Siôn Prichard Prys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Siôn Prichard Prys''' (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadawaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfansoddodd farwnad i...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Siôn Prichard Prys''' (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadawaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], cyfansoddodd farwnad i [[Edmund Price]], ficer [[Clynnog Fawr]], a fu farw ym 1721. Roedd yn fardd a ysgrifennodd mewn amryw o ffurfiau, o gywyddau ac englynion i gerddi rhydd. Nid yw'n hollol glir beth oedd ei gysylltiad ag Edmund Price ond o'r cywydd mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â'r teulu ac â'r eglwys. Mae'r marwnad ar ffurf ymgom rhwng y prydydd a'r eglwys, yn galaru am y gwrthrwch.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.759</ref>
Roedd '''Siôn Prichard Prys''' (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadwaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], cyfansoddodd farwnad i [[Edmund Price]], ficer [[Clynnog Fawr]], a fu farw ym 1721. Roedd yn fardd a ysgrifennodd mewn amryw o fesurau, o gywyddau ac englynion i gerddi rhydd. Nid yw'n hollol glir beth oedd ei gysylltiad ag Edmund Price ond o'r cywydd mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â'r teulu ac â'r eglwys. Mae'r farwnad ar ffurf ymgom rhwng y prydydd a'r eglwys, yn galaru ar ôl y gwrthrych.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.759</ref>


Mae'r marwnad dan sylw wedi ei atgynhyrchu yn erthygl Cof y Cwmwd ar Edmund Price. Ceir copi gweriddiol onono yn y Llyfrgell Genedlaethol.<ref>Llsg. Peniarth 196, t.20</ref>
Mae'r farwnad dan sylw wedi ei hatgynhyrchu yn erthygl Cof y Cwmwd ar Edmund Price. Mae'r copi gwreiddiol ohoni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.<ref>Llsg. Peniarth 196, t.20</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:10, 19 Mai 2022

Roedd Siôn Prichard Prys (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadwaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfansoddodd farwnad i Edmund Price, ficer Clynnog Fawr, a fu farw ym 1721. Roedd yn fardd a ysgrifennodd mewn amryw o fesurau, o gywyddau ac englynion i gerddi rhydd. Nid yw'n hollol glir beth oedd ei gysylltiad ag Edmund Price ond o'r cywydd mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â'r teulu ac â'r eglwys. Mae'r farwnad ar ffurf ymgom rhwng y prydydd a'r eglwys, yn galaru ar ôl y gwrthrych.[1]

Mae'r farwnad dan sylw wedi ei hatgynhyrchu yn erthygl Cof y Cwmwd ar Edmund Price. Mae'r copi gwreiddiol ohoni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.759
  2. Llsg. Peniarth 196, t.20