Morris Roberts (Eos Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Tad y | Tad y Parchedig Ganon [[Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)]] oedd '''Morris Roberts (Eos Llyfnwy)''' (c. 1797-1876). Melinydd ydoedd o ran ei alwedigaeth a dywedir mai ef, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref [[Y Bontnewydd]]. <ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131.</ref> Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei bod yn wybyddus mai un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd [[Evan Richardson]], y gweinidog o Gaernarfon.<ref>LLGC Dogfennau Profiant, B/1825/104/W</ref> | ||
Mab ydoedd Morris Roberts i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i ganed yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo ef a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn [[Llwyn-y-gwalch]], ger [[Y Groeslon]], a dichon felly mai ef oedd melinydd [[Melin Llwyn-y-gwalch]] ar y pryd.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref> | |||
Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hynny, mae'r ''Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' yn dweud ei fod wedi cyhoeddi ''Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai...'' ym 1845 neu'n fuan wedyn. | |||
Fe'i claddwyd ym mynwent Mellteyrn yn Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlodd achos y Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.810</ref>. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Llinell 8: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Melinwyr]] | |||
[[Categori:Beirdd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:37, 17 Mai 2022
Tad y Parchedig Ganon Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) oedd Morris Roberts (Eos Llyfnwy) (c. 1797-1876). Melinydd ydoedd o ran ei alwedigaeth a dywedir mai ef, ynghyd â thri arall, a gododd y felin sy'n sefyll ar bwys y bont ym mhentref Y Bontnewydd. [1] Byddai hyn o gwmpas 1820, ac yntau'n ddyn ifanc, gan ei bod yn wybyddus mai un o'r cyfranddalwyr at brydles y felin erbyn 1823 oedd Evan Richardson, y gweinidog o Gaernarfon.[2]
Mab ydoedd Morris Roberts i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd) ac fe'i ganed yn Llanystumdwy. Ym 1827, pan anwyd Ellis iddo ef a'i wraig Margaret, roedd y teulu'n byw yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, a dichon felly mai ef oedd melinydd Melin Llwyn-y-gwalch ar y pryd.[3]
Er ei fod yn fardd a fagodd ddigon o sylw i gael ei adnabod wrth ei enw barddol, ychydig a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau. Serch hynny, mae'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 yn dweud ei fod wedi cyhoeddi Awdl Marwnad y Parch, Edward Jones, A.C. Curad Parhaus Llandegai... ym 1845 neu'n fuan wedyn.
Fe'i claddwyd ym mynwent Mellteyrn yn Llŷn. Brawd iddo oedd Edward Morris a sefydlodd achos y Bedyddwyr Cymraeg ym Mirmingham.[4].