Owen Jones, Gwredog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Owen Jones''' (fl.1840-50) a hanai o’r [[Gwredog]] sydd yn nyffryn [[Afon Gwyrfai]], plwyf [[Llanwnda]], (er yn agos at bentref y Waunfawr), yn berchennog chwareli llechi yn nyffryn Afon Lehigh, Pennsylfania. Mae’n debyg iddo ymfudo o Gymru rywbryd cyn 1841, gan ymsefydlu yn ardal Slatington yn Sir Lehigh.
Yr oedd '''Owen Jones''' (fl.1840-50), a hanai o’r [[Gwredog]] sydd yn nyffryn [[Afon Gwyrfai]], plwyf [[Llanwnda]], (er yn agos at bentref Y Waunfawr), yn berchennog chwareli llechi yn nyffryn Afon Lehigh, Pennsylfania. Mae’n debyg iddo ymfudo o Gymru rywbryd cyn 1841, gan ymsefydlu yn ardal Slatington yn Sir Lehigh.


Yno ym 1845 fe ddarganfu wythïen gyfoethog o lechi uwchben Afon Lehigh ar y bryn gyferbyn â Welshtown. Daeth y wythïen yn adnabyddus fel “Gwythïen y Dref Gymreig (neu'r ''Welsh Town Vein''). Wedi iddo brofi ei gwerth, ffurfiodd bartneriaeth gyda Chymro arall, William Roberts, a oedd eisoes yn rhedeg chwarel gerllaw. Cymerodd y ddau brydles ar y tir am 15 mlynedd  gan y perchennog, Jonas Kern, un o arloeswyr datblygu’r ardal a pherchennog llawer o dir yn y dyffryn. Galwyd y chwarel hon yn Chwarel y Twnnel (''Tunnel Quarry'') ac fe’i gweithiwyd tan 1866.<ref>Sean a Johanna Billings, ''Slatington, Walnutport, and Washington Township'' (Charleston SC, 2006),t.96</ref>
Yno ym 1845 fe ddarganfu wythïen gyfoethog o lechi uwchben Afon Lehigh ar y bryn gyferbyn â Welshtown. Daeth y wythïen yn adnabyddus fel “Gwythïen y Dref Gymreig (neu'r ''Welsh Town Vein''). Wedi iddo brofi ei gwerth, ffurfiodd bartneriaeth gyda Chymro arall, William Roberts, a oedd eisoes yn rhedeg chwarel gerllaw. Cymerodd y ddau brydles ar y tir am 15 mlynedd  gan y perchennog, Jonas Kern, un o arloeswyr datblygu’r ardal a pherchennog llawer o dir yn y dyffryn. Galwyd y chwarel hon yn Chwarel y Twnnel (''Tunnel Quarry'') ac fe’i gweithiwyd tan 1866.<ref>Sean a Johanna Billings, ''Slatington, Walnutport, and Washington Township'' (Charleston SC, 2006),t.96</ref>


Fe ddychwelodd i Gymru rywbryd wedi hynny i geisio perswadio ei gyd-wladwyr bod cyfleoedd yn ardal Slatington. Dychwelodd i’r Unol Daleithiau gyda nifer o chwarelwyr, llawer ohonynt o ardal Deiniolen, gan droi Slatington yn dref fwy Cymreig ei naws. Sefydlwyd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Slatington ym 1847.<ref> Bob Owen, ''Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau'', ii, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.14  (1952)), tt.58-9; a iii (op.cit., Cyf.15 (1953)), t.51.</ref> Erbyn 1847, yr oedd Owen Jones wedi agor ail chwarel yn Danielsville, sef Chwarel Little Gap, a hynny rai milltiroedd i ffwrdd; cafodd bartner arall, Owen Williams, ar gyfer y fenter hon.<ref> F.M. Hower, ''History of the Slate Industry'', mewn taflen ''Hower’s Lightning Slate Reckoner ''(Cherryville, Pa., 1888), tt.2-3.</ref> Serch hyn, gwerthodd brydles Little Gap i Charles Daniels ym 1848<ref>Gwefan Lehigh Valley HIstory, [http://www.lehighvalleyhistory.com/the-history-of-lehigh-township/], cyrchwyd 20.7.2022</ref> – ffaith sy’n awgrymu bod Owen Jones yn ryw fath o gyfalafwr a datblygwr yn hytrach na chwarelwr erbyn hynny.  
Fe ddychwelodd i Gymru rywbryd wedi hynny i geisio perswadio ei gydwladwyr bod cyfleoedd yn ardal Slatington. Dychwelodd i’r Unol Daleithiau gyda nifer o chwarelwyr, llawer ohonynt o ardal Deiniolen, gan droi Slatington yn dref fwy Cymreig ei naws. Sefydlwyd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Slatington ym 1847.<ref> Bob Owen, ''Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau'', ii, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.14  (1952)), tt.58-9; a iii (op.cit., Cyf.15 (1953)), t.51.</ref> Erbyn 1847, roedd Owen Jones wedi agor ail chwarel yn Danielsville, sef Chwarel Little Gap, a hynny rai milltiroedd i ffwrdd; cafodd bartner arall, Owen Williams, ar gyfer y fenter hon.<ref> F.M. Hower, ''History of the Slate Industry'', mewn taflen ''Hower’s Lightning Slate Reckoner ''(Cherryville, Pa., 1888), tt.2-3.</ref> Serch hynny, gwerthodd brydles Little Gap i Charles Daniels ym 1848<ref>Gwefan Lehigh Valley History, [http://www.lehighvalleyhistory.com/the-history-of-lehigh-township/], cyrchwyd 20.7.2022</ref> – ffaith sy’n awgrymu bod Owen Jones yn rhyw fath o gyfalafwr a datblygwr yn hytrach na chwarelwr erbyn hynny.  


