor grintachlyd fel y byddai'n ei rwystro rhag golau cannwyll i ddarllen ei Feibl hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ei ewyllys a brofwyd 18 Rhagfyr 1804, gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i "my beloved wife, Margrt Griffith", ac roedd cyfanswm ei eiddo yn £83 19s 6c, a oedd yn swm sylweddol bryd hynny. Byddai'n cynghori aelodau mewn seiadau lleol ac yn pregethu'n achlysurol er nad oedd ganddo lawer o ddawn fel pregethwr. Arferid credu mai ef oedd awdur y pennill sy'n dechrau "Galaru 'rwyf mewn dyffryn du" ond mae amheuaeth ynghylch hynny bellach gan fod y pennill wedi'i gyhoeddi yn Cyfaill mewn Llogell, Siôn Singer.[1] Beth bynnag am hynny, dyma'r pennill fel y ceir ef yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd 1896[2] gyda'r llythrennau T.E. o dano:
Galaru 'rwyf mewn dyffryn du, Wrth deithio i dŷ fy Nhad; Ar ben y bryniau'n llawenhau Wrth weled cyrau'r wlad: 'Rwy'n ddu fy lliw, a'm gwisg yn wen: 'Rwy'n llawen ac yn brudd; 'Rwy'n agos iawn, ac eto 'mhell; 'Rwy'n waeth, 'rwy'n well, bob dydd.