Morris Roberts (Eos Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Tad y Barch Ganon [[Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)]] oedd '''Morris Roberts (Eos Llyfnwy)''' (c1797-1876). Melinydd oedd o o ran ei alwedigaeth a dywedir mai fo, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref [[Y Bontnewydd]]. <ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131.</ref> Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei fod yn wybyddus fod un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd [[Evan Richardson]], y gweinidog o Gaernarfon.<ref>LLGC Dogfnnau Profiant, B/1825/104/W</ref>
Tad y Parchedig Ganon [[Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)]] oedd '''Morris Roberts (Eos Llyfnwy)''' (c. 1797-1876). Melinydd ydoedd o ran ei alwedigaeth a dywedir mai ef, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref [[Y Bontnewydd]]. <ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131.</ref> Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei bod yn wybyddus mai un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd [[Evan Richardson]], y gweinidog o Gaernarfon.<ref>LLGC Dogfennau Profiant, B/1825/104/W</ref>


Mab ydoedd i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i anwyd yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn [[Llwyn-y-gwalch]], ger [[Y Groeslon]], a dichon felly mai ef oedd melinydd [[Melin Llwyn-y-gwalch]] ar y pryd.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref>
Mab ydoedd Morris Roberts i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i ganed yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo ef a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn [[Llwyn-y-gwalch]], ger [[Y Groeslon]], a dichon felly mai ef oedd melinydd [[Melin Llwyn-y-gwalch]] ar y pryd.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref>


Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hyn, mai'r ''Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' yn dweud ei fod wedi cyhoeddi ''Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai...'' ym 1845 neu'n fuan wedyn.
Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hynny, mae'r ''Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' yn dweud ei fod wedi cyhoeddi ''Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai...'' ym 1845 neu'n fuan wedyn.


Fe'i gladdwyd ym mynwent Mellteyrn, Pen Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlwyd yr achos Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref>.
Fe'i claddwyd ym mynwent Mellteyrn yn Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlodd achos y Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref>.





Golygiad diweddaraf yn ôl 16:37, 17 Mai 2022

Tad y Parchedig Ganon Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) oedd Morris Roberts (Eos Llyfnwy) (c. 1797-1876). Melinydd ydoedd o ran ei alwedigaeth a dywedir mai ef, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref Y Bontnewydd. [1] Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei bod yn wybyddus mai un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd Evan Richardson, y gweinidog o Gaernarfon.[2]

Mab ydoedd Morris Roberts i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i ganed yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo ef a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, a dichon felly mai ef oedd melinydd Melin Llwyn-y-gwalch ar y pryd.[3]

Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hynny, mae'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 yn dweud ei fod wedi cyhoeddi Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai... ym 1845 neu'n fuan wedyn.

Fe'i claddwyd ym mynwent Mellteyrn yn Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlodd achos y Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.[4].


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131.
  2. LLGC Dogfennau Profiant, B/1825/104/W
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810