Robert Armstrong-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Robert Armstrong-Jones''' (1857-1943) yn ŵyr i Owen Roberts, asiant tir Ystad y Faenol, ac yn berchennog Plas Dinas, yn Y Bontnewydd. Ro...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:51, 9 Mehefin 2022
Roedd Robert Armstrong-Jones (1857-1943) yn ŵyr i Owen Roberts, asiant tir Ystad y Faenol, ac yn berchennog Plas Dinas, yn Y Bontnewydd. Roedd mab Owen Roberts, Syr Owen John Roberts, yn arloeswr ym myd addysg, a oedd yn rhannu ei amser rhwng Plas Dinas a Henley Park, Guildford. Bu farw ym 1915, gan adael Plas Dinas a’r ystâd fechan a oedd yn gysylltiedig â’r eiddo i’w ferch, Margaret Elizabeth (1868-1943) a oedd wedi priodi â Robert Jones (Armstrong-Jones wedi hynny). Roedd Robert Jones yn feddyg dylanwadol yn Llundain ac yn fab i weinidog o Gricieth, Thomas Jones, a’i wraig Jane Elisabeth Jones. Penderfynodd fabwysiadu Armstrong fel cyfenw ychwanegol ym 1913 - roedd Armstrong yn gyfenw mam Margaret Elizabeth cyn i honno briodi â Syr Owen.
Cafodd Robert ac Elizabeth Armstrong-Jones fab, Ronald Owen Lloyd, a dwy ferch.
Mab i Ronald oedd y ffotograffydd enwog Anthony Armstrong-Jones.