Ar ôl nifer o flynyddoedd, gwerthodd draean o gwmni Cwarel Twnnel i ddyn o’r enw Robert McDowell (a oedd wedi bod yn berchen ar chwareli llechi eraill yn yr ardal ers 1831), ac ym 1858 dychwelodd Owen Jones i Gymru i nôl ei deulu. Trodd wedyn hynny at redeg busnes masnachu llechi. Arhosai’r teulu am rai blynyddoedd yn ardal Slatington, cyn symud i Danielsville, Pa. lle cafodd Owen Jones ei ladd mewn damwain pan syrthiodd craen ar ei ben.<ref> Alfred Mathews & Austin N.Hungerford, ''The History of the Counties of Lehigh & Carbon, Commonwealth of Pennsylvania'', (Philadelphia, Pa., 1884), tt.557-8</ref>
Ar ôl nifer o flynyddoedd, gwerthodd draean o gwmni Cwarel Twnnel i ddyn o’r enw Robert McDowell (a oedd wedi bod yn berchen ar chwareli llechi eraill yn yr ardal er 1831), ac ym 1858 dychwelodd Owen Jones i Gymru i nôl ei deulu. Trodd wedyn hynny at redeg busnes masnachu llechi. Arhosodd y teulu am rai blynyddoedd yn ardal Slatington, cyn symud i Danielsville, Pa. lle cafodd Owen Jones ei ladd mewn damwain pan syrthiodd craen ar ei ben.<ref> Alfred Mathews & Austin N.Hungerford, ''The History of the Counties of Lehigh & Carbon, Commonwealth of Pennsylvania'', (Philadelphia, Pa., 1884), tt.557-8</ref>


Nid yw wedi bod yn bosibl ddarganfod dyddiadau geni a marw Owen Jones. Mae gormod o fedyddiadau rhai ag enw Owen Jones yng nghofrestr plwyf Llanwnda a chofrestrau anghydffurfiol y cylch, ac nid yw’r un o’r rheiny o Wredog, fel na ellir canfod dyddiad ei eni. Dichon i’r teulu fod yn byw yn rhywle arall ar adeg ei eni, gan symud i Wredog wedyn. Gellir tybio, fodd bynnag, ei fod wedi ei eni rywbryd tua 1810-1820 a marw rywbryd ar ôl 1858. Gellir tybio ymhellach mai un o’r tri thŷ a elwid y pryd hynny’n Wredog - Gwredog Uchaf, Isaf a Bach (neu Gwredog Tan'rallt) - yw’r lle y cyfrifid ganddo’n gartref, gan mai “Owen Jones, Gwredog” oedd y dull o gyfeirio ato yn y ffynonellau Americanaidd.  
Nid yw wedi bod yn bosibl darganfod dyddiadau geni a marw Owen Jones. Mae gormod o fedyddiadau rhai o'r enw Owen Jones yng nghofrestr plwyf Llanwnda a chofrestrau anghydffurfiol y cylch, ac nid yw’r un o’r rheiny o Wredog, fel na ellir canfod dyddiad ei eni. Dichon i’r teulu fod yn byw yn rhywle arall ar adeg ei eni, gan symud i Wredog wedyn. Gellir tybio, fodd bynnag, ei fod wedi ei eni rywbryd tua 1810-1820 a marw rywbryd ar ôl 1858. Gellir tybio ymhellach mai un o’r tri thŷ a elwid y pryd hynny’n Wredog - Gwredog Uchaf, Isaf a Bach (neu Gwredog Tan'rallt) - yw’r lle a gyfrifid ganddo’n gartref, gan mai “Owen Jones, Gwredog” oedd y dull o gyfeirio ato yn y ffynonellau Americanaidd.  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:28, 23 Gorffennaf 2022

Yr oedd Owen Jones (fl.1840-50), a hanai o’r Gwredog sydd yn nyffryn Afon Gwyrfai, plwyf Llanwnda, (er yn agos at bentref Y Waunfawr), yn berchennog chwareli llechi yn nyffryn Afon Lehigh, Pennsylfania. Mae’n debyg iddo ymfudo o Gymru rywbryd cyn 1841, gan ymsefydlu yn ardal Slatington yn Sir Lehigh.

