Dan Ellis, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Symud i fyw | Symud i fyw i [[Trefor|Drefor]] yn y 1960au wnaeth '''Daniel Ellis'''. Daeth yma o Fynytho, Llŷn, i gadw siop yn y pentref - ''Temperance House'' - siop fferins, papurau newydd, a fferyllfa fechan, a gedwid cyn hynny gan William Hughes Ellis (''Wili Temprans''). | ||
Fe'i ganwyd yr ieuengaf ond un o naw o blant yn Preswylfa, Mynytho. Bu'n brentis saer maen gyda Hugh Williams, Boduan, o tua 1922. | |||
Roedd yn fardd medrus a gallai lunio sonedau da. Bu hefyd yn ymryson ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'' â [[Tom Bowen Jones]], [[William Jones (Wil Parsal)]], Harri Reilly o Garmel ac eraill. Ei 'enw barddol' bryd hynny fyddai ''Dan Dean!'' | |||
Cyhoeddwyd llyfr o rai o'i atgofion - ''Rhodio Lle Gynt y Rhedwn.'' | |||
Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr ''Herald Cymraeg'', 24 Gorffennaf 1967. | Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr ''Herald Cymraeg'', 24 Gorffennaf 1967. | ||
'''YR EIFL''' | '''YR EIFL''' | ||
''Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud,'' | ''Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud,'' |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:46, 16 Awst 2022
Symud i fyw i Drefor yn y 1960au wnaeth Daniel Ellis. Daeth yma o Fynytho, Llŷn, i gadw siop yn y pentref - Temperance House - siop fferins, papurau newydd, a fferyllfa fechan, a gedwid cyn hynny gan William Hughes Ellis (Wili Temprans).
Fe'i ganwyd yr ieuengaf ond un o naw o blant yn Preswylfa, Mynytho. Bu'n brentis saer maen gyda Hugh Williams, Boduan, o tua 1922.
Roedd yn fardd medrus a gallai lunio sonedau da. Bu hefyd yn ymryson ar dudalennau'r Herald Cymraeg â Tom Bowen Jones, William Jones (Wil Parsal), Harri Reilly o Garmel ac eraill. Ei 'enw barddol' bryd hynny fyddai Dan Dean!
Cyhoeddwyd llyfr o rai o'i atgofion - Rhodio Lle Gynt y Rhedwn.
Dyma soned grefftus o'i waith a ymddangosodd yn yr Herald Cymraeg, 24 Gorffennaf 1967.
YR EIFL
Rwyt yma'n gwarchod drwy'r canrifoedd mud, A Ceiri ar dy lin - teganau oes A ddarfu, lle bu dynion bore'r byd Yn pêr-freuddwydio, ac yn dioddef loes, A gwelaist trwy flynyddoedd y pell wae Ddynionach gwyllt yn brwydro ar dy groen, Fel morgrug sydd yn brysur, fan lle mae Y ddaear greulon byth yn gwario'i hoen. Mae dynion eto ar dy 'sgythredd di yn dal i lynu ac i lunio gwaith O'th garreg, a daw eto egwan gri Ei brotest, pan fo'r halen ar ei graith, A thithau fel rhyw haflog foliog fawr Yn edrych yn ddirmygus arno i lawr.