William Turner, Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''William Turner''' (1766-1853) yn Sais a hanai o Broughton-in-Furness, gogledd swydd Caerhirfryn lle roedd ei deulu â diddordebau mewn chwareli llechi. Symudodd i Ogledd Cymru, i Lanrwst yn wreiddiol, i fanteisio ar y cyfle yno | Roedd '''William Turner''' (1766-1853) yn Sais a hanai o Broughton-in-Furness, gogledd swydd Caerhirfryn lle roedd ei deulu â diddordebau mewn chwareli llechi. Symudodd i Ogledd Cymru, i Lanrwst yn wreiddiol, i fanteisio ar y cyfle yno i agor a gweithio chwareli llechi. Bu'n weithgar yn ardal Ffestiniog lle bu'n bartner efo teulu Casson (ffrindiau i'w deulu) ac wedyn yn un o'r rhai a reolai chwarel Dinorwig mewn partneriaeth â pherchennog y chwarel, [[Thomas Assheton Smith]]. Pan ddaeth yn gysylltiedig â chwarel Dinorwig roedd amod bod rhaid iddo symud i fyw i Gaernarfon, yr hyn a wnaeth gan symud i Blas Brereton, sydd ar gyrion y dref ar lan y Fenai i gyfeiriad Bangor. | ||
Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], agorwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ganddo ym 1816. Tua 1829 cymerodd Turner a'i fab-yng-nghyfraith John Morgan ddiddordeb yn un o chwareli [[Dyffryn Nantlle]] ar dir [[Pant Du]], chwarel a elwid ar y dechrau yn [[Cloddfa Turner]] ond a ddaeth ymhen amser yn [[Chwarel Dorothea]]. | Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], agorwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ganddo ym 1816. Tua 1829 cymerodd Turner a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, ddiddordeb yn un o chwareli [[Dyffryn Nantlle]] ar dir [[Pant Du]], chwarel a elwid ar y dechrau yn [[Cloddfa Turner|Gloddfa Turner]] ond a ddaeth ymhen amser yn [[Chwarel Dorothea]]. | ||
Chwaraeodd ei ran ym materion y Sir, gan wasanaethu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1823-4, a Sir Feirionnydd 1832-3. | |||
Mab iddo oedd Syr Llewelyn Turner a | Mab iddo oedd Syr [[Llewelyn Turner]] a chwaraeodd ran helaeth yn natblygiad a gwelliant tref Caernarfon yn ail hanner y 19g.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), tt.929-30</ref> | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:19, 8 Mehefin 2022
Roedd William Turner (1766-1853) yn Sais a hanai o Broughton-in-Furness, gogledd swydd Caerhirfryn lle roedd ei deulu â diddordebau mewn chwareli llechi. Symudodd i Ogledd Cymru, i Lanrwst yn wreiddiol, i fanteisio ar y cyfle yno i agor a gweithio chwareli llechi. Bu'n weithgar yn ardal Ffestiniog lle bu'n bartner efo teulu Casson (ffrindiau i'w deulu) ac wedyn yn un o'r rhai a reolai chwarel Dinorwig mewn partneriaeth â pherchennog y chwarel, Thomas Assheton Smith. Pan ddaeth yn gysylltiedig â chwarel Dinorwig roedd amod bod rhaid iddo symud i fyw i Gaernarfon, yr hyn a wnaeth gan symud i Blas Brereton, sydd ar gyrion y dref ar lan y Fenai i gyfeiriad Bangor.
Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, agorwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ganddo ym 1816. Tua 1829 cymerodd Turner a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, ddiddordeb yn un o chwareli Dyffryn Nantlle ar dir Pant Du, chwarel a elwid ar y dechrau yn Gloddfa Turner ond a ddaeth ymhen amser yn Chwarel Dorothea.
Chwaraeodd ei ran ym materion y Sir, gan wasanaethu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1823-4, a Sir Feirionnydd 1832-3.
Mab iddo oedd Syr Llewelyn Turner a chwaraeodd ran helaeth yn natblygiad a gwelliant tref Caernarfon yn ail hanner y 19g.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), tt.929-30