Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Agorwyd '''Ysgol Capel Horeb''' fel ysgol breifat dan nawdd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y [[Bontnewydd]] tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym [[Melin Forgan]] ger [[Capel Bryn'rodyn]].
Agorwyd '''Ysgol Capel Horeb''' fel ysgol breifat dan nawdd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y [[Bontnewydd]] tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym [[Melin Forgan]] ger [[Capel Bryn'rodyn (MC)]].
Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau.

Parhaodd yr ysgol dan nawdd Capel Horeb hyd nes i'r pentref gael ysgol bwrpasol newydd, sef [[Ysgol Frytanaidd Rhostryfan|Ysgol Gynradd Rhostryfan]], ysgol gyhoeddus anenwadol, tua diwedd 1870. Am 30 mlynedd felly, roedd y capel wedi gofalu am addysg yr holl blant lleol (heblaw am yr ychydig rai a ddewisodd deithio i bentrefi cyfagos er mwyn mynychu ysgol eglwysig).
Parhaodd yr ysgol dan nawdd Capel Horeb hyd nes i'r pentref gael ysgol bwrpasol newydd, sef [[Ysgol Gynradd Rhostryfan|Ysgol Frytanaidd Rhostryfan]], ysgol gyhoeddus anenwadol, tua diwedd 1870. Am 30 mlynedd felly, roedd y capel wedi gofalu am addysg yr holl blant lleol (heblaw am yr ychydig rai a ddewisodd deithio i bentrefi cyfagos er mwyn mynychu ysgol eglwysig).

Hyd y gwyddys, er bod hyd at 100 o blant yn yr ysgol, dim ond un athro oedd yno ar y tro. Dyma restr o holl athrawon yr ysgol:
Hyd y gwyddys, er bod hyd at 100 o blant yn yr ysgol, dim ond un athro oedd yno ar y tro. Dyma restr o holl athrawon yr ysgol:
Llinell 11: Llinell 11:
* 1850-55  Benjamin Rogers
* 1850-55  Benjamin Rogers
* 1856        John Roberts
* 1856        John Roberts
* 1857-60  Griffith Jones, a ddaeth i Rostryfan o Fewifod, Sir Drefaldwyn
* 1857-60  Griffith Jones, a ddaeth i Rostryfan o Feifod, Sir Drefaldwyn
* 1860       Owen Griffith, a ddaeth o Sir Fôn
* 1860-3    Owen Griffith, a ddaeth o Sir Fôn. Fe'i codwyd yn flaenor yn Horeb yn fuan wedi iddo gyrraedd. Ymadawodd i fynd i'r Coleg Normal, Bangor.
* ?            Thomas Jones, Celyn Uchaf, Llanddeiniolen
* ?            Thomas Jones, Celyn Uchaf, Llanddeiniolen
* ?            Joihn Hughes (Idanfryn)
* ?            [[John Hughes (Idanfryn)]], a ddaeth yn wreiddiol o Frynsiencyn. Roedd yn athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn union cyn iddo ddod i Rostryfan.<ref>Gwefan Railbow  Dragon, [http://www.rainbowdragon.org/2016/11/16/the-strange-world-of-dr-price/], cyrchwyd 23.4.2020; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, LLsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')</ref>
* ?            John J. Roberts
* ?            John J. Roberts
* 1869-70  Parch. T. Gwynedd Roberts, y Gweinidog cyntaf ar gapel Horeb, a gytunodd i gadw'r ysgol hefyd nes i'r Ysgol Frytanaidd agor.<ref>Manylion o'r ysgol hon i'w cael yn W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt. 223, 226, 228, 236</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:58, 4 Mehefin 2022

Agorwyd Ysgol Capel Horeb fel ysgol breifat dan nawdd Capel Horeb (MC), Rhostryfan gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y Bontnewydd tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym Melin Forgan ger Capel Bryn'rodyn (MC).

Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau.

Parhaodd yr ysgol dan nawdd Capel Horeb hyd nes i'r pentref gael ysgol bwrpasol newydd, sef Ysgol Frytanaidd Rhostryfan, ysgol gyhoeddus anenwadol, tua diwedd 1870. Am 30 mlynedd felly, roedd y capel wedi gofalu am addysg yr holl blant lleol (heblaw am yr ychydig rai a ddewisodd deithio i bentrefi cyfagos er mwyn mynychu ysgol eglwysig).

Hyd y gwyddys, er bod hyd at 100 o blant yn yr ysgol, dim ond un athro oedd yno ar y tro. Dyma restr o holl athrawon yr ysgol:

  • 1840-5 Ellis Thomas
  • ?1845-9 W. Prichard, o Fodwrdda, plwyf Aberdaron
  • 1850-55 Benjamin Rogers
  • 1856 John Roberts
  • 1857-60 Griffith Jones, a ddaeth i Rostryfan o Feifod, Sir Drefaldwyn
  • 1860-3 Owen Griffith, a ddaeth o Sir Fôn. Fe'i codwyd yn flaenor yn Horeb yn fuan wedi iddo gyrraedd. Ymadawodd i fynd i'r Coleg Normal, Bangor.
  • ? Thomas Jones, Celyn Uchaf, Llanddeiniolen
  • ? John Hughes (Idanfryn), a ddaeth yn wreiddiol o Frynsiencyn. Roedd yn athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn union cyn iddo ddod i Rostryfan.[1]
  • ? John J. Roberts
  • 1869-70 Parch. T. Gwynedd Roberts, y Gweinidog cyntaf ar gapel Horeb, a gytunodd i gadw'r ysgol hefyd nes i'r Ysgol Frytanaidd agor.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Railbow Dragon, [1], cyrchwyd 23.4.2020; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, LLsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')
  2. Manylion o'r ysgol hon i'w cael yn W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt. 223, 226, 228, 236