Tafarn Pen Nionyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Tafarn Pen Nionyn''' wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn [[Y Groeslon]] ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy oedd yn berchen ar y dafarn, | Mae '''Tafarn Pen Nionyn''' wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn [[Y Groeslon]] ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy a oedd yn berchen ar y dafarn, yr enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon]]. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn a oedd yn eiddo i [[Ystad Plas Llanfair]], Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd. | ||
[[Delwedd:Owen a Margaret Williams, Pen Nionyn.jpg|bawd|300px|Owen a Margaret Williams, Llanfair Arms]] | |||
Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1841, gan fod trwydded wedi ei rhoi y flwyddyn honno, a Margaret Williams yn cadw'r lle. Hi oedd yno yn 1851 hefyd ond erbyn 1861 Owen Williams oedd yno, ac yn cyfuno'r gwaith o fod yn dafarnwr efo ffarmio. W.M. Williams oedd yn cadw'r dafarn yn 1881 ac 1891, ond roedd Owen Williams yn dal yn berchennog. Erbyn mis Mai 1897, Mary Williams oedd y dafarnwraig, ond yn ystsod y mis hwnnw, fe drosglwyddwyd y drwydded i dafarnwr newydd, James Griffiths.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 4.5.1897, t.4</ref> | |||
Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y busnes rywfaint trwy | Daw'r enw Pen Nionyn o'r stori fod dyn o'r enw Owen Rowlands yn cadw'r lle rywbryd ar ôl 1900. Roedd ganddo ben crwn a oedd yn gwbl foel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw'n llurguniad o'r gair ''Pen Lôn Glyn'', gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad [[Groeslon Ffrwd]]. | ||
Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y busnes rywfaint trwy rentu stablau i'r rhai oedd â cheffyl, gan gynnwys Dan Eames, Siop Isaf; gwerthwyd motobeics yno gan fab Owen Rowlands, Huw; ac am gyfnod roedd modd gwefru batris radios di-wifr yno hefyd.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.64-5.</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:18, 16 Awst 2022
Mae Tafarn Pen Nionyn wedi bod yn enw answyddogol ar y Llanfair Arms Hotel yn Y Groeslon ers blynyddoedd lawer, ond yn ystod y 1980au, wedi clywed yr esboniad arferol ar yr enw, fe fabwysiadodd Marston's, y bragdy a oedd yn berchen ar y dafarn, yr enw fel enw swyddogol. Codwyd y dafarn wrth y groesffordd (sef y groeslon) wreiddiol yn ystod y 19g, efallai yn sgil agor Gorsaf reilffordd Y Groeslon. Fe gafodd ei henw gwreiddiol o'r ffaith ei bod yn sefyll ar dir tyddyn Talar Siencyn a oedd yn eiddo i Ystad Plas Llanfair, Llanfair-isgaer, perchenogion sawl fferm yng nghyffiniau'r Groeslon ar y pryd.
Yn sicr, roedd yn agored erbyn 1841, gan fod trwydded wedi ei rhoi y flwyddyn honno, a Margaret Williams yn cadw'r lle. Hi oedd yno yn 1851 hefyd ond erbyn 1861 Owen Williams oedd yno, ac yn cyfuno'r gwaith o fod yn dafarnwr efo ffarmio. W.M. Williams oedd yn cadw'r dafarn yn 1881 ac 1891, ond roedd Owen Williams yn dal yn berchennog. Erbyn mis Mai 1897, Mary Williams oedd y dafarnwraig, ond yn ystsod y mis hwnnw, fe drosglwyddwyd y drwydded i dafarnwr newydd, James Griffiths.[1]
Daw'r enw Pen Nionyn o'r stori fod dyn o'r enw Owen Rowlands yn cadw'r lle rywbryd ar ôl 1900. Roedd ganddo ben crwn a oedd yn gwbl foel a sgleiniog, ac felly yn debyg i nionyn! Esboniad rhai mwy pwyllog yw bod yr enw'n llurguniad o'r gair Pen Lôn Glyn, gan fod y lôn sydd yn troi wrth dalcen y dafarn yn mynd i lawr Allt Cefn Glyn i gyfeiriad Groeslon Ffrwd.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf ceisiwyd ehangu sgôp y busnes rywfaint trwy rentu stablau i'r rhai oedd â cheffyl, gan gynnwys Dan Eames, Siop Isaf; gwerthwyd motobeics yno gan fab Owen Rowlands, Huw; ac am gyfnod roedd modd gwefru batris radios di-wifr yno hefyd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma