Pont Wyled: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, ond y barn cyffredinol yw mai Afon Wyled yn llifo i Afon Carrog,ac mae Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled!
Mae '''Pont Wyled''' yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros [[Afon Carrog]], ger giat fferm [[Hen Gastell]], tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y [[Dolydd]] lle mae [[Afon Wyled]] yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled sy'n llifo i Afon Carrog, ac mai Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd [[W. Gilbert Williams]] o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, gan nodi mai'r Carrog oedd yn llifo i mewn i Afon Wyled.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.17</ref>
 
Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei bod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen, a William Jones, Pont Dwyled, [[Llanwnda]], saer maen - y ddau yn byw o fewn llathenni i'r bont - gafodd y cytundeb i wneud y gwaith ar gost o £90.<ref>Archifdy Gwynedd XPlansB/160</ref>
 
Roedd hen bont dros yr afon, [[Pont Wen]], led cae ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 


Boed hynny fel y bo, codwyd y bont yn wreiddiol pan yr oedd y ffordd dyrpeg yn cael ei adeiladu tua 1812. Roedd yr hen bont dros yr afon, [[Pont Wen]], lled cau ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chawlwyd honno rywbryd yn ystod y 19g.


[[Categori:Pontydd]]
[[Categori:Pontydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:05, 15 Mehefin 2022

Mae Pont Wyled yn cario'r brif lôn o Gaernarfon i Bwllheli, yr A499, dros Afon Carrog, ger giat fferm Hen Gastell, tua chwarter milltir i'r gorllewin i'r fan yn y Dolydd lle mae Afon Wyled yn ymuno â'r Afon Carrog. Mae dryswch yn lleol parthed enw cywir yr afon rhwng y Dolydd a'r môr, er mai'r farn gyffredinol erbyn hyn yw mai Afon Wyled sy'n llifo i Afon Carrog, ac mai Afon Carrog felly sy'n llifo dan Bont Wyled! Roedd W. Gilbert Williams o'r farn fod syrfewyr mapiau'r Ordnans wedi cymysgu pethau, gan nodi mai'r Carrog oedd yn llifo i mewn i Afon Wyled.[1]

Mae'n debyg mai Wyled neu Dwyled oedd yr enw ym 1776, pan gofnodwyd cytundeb i ailadeiladu "Pont Dwyled" gan ei bod "yn gul, yn ddadfeiliedig ac mewn cyflwr drwg iawn". John Evan, Hen Gastell, saer maen, a William Jones, Pont Dwyled, Llanwnda, saer maen - y ddau yn byw o fewn llathenni i'r bont - gafodd y cytundeb i wneud y gwaith ar gost o £90.[2]

Roedd hen bont dros yr afon, Pont Wen, led cae ymhellach i'r gorllewin, lle rhedai hen lôn bost Pwllheli cyn agor y ffordd dyrpeg. Chwalwyd honno rywbryd tua chanol y 19g. Ar rai mapiau Ordnans, rhoddir yr enw Pont Wen i'r bont hon. Fodd bynnag, mae cofnod o dŷ Pontwyled mor gynnar â 1761, ac felly rhaid bod pont o ryw fath yno y pryd hynny.[3]

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.17
  2. Archifdy Gwynedd XPlansB/160
  3. Glenda Carr, Hen Enwau a Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.218