Yno ym 1845 fe ddarganfu wythïen gyfoethog o lechi uwchben Afon Lehigh ar y bryn gyferbyn â Welshtown. Daeth y wythïen yn adnabyddus fel “Gwythïen y Dref Gymreig (neu'r Welsh Town Vein). Wedi iddo brofi ei gwerth, ffurfiodd bartneriaeth gyda Chymro arall, William Roberts, a oedd eisoes yn rhedeg chwarel gerllaw. Cymerodd y ddau brydles ar y tir am 15 mlynedd gan y perchennog, Jonas Kern, un o arloeswyr datblygu’r ardal a pherchennog llawer o dir yn y dyffryn. Galwyd y chwarel hon yn Chwarel y Twnnel (Tunnel Quarry) ac fe’i gweithiwyd tan 1866.[1]

Fe ddychwelodd i Gymru rywbryd wedi hynny i geisio perswadio ei gydwladwyr bod cyfleoedd yn ardal Slatington. Dychwelodd i’r Unol Daleithiau gyda nifer o chwarelwyr, llawer ohonynt o ardal Deiniolen, gan droi Slatington yn dref fwy Cymreig ei naws. Sefydlwyd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Slatington ym 1847.[2] Erbyn 1847, roedd Owen Jones wedi agor ail chwarel yn Danielsville, sef Chwarel Little Gap, a hynny rai milltiroedd i ffwrdd; cafodd bartner arall, Owen Williams, ar gyfer y fenter hon.[3] Serch hynny, gwerthodd brydles Little Gap i Charles Daniels ym 1848[4] – ffaith sy’n awgrymu bod Owen Jones yn rhyw fath o gyfalafwr a datblygwr yn hytrach na chwarelwr erbyn hynny.

Ar ôl nifer o flynyddoedd, gwerthodd draean o gwmni Cwarel Twnnel i ddyn o’r enw Robert McDowell (a oedd wedi bod yn berchen ar chwareli llechi eraill yn yr ardal er 1831), ac ym 1858 dychwelodd Owen Jones i Gymru i nôl ei deulu. Trodd wedyn hynny at redeg busnes masnachu llechi. Arhosodd y teulu am rai blynyddoedd yn ardal Slatington, cyn symud i Danielsville, Pa. lle cafodd Owen Jones ei ladd mewn damwain pan syrthiodd craen ar ei ben.[5]

Nid yw wedi bod yn bosibl darganfod dyddiadau geni a marw Owen Jones. Mae gormod o fedyddiadau rhai o'r enw Owen Jones yng nghofrestr plwyf Llanwnda a chofrestrau anghydffurfiol y cylch, ac nid yw’r un o’r rheiny o Wredog, fel na ellir canfod dyddiad ei eni. Dichon i’r teulu fod yn byw yn rhywle arall ar adeg ei eni, gan symud i Wredog wedyn. Gellir tybio, fodd bynnag, ei fod wedi ei eni rywbryd tua 1810-1820 a marw rywbryd ar ôl 1858. Gellir tybio ymhellach mai un o’r tri thŷ a elwid y pryd hynny’n Wredog - Gwredog Uchaf, Isaf a Bach (neu Gwredog Tan'rallt) - yw’r lle a gyfrifid ganddo’n gartref, gan mai “Owen Jones, Gwredog” oedd y dull o gyfeirio ato yn y ffynonellau Americanaidd.

Cyfeiriadau

  1. Sean a Johanna Billings, Slatington, Walnutport, and Washington Township (Charleston SC, 2006),t.96
  2. Bob Owen, Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, ii, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.14 (1952)), tt.58-9; a iii (op.cit., Cyf.15 (1953)), t.51.
  3. F.M. Hower, History of the Slate Industry, mewn taflen Hower’s Lightning Slate Reckoner (Cherryville, Pa., 1888), tt.2-3.
  4. Gwefan Lehigh Valley History, [1], cyrchwyd 20.7.2022
  5. Alfred Mathews & Austin N.Hungerford, The History of the Counties of Lehigh & Carbon, Commonwealth of Pennsylvania, (Philadelphia, Pa., 1884), tt.557-8