R. Silyn Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd '''Robert Silyn Roberts''' (1871-1930).
Gweinidog gyda'r Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd '''Robert Silyn Roberts''' (1871-1930).


Ganwyd ym [[Brynllidiart|Mrynllidiart]], ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd [[Cwm Silyn]]. Wrth droed Pen Cymffyrch y mae pentref [[Tan'rallt]].
Ganwyd ym [[Brynllidiart|Mrynllidiart]], ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd [[Cwm Silyn]]. (Bellach mae Brynllidiart yn adfeilion, ond mae plac arno yn nodi iddo fod yn gartref i Silyn a Mathonwy Hughes - a cheir dyfyniadau o'u gweithiau wedi eu paentio ar gerrig o amgylch y tŷ.) Wrth droed Pen Cymffyrch y mae pentref [[Tan'rallt]].


Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, o Niwbwrch, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Ganed iddi hi ddau blentyn, sef Silyn ac Ellen (Nel), mam [[Mathonwy Hughes]], bardd y Gadair Genedlaethol 1956.  Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.”  Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.<ref>Ceir ei hanes yn ''Silyn'' (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan [[David Thomas]], Gwasg y Brython, 1956.</ref>
Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), a aned ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, yn wreiddiol o Aberffraw, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Pan gafodd Silyn ei eni, roedd dau fab o un o'r ddwy briodas flaenorol yn byw gyda nhw - William (25 oed) a John (19 oed); roedd y naill yn dal yn "scholar" a'r llall yn deiliwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> Ganed dau blentyn i Ellen, sef Silyn ac Ellen Mary (Nel), mam [[Mathonwy Hughes]], bardd y Gadair Genedlaethol 1956.  Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.”  Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.<ref>Ceir ei hanes yn ''Silyn'' (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan [[David Thomas]], Gwasg y Brython, 1956.</ref>


Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog|Ysgol Clynnog]] yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o[[Tal-y-sarn| Dal-y-sarn]], a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.  
Gadawodd Silyn yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog|Ysgol Clynnog]] yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o[[Tal-y-sarn| Dal-y-sarn]], a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.  


Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r  enw Robert Roberts. Graddiodd yn 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. yn 1901 (M.A.) ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.  
Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r  enw Robert Roberts. Graddiodd ym 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. ym 1901 ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.  


Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni.  Yn 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest ''Trystan ac Esyllt.'' Wedi hyn cyhoeddodd ''Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill'', ac yna ''Telynegion'' mewn cydweithrediad â W. J. Gruffydd ym 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.  
Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni.  Ym 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest ''Trystan ac Esyllt.'' Wedi hynny cyhoeddodd ''Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill'', ac yna ''Telynegion'' mewn cydweithrediad â W. J. Gruffydd ym 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.  


Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).
Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).


Bu hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry yn y lluoedd arfog.  Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.
Bu hefyd yn darlithio yn U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y ddarfodedigaeth, a oedd yn achosi cymaint o farwolaethau bryd hynny. Ym 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry mewn catrodau "Cymreig" yn y lluoedd arfog.  Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.


O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd dosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac yn 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.  
O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd ar ddosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac ym 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.  


Ysgrifennodd lawer i’r ''Glorian'', ''Y Dinesydd Cymreig'', ''Welsh Outlook'', ayb.
Ysgrifennodd lawer i’r ''Glorian'', ''Y Dinesydd Cymreig'', ''Welsh Outlook'', etc.


Awdur y canlynol:  ''Gwyntoedd Croesion'', 1924 (cyf. o ddrama J.O. Francis, Cross Currents);  ''Bugail Geifr Lorraine'', 1925 (cyf. o nofel Ffrangeg); a’r nofel ''Llio Plas y Nos'' (1945).
Awdur y canlynol:  ''Gwyntoedd Croesion'', 1924 (cyfieithiad o ddrama J.O. Francis, ''Cross Currents'');  ''Bugail Geifr Lorraine'', 1925 (cyfieithiad o nofel Ffrangeg); a’r nofel ''Llio Plas y Nos''(1945).


Priododd yn 1905 â Mary Parry, Llundain. Cawsant ddau fab a merch.  Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.
Priododd ym 1905 â Mary Parry, Llundain. Daeth hithau hefyd i gryn enwogrwydd fel Mary Silyn Roberts, gan hyrwyddo'r un gwerthoedd ag a goleddai ei gŵr. Cawsant ddau fab a merch.  Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.




Llinell 27: Llinell 27:
O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r ''Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru''.
O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r ''Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru''.


--Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}



Golygiad diweddaraf yn ôl 17:06, 19 Mai 2022

Gweinidog gyda'r Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd Robert Silyn Roberts (1871-1930).

Ganwyd ym Mrynllidiart, ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd Cwm Silyn. (Bellach mae Brynllidiart yn adfeilion, ond mae plac arno yn nodi iddo fod yn gartref i Silyn a Mathonwy Hughes - a cheir dyfyniadau o'u gweithiau wedi eu paentio ar gerrig o amgylch y tŷ.) Wrth droed Pen Cymffyrch y mae pentref Tan'rallt.

Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), a aned ym mhlwyf Clynnog Fawr, yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, yn wreiddiol o Aberffraw, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Pan gafodd Silyn ei eni, roedd dau fab o un o'r ddwy briodas flaenorol yn byw gyda nhw - William (25 oed) a John (19 oed); roedd y naill yn dal yn "scholar" a'r llall yn deiliwr.[1] Ganed dau blentyn i Ellen, sef Silyn ac Ellen Mary (Nel), mam Mathonwy Hughes, bardd y Gadair Genedlaethol 1956. Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.” Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.[2]

Gadawodd Silyn yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i Ysgol Clynnog yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o Dal-y-sarn, a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.

Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r enw Robert Roberts. Graddiodd ym 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. ym 1901 ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni. Ym 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest Trystan ac Esyllt. Wedi hynny cyhoeddodd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, ac yna Telynegion mewn cydweithrediad â W. J. Gruffydd ym 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.

Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).

Bu hefyd yn darlithio yn U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y ddarfodedigaeth, a oedd yn achosi cymaint o farwolaethau bryd hynny. Ym 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry mewn catrodau "Cymreig" yn y lluoedd arfog. Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.

O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd ar ddosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac ym 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Ysgrifennodd lawer i’r Glorian, Y Dinesydd Cymreig, Welsh Outlook, etc.

Awdur y canlynol: Gwyntoedd Croesion, 1924 (cyfieithiad o ddrama J.O. Francis, Cross Currents); Bugail Geifr Lorraine, 1925 (cyfieithiad o nofel Ffrangeg); a’r nofel Llio Plas y Nos(1945).

Priododd ym 1905 â Mary Parry, Llundain. Daeth hithau hefyd i gryn enwogrwydd fel Mary Silyn Roberts, gan hyrwyddo'r un gwerthoedd ag a goleddai ei gŵr. Cawsant ddau fab a merch. Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.


Llyfryddiaeth

O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  2. Ceir ei hanes yn Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.